Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weithwyr

weithwyr

Yn aml fe gafodd y Chwaer Jean ei dihuno gan filwyr arfog ganol nos a'i chroesholi am eu bod nhw'n amau ei bod hi a'i chyd-weithwyr yn rhoi lloches i'r FMLN.

Pont newydd Cleddau yn disgyn gan ladd pedwar o weithwyr.

Am ganrif gyfan bu mil oedd o weithwyr dan yr hen drefn yn trethu eu nerth a cholli llawer o chwys, a daethai'r cyfnod hwnnw i ben.

* Trafodwch gyda chyd-weithwyr sut y gallai lleoliadau gyfoethogi eu gweithgareddau proffesiynol nhw

mater gweddol hawdd wedyn oedd i weithwyr y telegraffau yn y ddau ben diwnio eu peiriannau mewn cytgord a'u gilydd, trwy wrando ar y nodau.

Thema ymchwil Wolfgang Kra%tchmer a'i gyd-weithwyr yn Heidelberg a Donald Huffmann yn Arizona dros gyfnod o amser oedd astudio llwch rhyngserol gan dybio mai carbon fyddai'r elfen fwyaf cyffredin yn y llwch.

Dringasom i fyny o'r heol sy'n arwain i Landysul yn ymyl pont y rheilffordd sy'n ei rhychwantu, gan daro'n lwcus ar un o gyn-weithwyr y rheilffordd, yn pladuro godre'r embancment.

* fy nghyd-weithwyr uniongyrchol?

Mynd yno wnes i i weld criw o weithwyr yn gorffen codi pentre' Celtaidd - tri thŷ crwn nodweddiadol o'r cyfnod cyn hanes, wedi'u rhoi at ei gilydd gyda dulliau mor debyg â phosib' i ddulliau'r Celtiaid .

Ac y mae miloedd ar filoedd o weithwyr dur a glo a neilon a'r crefftau newydd o bob math na wyddan' nhw ddim bellach hyd yn oed fod yr iaith.

Pump o weithwyr yr Antur - Michael, Gwen, Gwenda, Eira a Bridget, a Tanwen sydd yn Waunfawr ar brofiad gwaith - sy'n cynhyrchu'r nwyddau blodau sychion, bagiau pot pourri ac ati a werthir yn y siop.

Bydd Merched y Wawr yn gyfrifol am ddarparu bwyd a gofalu am feithrinfa, bydd angen timoedd o weithwyr felly!

Ond, yn unol â neges Timothy Edwards, Cefn-mein, gwraig weddw a ddychwelodd i Blas Nanhoron y noson honno a'i gwedd-dod annisgwyl hi wedi cyffwrdd eigion calonnau holl weithwyr y Plas ond bod gan bob un ohonynt ei eli'i hun i'w roi ar y briw.

Faint o weithwyr a gyflogir yno ?

Gofynnai hynny am lawer iawn o weithwyr ac o ganlyniad roedd byd amaeth a chefn gwlad yn llawer mwy lluosog eu poblogaeth.

Fe fodlonodd Daniel O'Connell a'i gyd-weithwyr ganrif a hanner yn ôl i'r Wyddeleg farw.

Yn gyntaf, mae rhy ychydig o weithwyr ar ffermydd erbyn heddiw.

Mae'n rhaid i weithwyr gofal wneud yn siwr fod defnyddwyr y gwasanaeth yn gallu datblygu syniad clir o hunan-ymwybyddiaeth a gwerthoedd personol.

yn dangos mor hanfodol yw cymorth tîm o weithwyr cenedlaethol a sirol brwdfrydig sydd yn medru cario athrawon (a phrifathrawon) eraill gyda nhw.

Mae'r achosion mwyaf difrifol yn derbyn gofal rownd-y-cloc gan weithwyr Cronfa Achub y Plant mewn pebyll arbennig.

Gallai ddifetha llafur blynyddoedd o weithwyr mewn un prynhawn.

Syniadau ar sut i gael cefnogaeth ac ennill gwobr Ceisiwch gael cymorth eich teulu a'ch ffrindiau; eich partner, plant, mam, tad, chwaer, brawd, ffrindiau, cyd-weithwyr - unrhyw un, ond ceisiwch gael rhywun i arwyddo'ch cytundeb.

Mae 'na weithwyr da i'w cael ym mhentref Waunfawr, ger Caernarfon.

Yn yr un flwyddyn aeth rhai o weithwyr Cwmni Rheilffordd Cwm Taf ar streic.

Gosododd allan ystadegau profadwy yn dangos beth oedd y cyflogau wythnosol i weithwyr â sgiliau neu heb sgiliau ganddynt, gan geisio llunio cymhariaeth costau byw, i brofi bod rhieni'n ennill digon i dalu am addysg plant.

Fe ŵyw y cyfarwydd am ymchwil Neil Wright a'i gyd-weithwyr i ddirgelion traddodiad testunol Sieffre, a blaenffrwyth y gwaith hwnnw yw'r argraffiad gofalus hwn.

Ni chlywais i'r un gof gwlad grynhoi llawer o gyfoeth, er ei fod, ar y cyfan, yn un o'r rhai a weithiai galetaf o bob dosbarth o weithwyr.

Roedd rhai o weithwyr a chyn-weithwyr y gwesty wedi dweud wrth "Taro Naw" eu bod wedi eu gwahardd rhag siarad Cymraeg yng ngwydd cwsmeriaid nad oedd yn medru'r iaith.

