Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weinyddol

weinyddol

Yn y cyfarfod hwn fe alwodd y Gymdeithas am rywun oedd yn siarad Cymraeg i reoli'r adran addysg ac ar i'r cyngor ail-edrych ar y polisi iaith gan gyda'r bwriad o wneud y Gymraeg yn iaith weinyddol y Cyngor.Yn wir mae Meryl Gravell wedi mynd mor bell a dweud ei bod yn barod i ymddiswyddo os na lwyddith hi i weithredu'r gofynion hun.

Eithr y tu allan i fyd y plentyn a'r ysgol erys y ffaith mai Saesneg yn unig sy'n angenrheidiol i bob swydd neu offis weinyddol yng Nghymru.

'Mae un coleg wedi'i droi'n ganolfan weinyddol i'r Gwarchodwyr a'r llall yn ganolfan addysg i rai dethol a fydd yn do arall o Warchodwyr.' 'Ond beth am y colegau eraill?'

Y Swyddog Gweinyddol sy'n gyfrifol am yr ochr weinyddol i weithgarwch y Gymdeithas -- golyga gydweithredu â'r Swyddogion Codi Arian, Mentrau Masnachol, Aelodaeth a'r Trysorydd.

b) senedd gyflawn yn trafod pwnc gosod o ddiddordeb cyffredinol yn y bore, ac yn y sesiwn brynhawn, yn dilyn (bob yn ail) adroddiadau rhanbarthol neu weinyddol/cyllid.

Chwarae teg i'r Llywodraeth, trwy ryw bedair canrif o lywodraethu Cymru, er pob tro ar fyd, er pob newid ar ddull y Senedd a moddion llywodraeth, er pob chwyldro cymdeithasol, ni bu erioed anwadalu ar y polisi hwn o ddiddymu'r iaith Gymraeg yn iaith weinyddol mewn na swydd na llys nac unrhyw ysgrif gyfreithiol.

Ac ar 'sgwydda Sioned y bydd ochor weinyddol y sioe o hyn ymlaen p'run bynnag.' Cymerodd Sioned lymaid bychan o ddiod.

Rhoddir cefnogaeth weinyddol i gyfarfod o weithwyr sydd ynglyn a gwirfoddolwyr o bob rhan o ogledd Cymru.

Cadwai Syr John Wynn dŷ yng Nghaernarfon, canolfan weinyddol yr hen Dywysogaeth yn y gogledd, ac uchel yw ei glod i'r dref honno fel y bu tua chanol y bymthegfed ganrif.