Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weithiwr

weithiwr

Roedd yn weithiwr caled a chydwybodol ond rywsut doedd o byth yn llwyddo i wneud llawer o arian.

Diweddodd Phil ei yrfa yn y gwaith tun fel rowlwr yn y Ffôr, ac ystyrid ef gan bawb yn weithiwr heb ei ail - a dyna farn rheolwr y gwaith hefyd.

Oherwydd mecaneiddio taflwyd aml i weithiwr ar y clwt a'r canlyniad oedd fod llawer llai yn ennill cytlog mewn amaethyddiaeth.

Dymunwn ddiolch a dymuno yn dda i weithiwr Aberconwy sydd wedi ymddeol ar ol rhoi gwasanaeth gwerthfawr trwy gasglu sbwriel o amgylch yr ardal.

Bydd rheolwr gofal cartref neu weithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi.

Cydweithredwyd gyda'r Cynghorau Iechyd Cymdeithas i baratoi cais i sylw'r Awdurdod Iechyd am arian i dalu am weithiwr ymchwil.

'Yn eich tyb chi, 'rydach chi'n weithiwr ac yn rheolwr?

Yr oedd yn rhaid i mi wneud peth i'r ddau weithiwr hefyd.

Ni ellir dweud ei fod yn weithiwr caled, - nid trin tir, nid ffarmio oedd ei beth mawr.

Gofynna i gyd-weithiwr iddo geisio ffonio hefyd, ond heb lwc.

Yn yr Wythdegau, yr elfen fwyaf ddiamddiffyn fyddai'r elfen o fod yn weithiwr ac o beidio a rheoli.

O reidrwydd, hefyd, bydd gofyn sôn cryn dipyn am ei gyfaill a'i gyd-weithiwr, William Salesbury.

Anodd oedd i grefftwr neu weithiwr a gwas gyrraedd y swydd barchus arswydus' o gael ei ethol yn flaenor.

Yr oedd yn weithiwr tun bob modfedd ohono, gyda'i ddillad a'i lestri bwyd yn lân ac yn ddestlus bob amser.