Dengys ymchwil gan Siambr Fasnach Llundain fod oriau hir yn y gweithle yn amharu ar iechyd saith allan o ddeg o weithwyr ac ar eu perthnasau personol.

Tanseiliwyd amodau sawl cytundeb gan y cwmmau rheilffyrdd, trwy iddynt ail-ddiffinio graddau gwaith, gohirio taliadau, newid yr amserlen neu oriau gweithio, cyflogi rhagor o weithwyr rhan-amser, ac yn y blaen.

Bu proses hir o leihau'r nifer o weithwyr yng Nghanolfan y cwmni yn Llanfihangel ar Arth a nawr mae Hyder yn dwyn pwysau ar ragor o weithwyr i adael.

ii) bod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain, gan dalu sylw i ofynion y Gymdeithas a'r manylion yn y Côdau Ymarfer/Canllawiau lle bo'n briodol, gan gynnwys gwisgo dillad/cyfarpar gwarchod; iii) bod yn gyfrifol am ddiogelwch pobl eraill (boed y rheiny yn weithwyr cyflogedig neu beidio) trwy beidio â chamddefnyddio unrhyw beth a ddarparwyd er mwyn iechyd a diogelwch neu les, a chydweithredu â'r Gymdeithas er mwyn ei galluogi i gyflawni ei chyfrifoldebau ei hun yn llwyddiannus;

Y mae'n rhaid i chi ar bob adeg gydymffurfio a chyd- weithredu â'r drefn ddiogelwch berthnasol i'ch swydd, ac i roi ystyriaeth ddyledus i ddiogelwch eich cyd-weithwyr.

Llongyfarchwn Derec yn gynnes iawn a'i gyd-weithwyr gan ddiolch iddynt am gyfoethogi bywyd ein Ieuenctid, a rhoi mwynhad a bendith i eraill.

Cyn llunio eich nodau lleoliad yn derfynol, bydd angen i chi eu trafod gyda'ch cyd-weithwyr, y trefnydd lleoliadau athrawon a'r sefydliad croesawu.

Yn null gorau'r cwangos, mae wedi cymryd misoedd i osod patrwm o weithwyr yn eu lle.

Rhoddir cefnogaeth weinyddol i gyfarfod o weithwyr sydd ynglyn a gwirfoddolwyr o bob rhan o ogledd Cymru.

Mae angen i weithwyr gael cyfrifoldeb dros eu diwydiannau.

Cred Martin-Jones fod dadansoddiadau fel rhai Gal a Gumperz yn welliant ar waith Fishman a'u gyd-weithwyr/-wragedd, yn yr ystyr fod y safbwynt micro-rhyngweithiol yn gosod pwyslais ar broses yn hytrach na strwythur, ac nid yw mor haearnaidd ^a dull Fishman efo'i bwyslais ar normau cymdeithasol.

Dyma gynsail y datblygiadau diweddarach yn y ffilm: try'r gwylwyr goddefol yn y galeri ac yn yr awditoriwm sy'n eistedd yn ol ac yn gwylio pethau'n digwydd iddyn nhw yn weithwyr gweithredol.

* dweud wrth gyd-weithwyr, y Gwasanaeth Lleoli Athrawon a'r gymuned leol am eich lleoliad.

Yr oedd yn diolch i Dduw am gyfle i droi ato ar orsedd gras ymhlith ei gyd-weithwyr, ac yn gofyn am i Dduw trwy ei Ysbryd ein cynorthwyo i wneud y gorau o'r cyfle hwn, rhag ofn y byddai'n gyfle olaf i rai ohonom oedd yno.

Ysgafnhau a wna'r galwadau ar weithwyr naw tan bump erbyn diwedd y prynhawn a phrin fod yna'r un maes lle na rennir baich y gwaith yn weddol gyfartal.

Anfonwch gopi%au at y canlynol: Sefydliad croesawu; pennaeth; cydgysylltydd datblygiad staff; staff sy'n gyfrifol am arweiniad mewn addysg gyrfaoedd, dealltwriaeth economaidd a chyd-weithwyr perthnasol eraill; trefnydd lleoliadau athrawon.

Pe cawsai Bedwyr fyw, buasai yn awr yn cydarwain tîm o weithwyr o dan nawdd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd i lunio cyfres o eiriaduron ar enwau llefydd Cymru, tasg y mae hen angen ei chyflawni.

Adeiladwyd y tai teras gymaint â dau gan mlynedd yn ôl ar gyfer miloedd o weithwyr mewn ffatrioedd.

Yn ddiweddarach prin fod angen sylwebaeth o gwbl wrth i'r ddau arweinydd a'u cyd-weithwyr gyfarfod i swpera.

Lloyd George yn cyflwyno cynllun Yswiriant Cenedlaethol i dalu i weithwyr pan oeddent yn wael ac yn ddi-waith.

Daeth ef i lawr i'r ddaear ac apelio am weithwyr i fynd o amgylch i gasglu enwau, a chasglu arian.

Y cyflogwyr yn y sector preifat a chyhoeddus ym mhob ardal a fyddai'n gallu manteisio ar weithwyr dwyieithog.

265 o weithwyr yn cael eu lladd mewn ffrwydrad yng nglofa Gresford ger Wrecsam.

Cyfyngodd ar hawl yr undebau i fynd ar streic, collodd miloedd o weithwyr sifil eu swyddi wrth i fiwrocratiaeth gael ei chwtogi, a chafodd pob gwrthwynebiad i'r chwyldro newydd ei ateb gan fygythiad y rhoddid awdurdod llwyr yn nwylo Menem pe bai angen.