Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

weled

weled

Ei weled fe cyn gweled y John arall a wneuthum i, a'i wir adnabod ar ôl methu clywed ei oslef arbennig ef yn llais y llall.

Ystyried y pwnc hwn yn ei berthynas â'r Telynorion, a'r Datgeiniaid, i weled a ellir diffinio rheol a fydd yn sefydlog o berthynas iddo.

Gan weled y gwelodd eu cystudd, a'u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywodd.

Nid unawd enaid yw emyn, ond rhan o gytgan cor nas gall neb ei rifo na'i weled gyda'i gilydd - ond Duw.

Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!

'Rwy'n byw yngobaith (sic) Israel, ag yn hyfryd gennif weled y wawr yn torri, ar haul ar godi ar ynys Brydain'.

Gyda'r newyn yn y gell gosb daeth yr hiraeth am sigaret; hiraeth am glywed ei haroglau, am osod y tân wrth ei blaen melyn, gollwng y mwg glas allan rhwng ei wefusau a'i weled yn ymdorchi i'r awyr.

Cythruddodd yr athro beth wrth weled y wen, a'i geryddu mewn modd a barodd i weddill y dosbarth hyd yn oed anesmwytho.

Ac edrych a orug Geraint ar Enid yna, a dyfod ynddaw ddau ddolur: un ohonynt o weled Enid wedi'r golli ei lliw a'i gwedd, a'r ail ohonynt gwybod yna ohonaw ei bod hi ar yr iawn.

Gwelodd rhai y 'rhywbeth' hwnnw yn nhermau athroniaeth wleidyddol, ond roedd eraill yn meddwl amdano yn nhermau'r pwysigrwydd i feithrin y meddwl gwyddonol tuag at bopeth - yr ymagwedd a grisialwyd yn y geiriau, 'oni chaf weled .

Golygai ei derbyn or-ogoneddu'r gorffennol, golygai weled patrwm pendant gosodedig-oddi-fry yng ngweithredoedd dynion, golygai ddefnyddio'r gorffennol fel mynegbost i'r dyfodol.

Yng ngeiriau'r Athro Gryffydd: "Meddwl critig a rhesymegwr a oedd gan y naill [Emrys ap Iwan]; meddwl gweledydd a bardd a oedd gan y llall." Ni wn pa gyfathrach a fu rhwng y ddau, os bu un o gwbl, ond nid damwain yn unig yw nad ysgrifennodd Emrys (hyd y medrais i weled) yr un erthygl i Cymru, er ei fod ef a'r cylchgrawn wedi cydoesi am bymtheng mlynedd.TRAED MEWN CYFFION - Kate Roberts (tud.

Pan ddôi'r bore, yr oedd yn llawen ganddo weled y goleuni cyntaf yn treiddio trwy farrau'r ffenestr gan yrru ar ffo yr holl ysbrydion dialgar a gosod y muriau yn ôl yn eu lle.

Wrth weled rhain mor hyfryd Cynhyrfais innau hefyd Anghofio wnes fy unig fam A wylo am fy anwylyd.

Nid oedd yr enw 'Crewe' i'w weled yn unman rhag ofn i Hitler, mae'n debyg, ddod allan o drên a gweld ble'r oedd ac adnabod y wlad!

Ond yn wir, ni wyddai ba un oedd galetaf, gweled Wiliam yn cychwyn i ffwrdd, ai ei weled yn dyfod adref bob nos yn surbwch a digalon.

Ym marn yr adolygydd, gwendid dramatig oedd diriaethu syniadau o'r fath ar lwyfan yng Nghymru: 'Y mae eisiau llawer mwy o berswad nag a geir yma ar unrhyw gynulleidfa o wrandawyr fod rhinwedd yn y balchder aristocrataidd.' Proffwydodd, er hynny, fod y ddrama yn dynodi 'cam yn nhyfiant meddwl anghyffredin iawn, fel y caiff Cymru weled eto.' Yr oed y pegynnu rhwng Gruffydd a Lewis yn amlwg.

Yr oedd Mr Jones y Person, hefyd yr un mor ddiragrith yn ei gydymdeimlad, ac wrth weled yr Yswain a'r Person mor hynaws tuag at Harri, dilynodd eraill rhai na theimlent yn dda nac yn ddrwg ato eu hesiampl.

HEULWEN: (Yn canu) 'Mae'n dda gen i'th weled yn awr.'

Astudiodd y pwnc o bob cyfeiriad, a llanwodd dudalennau o gyfrifon cymhleth i weled pa mor bell yr ai ei gynilion....

Gyda golwg ar foesoldeb yr holl fater, nid wyf am ddywedyd dim, nes caf weled vm mha ffurf y gyrrwyd hi i'r wasg yn wreiddiol.

Ni fedrwn weled fawr ddim ar y cyntaf, gan dewed y mwg a lanwai'r ystafell.

Ni châi Myrddin Tomos weled yr un ferch mwy am yn agos i ddwy flynedd.

Ystyried ymhellach y pwnc yn unol â'r addewid a roed yn y "Gornel" i weled a ellir diffinio'r safon o'i osod, ac i roddi iddo ddeheulaw Cymdeithas Cerdd Dant.