Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weithgarwch

weithgarwch

Yr oedd gweithgarwch Humphrey Llwyd ym maes mapio - un o feysydd dysg pwysig y cyfnod - yn rhan felly o'i weithgarwch fel hanesydd yn y traddodiad dyneiddiol, corograffig.

Cyfyngu ar weithgarwch cyd-lynu PDAG

'Roedd yno rywfaint o'r hen awyrgylch bendefigaidd yn aros, a theimlem, rywsut, fod yr hen adeilad urddasol yn bendithio, ac yn estyn ei nawdd, i weithgarwch y penwythnos hwnnw.

Bydd y gyllideb gwerthiannau yn dangos faint o gynnyrch yr arfaethir ei werthu a'r elw gros y gellir ei ddisgwyl oddi wrtho; bydd y gyllideb gynhyrchu yn dangos y nifer a'r mathau o nwyddau y bwriedir eu cynhyrchu, a'u gwerth, ac yn y blaen, am bob agwedd ar weithgarwch y busnes.

Mae llawer o weithgarwch gwirfoddol yn mynd ymlaen yn y Swyddfa hefyd.

Ceir cofebau a chroesau o garreg sy'n dyst i weithgarwch Cristnogol cynnar ac adlewyrchir enwau'r saint yng Nghymru mewn enwau lleoedd megis Llandeilo, Llanddewi, Llansantffraid.

Yr oedd yma weithgarwch heno, 'waeth pa mor amrwd a blêr, nad oedd yn ddiamcan.

Cyfrannu erthyglau amrywiol ar weithgarwch CYD i'w cynnwys yng ngholofn Gymraeg y Llanelli Star.

Credid y byddai unrhyw weithgarwch rhywiol ar ran dynion a merched yn annog y ddaear i dyfu.

Yn lled dywyllwch y capel y mae Ceri Sherlock a thri arall yn eu cwman dros offer sain a sgrins yn cydgordio'r holl weithgarwch yn fyddar i diwn y criced yn y waliau.

Trwy undeb a chydweithrediad pawb o'r gynulleidfa, yn frodyr a chwiroydd, llwyddwyd hefyd i glirio'r ddyled oedd yn aros ar derfyn yr holl weithgarwch.

Daeth y clas yn Llanddewi Brefi'n ganolfan dysg a diwylliant yn ogystal â bod yn gartref i lawer o weithgarwch cenhadol.

Y Swyddog Gweinyddol sy'n gyfrifol am yr ochr weinyddol i weithgarwch y Gymdeithas -- golyga gydweithredu â'r Swyddogion Codi Arian, Mentrau Masnachol, Aelodaeth a'r Trysorydd.

Yn ddiweddar rhoes ddisgrifiad byw o'i weithgarwch mewn dwy gyfrol arbennig o ddiddorol, sef Holy Ghostbuster.

Annibynnwr oedd ef, ond ni wnâi hynny lawer o wahaniaeth yn yr oes honno; cadwai brodyr un enwad lygad barcud ar weithgarwch y llall.

Gwyddys hefyd fod canu baledi yn weithgarwch poblogaidd ymhlith rhai o drigolion y dyffryn, a'r rheini'n aml yn wŷr a brofodd ddyddiau gwell, megis Evan Nathaniel, brodor o'r Alltwen yn wreiddiol, a fu'n crwydro'r cymoedd yn canu a gwerthu baledi.

Yn gysylltiedig â'r egwyddor uchod daeth pwyslais hefyd ar weithgarwch ac ymroddiad lleol ac ar ymgynghori gofalus rhwng pobl o wahanol haenau o lywodraeth - dychwelir at hyn ar y diwedd.

Onid gwell fyddai derbyn yr arian yn ddiolchgar - ond, yn hytrach nai bocedu, ei ddefnyddio i hyrwyddo rhyw weithgarwch yn eu hetholaeth.

