Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weithred

weithred

Cyndyn iawn i gymryd rhan mewn unrhyw weithred filwrol fu'r Almaen ers ailuno'r wlad yn 1989 oherwydd y cof am ddinistr yr Ail Ryfel Byd.

Yn ystod ei gyfnod yn y fyddin, fodd bynnag, mae'n disgrifio un weithred arwrol a wnaeth pan yn croesi Môr India.

(Yng nghyd- destun y Cymal hwn golyga "o natur rywiol amlwg" weithred, pe'i perfformiwyd yn gyhoeddus a ystyrid yn fasweddus).

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

I'n cyndadau, fodd bynnag, roedd gosod esgid ar fwrdd yn anlwcus oherwydd fod y weithred yn eu hatgoffa o esgidiau am draed y truan oedd yn aros i'w grogi.

Trefnwyd y weithred gan ein haelodau yn Nyffryn Teifi.

yr oedd yr ergyd o drydan a ddeilliai o'r weithred yma yn achosi i'r ruban papur yn y peiriant derbyn, yn y pen arall, gael ei wasgu am ennyd yn erbyn yr olwyn lythrennau, a thrwy hynny yn achosi argraffu'r lythyren arbennig honno.

Yn yr amgylchiadau hyn, a'r Basgiad yn ymladd dros ei hunaniaeth Fasgaidd, "y mae iddo siarad ei iaith ei hun yn weithred chwyldroadol".

Y weithred yma, o dderbyn pum cant o gopi%au o lyfrau lliwgar, syml Collins, oedd yr un gymwynas fawr a wneuthum dros lyfrau Cymraeg yn ôl Wyn Burton, Llyfrgellydd Ysgolion ar y pryd.

Yr oedd y weithred hon yn fy nharo yn weithred dlos o ffydd a chariad.

Medrid mynd â'r achos o flaen tribiwnlys ond gan nad oedd gan unrhyw un a gyhuddid o fod eisiau dymchwel llywodraeth etholedig y wlad hawl i gael gwybod pa weithred neu ddatganiad ar ei ran a oedd wedi achosi'r amheuon gwreiddiol, amhosib oedd paratoi amddiffyniad effeithiol.

Yr 'iawn' oedd y cyfrwng, boed yn weithred neu'n dâl, a wnaed er mwyn eu cymodi.

Doedd yr un weithred fudr gan aelodau'r hil ddynol yn ei synnu ef bellach.

Er fy mod yn gyfarwydd a'r gair nithlen - nithlan i mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd y sach gwreiddiol ni wyddwn mai'r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu'r us oddi wrth y grawn" a'r bathiad yn gwbl resymol o weld mai'r enw am "un yn gwyntyllio... ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a'r enw ar y weithred yn nithio.

Un weithred rywiol, dreisgar, yw'r 'nofel' hon.

Ac onid oedd y ffaith mair gair Paedo a beintiwyd ar furiau ty yng Nghasnewydd yn ârwyddocaol? Go brin y gallair un o'r rhai a gyflawnodd y weithred sillafur gair cyfan.

Mae pwyslais ar y ferf gyflawn - 'Aeth' - ac y mae'r wybodaeth am ei deimladau wedi'i chyflwyno fel petai'n ddibynnol ar y weithred: 'Aeth .

Mae amseriad y ferf yma hefyd, sef y amser perffaith yn golygu rhywbeth sydd wedi yn ganlyniad i weithred a gyflawnwyd yn y gorffennol.

Dathliad pwysig arall yw Dydd Oxi (sy'n golygu Na) ar Hydref 28 i gofio'r dydd y penderfynodd y Prif Weinidog ddweud Na a gwrthod mynediad i'r Eidalwyr i'r wlad yn 1940 - y weithred a sicrhaodd fod y Groegwyr yn ymuno â'r Ail Ryfel Byd.

Fe'm trawyd yn rhyfedd ar fy ymweliad cyntaf ag Ysgol Haf o'r Blaid fod pobl yn tybio mai plaid wleidyddol oedd y cyfrwng priodol ar gyfer gweithredu uniongyrchiol, pa un a oedd y weithred honno yn un y gellid ei chyfiawnhau ai peidio.

O'r braidd y gellid taro ar fodd mwy anuniongyrchol o gyflwyno'r brif weithred.

Derbyniodd yn ysbrydol ac yn feddyliol drwy dy weithred di.

Ystyr prynedigaeth, yn ôl y drefn honno, oedd y weithred o dalu pridwerth er mwyn rhyddhau rhywun neu rywbeth a fu gynt yn rhydd ond a gafodd ei gaethiwo.

Ni all fod yn gwbl annibynnol oddi wrth y weithred.

Yn ôl Dylan Phillips, 'Go brin fod gan yr aelodau cyffredin y diddordeb lleiaf yn yr athronyddu a'r gwleidydda: profiadau uniongyrchol y brotest a'r weithred a oedd yn eu diddori hwy' (t.181). I fudiad ymgyrchu dyma un o'i gryfderau: tra bod rhai mudiadau eraill yn trafod beth i'w wneud, mi roedd aelodau'r Gymdeithas yn gweithredu ac yn tynnu sylw at ddiffyg statws yr iaith.

basai'n cymryd ugain tudalen i ddisgrifio'r weithred o agor drws, a hyd yn oed wedyn, nid y weithred o agor drws a geid eithr disgrifiad mewn geiriau o'r weithred, a fyddai hwnna ddim yn realiti'.

Daethpwyd i esbonio marwolaeth Crist fel y weithred lle cymerodd Duw bechod ac euogrwydd dyn arno'i hun ym mherson y Mab.

Yn yr un weithred yna, roedd hi'n bosib' rhagweld y ffordd y mae `rheolaeth newyddion' wedi datblygu, nes arwain at sensoriaeth gyfrwys Rhyfel y Gwlff.

Gellid dadlau mai amddiffyniad oedd lladd y Gwyddyl yn y sachau, ond ni ellir osgoi'r argraff bod Efnysien yn mwynhau'r weithred.

Pum mlynedd o garchar i chi am beidio â hysbysu'r awdurdodau am weithred derfysgol.

Tybiai y byddai'r weithred olaf hon yn dod â heddwch o'r diwedd iddi hi a'i thri phlentyn.