Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weithgar

weithgar

Gwnâi hyn ni'n fechgyn atebol ac iach ac roedd y fagwraeth weithgar a chaled a gawswn i, yn ddiamau, o gymorth mawr ar dreialon dygn fel hyn.

Drwy gyfrwng y colofnau hyn, bu Dewi Mai yn weithgar iawn yn ennyn diddordeb y cyhoedd gyda sawl sylw dadleugar, trwy drefnu nifer o gystadlaethau, ac ambell waith trwy fentro cyhoeddi rhestr y gwyddai'n iawn a fyddai'n debyg o dynnu nyth cacwn i'w ben.

Roedd hi'n weithgar iawn yn ei chapel, sef Bethania, ac mi gadwodd fflam ei ffydd Gristnogol tan ddiwedd ei hoes, er gwaetha'r cyfnodau mynych o afiechyd.

'W^n i ddim a oedd yna aelodau gwir weithgar yng Nghymru yn gofyn y cwestiynau yn y modd hwn y pryd hynny, ond myfyriwr ymchwil yng Nghaergrawnt oeddwn i, ac yr oedd yno grŵp cryf o bleidwyr.

GWYBODAETH GYFFREDINOL Ffurf y Sesiynau Seilir y cyrsiau ar seminarau/ gweithdai gyda'r pwyslais ar ddysgu ymarferol, a disgwylir i bob myfyriwr chwarae rhan weithgar yn y sesiynau hyn.

Yn enedigol o'r ardal - fe'i magwyd yn Nhalysarn - dywed i'r holl bwyllgorau fod yn eithriadol o weithgar ac er fod llai o "ddwylo'' i'w cael nag mewn ambell ardal arall oherwydd poblogaeth denau ni fu pall ar eu brwdfrydedd, meddai.

Yr ydym felly, yn ogystal â darparu rhaglen lawn o weithgareddau i hybu'r Gymraeg yn y gymuned, mewn cydweithrediad ag awdurdodau ac asianteithiau eraill, yn weithgar ym meysydd datblygu'r economi, gwella'r amgylchfyd a thai a chynllunio.

Ond mwy rhyfeddod yw'r bersonoliaeth gymhleth -þ ddireidus, ddifrif, ofnus, feiddgar, fyfyriol, weithgar - a dreuliodd ddyddiau a nosau ei blynyddoedd "er mwyn Cymru%.

Wrth reswm mae pawb bron yn unfrydol ynglyn â chydnabod y cyfraniad Meic Stevens i'r byd roc dros y blynyddoedd ac yr oedd yn hen bryd i Les Morrisson dderbyn gwobr am ei waith fel cynhyrchydd gorau ac i ddangos fod Les yn dal i fod mor weithgar - ef sydd wedi cynhyrchu albym newydd Maharishi - Merry Go Round fydd allan ddiwedd y mis ‘ma.

Mae CiF wedi parhau i fod yn weithgar ym maes cyffredinol gofal am blant yng Nghymru, ac mae wedi cefnogi'r camau 'Plant yng Nghymru' newydd i ddatblygu corff aml-asiantaeth i hyrwyddo lles plant yng Nghymru.

Mae'r clwb wedi bod yn weithgar ac yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd o dan arweiniad Tom, gydag aelodau o'r clwb yn mynd yn eu blaen i gystadlaethau sirol a gwladol, yn ogystal a chynnal gweithgareddau eraill.

Is-bwyllgor yr Anabl: Yn ôl eu harfer yr oedd y pwyllgor hwn eto wedi bod yn hynod o weithgar fel y gwelwyd o adroddiad Nancy Lovatt.

Hanes y myfyriwr, Lenz, sydd yma, dyn ifanc a oedd wedi bod yn weithgar ynghanol cynnwrf y chwedegau ond sydd, ar ôl cael ei siomi pan ddaeth y cyfan i ben, yn teimlo'n gynyddol ynysig.

dyna'r flwyddyn pan benodwyd y parchedig henry richard yn ysgrifennydd y gymdeithas a bu'n weithgar a llwyddiannus yn ei swydd am dri deg a saith o flynyddoedd.

Ynghyd a defnyddio'r isotop ymbelydrol arbennig yma i sefydlu pa mor effeithiol y mae'r thyroid yn gweithio, gellir hefyd ei ddefnyddio i drin chwarren or-weithgar (e.e.

O'r Melody Maker ar Fawrth y 6ed -- yn ôl y Super Furry Animals, mae Alun Llwyd wedi bod yn weithgar iawn heb yn wybod i ni...

Mi gyfrannwyd yn helaeth ganddi yn ei chymdogaeth gyda Dilwyn, mi sefydlwyd y 'Clwb Strôc' ym Maesteg, roedd hi'n weithgar gyda Ffrindiau'r Ysbyty, yn aelod o'r Olwyn Fewnol, ac yn un o'r rheini oedd yn gofalu am yr anghenus a thlawd bob Nadolig o dan nawdd y Cyngor Eglwysi.

Daeth i sylweddoli fod Gwion yn unigolyn, yn berson a oedd yn hoffi llwyddo, ac fel yr esbonia Gwynn, 'nid yn rhan annatod o'r cyfundod a elwid y mentally handicapped.' Daeth yn weithgar gyda Chymdeithas Mencap Caernarfon a'r cylch.

Y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei dro yn weithgar ar sawl ffrynt i feithrin "rhwydweithiau% rhwng gwahanol rannau o Ewrop yn enwedig rhwng y parthau tlawd a'r cyfoethog ac y mae nifer o raglenni ar gael i feithrin hynny.