Mae yma ymdriniaeth â llawer o bynciau mewn cwmpas byr, â gwaith Theophilus fel awdur a chyfieithydd, â'i ddawn fel chwedleuwr difyr a hoffus, â'i gredoau a'i weithgarwch fel eglwyswr, ac â'i wladgarwch Cymreig a Phrydeinig.

Gan fod busnes yn weithgarwch sydd yn ymestyn dros gyfnod, mae cyfnewidiadau dros amser yn aml yn bwysicach na'r sefyllfa fel y dangosir hi yn y ffigurau ar ddyddiad arbennig.

Does dim rhaid i waith cyfoed fod yn weithgarwch gr^wp - gellir hefyd ei ddarparu drwy gynghori a chefnogaeth bersonol.

Yno parhaodd ei weithgarwch llenyddol a hybodd fuddiannau diwylliannol y genedl.

Fel ail reswm cyffredinol dywedir bod y cyfnod llewyrchus yma'n deillio o'r datblygiadau yn ein gwybodaeth am weithgarwch yr economi: fod syniadau Keynes, a'r datblygiadau mewn polisi%au a adeiladwyd ar y seiliau damcaniaethol hynny wedi galluogi'r Llywodraeth i gadw'r economi ar lwybr cul, heb ormod o chwyddiant na thyfiant.

Mae aelodau'n derbyn cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn ac mae gwahoddiad iddyn nhw ddod i'r cyngherddau a'r cyflwyniadau sy'n deillio o weithgarwch gyda chymunedau lleol.

O'i fewn gwelir golygfeydd hyfryd naturiol, nid o waith llaw, ac hefyd batrymau hynod o bleserus o weithgarwch dyn ar hyd yr oesau.

I Brandon yntau, Selotiaeth yw'r allwedd i weithgarwch Iesu ac ymwrthyd â'r ddelwedd o dangnefeddwr di-drais.

Gwybodaeth am weithgarwch y Gymdeithas a'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Wladfa ym Mhatagonia.

Gwnaeth Penri y rhan fwyaf o'i waith yn sir Northampton, yn esgobaeth Peterborough ac ni ellir gwerthfawrogi'n llawn gymhellion ei weithgarwch heb gymryd hynny i ystyriaeth.

Y mae'n werth cofio bod llawer yng Nghaerdydd heddiw a all ddiolch am eu swyddi breision i weithgarwch Plaid Cymru fel grŵp ymwthiol.

Heblaw unigolion a theuluoedd fe ddaeth newydd-ddyfodiaid eraill i'n mysg yn ail chwarter y ganrif hon, sef y mudiadau newydd fel Sefydliad y Merched a Chlybiau'r Ffermwyr Ifainc, Cymdeithas y Capel, Dosbarth Allanol y Coleg a llawer o weithgareddau eraill a alluogodd y plwyf i ennill y lle blaenaf mewn cystadleuaeth sirol ar weithgarwch ardal wledig.

Ei brif weithgarwch erbyn hyn, fodd bynnag, yw paratoi ar gyfer 'y Guba Newydd' y mae'n credu sydd ar fin gwawrio.

Daeth y discos, y bingo, agor tafarnau a siopau, a phob chwaraeon yn rhan o weithgarwch y Sul.

Rhan o weithgarwch Gwyl Caerdydd oedd hyn syn cynnwys pob math o berfformiadau stryd i godi calon rhywun.

Ni allai CYD ddarparu rhaglen mor gyflawn o weithgareddau yn yr ardal hon heb weithgarwch y Swyddog Cyswllt.

Y mae enghreifftiau o fewn rhai systemau bywyd lle mae cyfansoddion neilltuol wedi eu disodli gan rai eraill nad ydynt yn rhai naturiol, heb amharu ar weithgarwch yr organebau.

Un rheswm am y duedd yw fod gan y beirdd eu hutgorn misol, sef Barddas, heb son am ddawn ffanfferaidd Alan Llwyd fel lladmerydd Cymdeithas Cerdd Dafod, a'i weithgarwch di-ben-draw fel bardd, golygydd a threfnydd Cyhoeddiadau Barddas.