Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weithgaredd

weithgaredd

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Hawliau Lles yr Anabl hanes hir o weithgaredd arbnigol ym maes anabledd.

Fe awgrymodd y dylid rhoi swm o gyllid i gynhyrchydd ar gyfer bandiau gwahanol o weithgaredd, ac yn y blaen.

Yn ail, cynhaliwyd Gwyl Ddrama CYD yn Nolgellau, enghraifft wych o weithgaredd lle bu ymarfer ar y cyd rhwng Cymry Cymraeg a Dysgwyr dros gyfnod o wythnosau.

Penderfynwyd hefyd mai trwy weithgaredd neu gwestiwn a fyddai'n ysgogi adfyfyrio ac ambell sylw'n dilyn hynny wedyn y byddid yn cyflwyno.

Rydym eisiau gwybod suth fath o broblemau sy'n codi, ac ymhle, felly os gwyddoch am unrhyw weithgaredd fel hyn yn eich ardal, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.

Pedair blynedd a barhaodd hwn er hynny gan i long y cwmni suddo mewn storm enbyd gerllaw Lerpwl ac oherwydd hynny daeth terfyn ar yr holl weithgaredd.

Rhoddodd y llywodraeth derfyn ar weithgaredd a chyhoeddiadau sawl mudiad adain dde, ac er nad oeddent yn gweld angen creu deddfau newydd, llymach, roeddent yn addo cryfhau'r rhai a oedd yn bod eisoes.

Mae ei swydd newydd yn cyfuno cyfrifoldeb dros arwain a rheoli holl weithgaredd peirianyddol S4C yn ogystal â'i hanghenion Technoleg Gwybodaeth.

Wedi gadael Berlin fe beidiodd i raddau helaeth ag ymgymryd ag unrhyw weithgaredd gwleidyddol ac felly nid oes ganddo syniad lle i droi am gymorth a chyngor pan mae'r angen yn codi.

Nid yw hyn o angenrhaid yn golygu dosbarthiadau cadw'n heini o'r math 'aerobig' egniol, mae'n golygu cyfnodau eithaf hir o weithgaredd lle nad ydych yn cael eich gwthio i'r eithaf e.e., cerdded yn eithaf cyflym, loncian ar gyflymdra cyfforddus, nofio neu seiclo.

Mae treulio wythnos yn theatr Fach wedi bod yn brofiad addysgiadol iawn i BW wrth sylwi ar holl weithgaredd tu ol i lenni'r Theatr ac mae'r hyn y mae wedi ei weld wedi ennyn brwdfrydedd ac edmygedd.

Tybir bod y llithro rhwng ffibrilau sy'n gysylltiedig a'i gilydd yn deillio o weithgaredd y breichiau dynein.

Ar y pryd, edrychai yn beth digon rhwydd i ddarganfod y peirianwaith sylfaenol a reolai weithgaredd silia.

Mae'r Gwasanaeth Lleoli Athrawon yn weithgaredd a gynhelir gan bartneriaethau addysg busnes lleol wedi'i gyllido gan yr Adran Gyflogaeth, Swyddfa'r Albanaidd a'r Swyddfa Gymreig.