Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

well

well

Teimlai'n well yn barod ac roedd ei galon yn dechrau curo'n arafach pan ddaeth y fen at groesffordd arall.

Gadawyd Enlli wedyn am hydoedd a theimlai y byddai unrhyw beth yn well na thawelwch llethol y gell unig.

Gorffennodd Woods ddeuddeg ergyd yn well na'r safon.

Dere, mae'n well i ni fynd o 'ma, yn glou.' Ar y bws y noson honno y clywodd Ifan sut yr oedd Gary wedi poenydio'i ffrind hyd nes iddo daro'n ôl.

Ni fedraf feddwl am well diwrnod i neb sy'n byw o fewn cyrraedd Bro Morgannwg na dilyn y daith arbennig yma a fedr eich ysbrydoli i ddechrau eich casgliad daearegol eich hun - fel y gwnaeth lolo Morgannwg yn ei ddydd.

Ac meddai yn y Gynhadledd fis Mehefin dan gysgod Dinas Brân (a lle well nag yn nghartref Eisteddfod y Byd): 'Bydded i nynni yma, o Gymry, fod yn gosmopolitaneiddrwyddiediciach nag o'r blaen, a bydded i ni dderbyn 'a few ..' a 'few..' .

Pe bai'n rhaid i mi ddewis rhwng y frech goch a chwmpeini Matthew'r Sgidia', mi fasa'n well gen i y frech goch." Chwarddodd Rees.

Mewn chwiniciad roedd gohebydd teledu o'r Unol Daleithiau wedi gweiddi arno - `Mr President can you confirm that the talks are going well?' Roedd pawb arall yn ddiolchgar fod o leia un beiddgar yn ein plith ni.

Gresynu oedd Ms Clwyd, ar ran 'miloedd o Eisteddfodwyr', ein bod wedi ymosod ar Mr Hague, 'blondyn bach del efo gwên ddigon o ryfeddod', rhinweddau gwleidyddol sylfaenol yn yr oes sydd ohoni -- well spotted Hefina.

Dyma lle y rhwygwyd teimladau gan angau, a thoriad gwawr well wedi tywyllwch nos.

Nid oedd y sefyllfa lawer yn well yn Sbaen, yn ne'r Eidal, yn Iwerddon nac yn hen Wlad Pwyl.

Fe wnaeth Lloegr wharen well yn erbyn Portiwgal - a cholli.

Twpdra a dichell bwriadol 'newyddiadurwr' eilradd ddylai, a sydd, yn gwybod yn well oedd sail ymosodiadau rhyfeddol Betts.

Yng nghyffiniau'r dociau yn Havana y mae'r Vedado, hen ardal y ddinas, a'r math o le y byddai'n well gan ddinasoedd eraill ei guddio.

Yn wir mae yna bedwar Cymron well nar safon - David Park sydd dair yn well, Mark Litton ddwy yn well a Philip Price, un yn well.

Mae'n well gen i eu lle nhw.

Byddai'n well iddo fod gartre heno rhag ofn y byddai Sam Llongau yn teimlo fel rhoi cweir i'w wraig.

Er mawr ryddhad iddi, gwrthododd eistedd, gan ddweud fod yn well ganddo sefyll.

… ond does dim angen poeni, gan fod y gitâr flaen yn swnio llawn cystal – os nad yn well – ar y gân olaf, sydd yn ddiweddglo naturiol i'r EP.

Ar yr un pryd bydd yn rhaid ceisio deall yn well arwyddocâd canlyniadau Cyfrifiad 1991.

Nid oedd yn boblogaidd iawn yn y pentref ar y dechrau oherwydd ei natur di-flewyn-ar-dafod ond cafodd ei derbyn yn well ar ôl iddi ddweud wrth yr heddlu fod Mark yn gwerthu cyffuriau i blant ysgol.

Newidid yr enwau o fis i fis a danfonid at bob Eiriolwr hanes y cleifion a oedd yn well eu hiechyd.

Felly, pan oedd bechgyn yn pasion well na merched yr esboniad a gynigwyd oedd fod bechgyn yn glyfrach na merched.

Mae'n well er mwyn llwyddiant hir-dymor.

Ar y cyfan, yr oedd hon yn drefn digon derbyniol a theg gyda'r sawl oedd yn symud cant o barseli yn well ei fyd na'r sawl oedd yn certio dim ond trigain.

Dyma eiriau Harry Roberts, "Roedd ffrancon yn medru chwarae'r organ yn well hefo'i draed na 'Mr X' hefo'i ddwylo!!"

'Fydd petha'n well 'leni, gei di weld.' Cysurodd Marian ei gŵr yn obeithiol.

Am hynny, ystyria y pethau hyn, fel na chredech dy fod yn well na'r un o'th gyd-ddynion, rhag it wrth feddwl, ddisgyn o'th falchder ar frys, a chael dy frifo mwy wrth ystyried fod gwraig dlawd yn gwenu ar sebon bob dydd gan gofio'r sbort a roddaist iddi.

Mae trwydded presennol yr orsaf yn dod i ben ymhen pedair blynedd, ac mae Cyfeillion y Ddaear wedi dweud y byddai'n well ganddyn nhw petai'r Wylfa yn cau bryd hynny.

Deilwen, os gwelwch chi'n dda, mae'n well gen i.

Faint well oeddynt o godi helynt a dyfod allan ar streic, onid oedd nerth Undeb tu cefn iddynt?

"Y polisi mwya' effeithiol yw glynu at yr egwyddor fod pawb yn adnabod pawb; mae'n well na dibynnu ar dechnoleg yn unig." Ar ôl Nottingham, mae Ysbyty Mynydd Bychan, o leia', yn gwneud yn siwr fod unrhyw rybuddion yn mynd i dadau hefyd ...

Yn falch o'i gweld yn well ar ôl blynyddoedd hir o afiechyd.

Pan benderfynes i fod yn wyddonydd rown i'n meddwl mai dyfeisio pethe i neud yr hen fyd 'ma'n fwy hapus ac yn well lle i fyw ynddo fe, fydde 'ngwaith i.

Yn ystod y blynyddoedd cyn hynny, hyd yn oed, roedd The Times yn cael gwybodaeth well na'r llywodraeth ei hun ac fe gyhoeddodd y papur newyddion am frwydr Trafalgar ddeuddydd cyfan cyn i'r Swyddfa Dramor gael gwybod dim.

'Well.' meddai, 'it has been here eight years or so, you know.' A, wel.

Fe gydnebydd, er enghraifft, y byddai'r llofft orau'n well petai'r plaster heb ddod i lawr o'r nenfwd.

A fi sydd wedi ei ddal!' Un cyndyn oedd y swyddog i gydnabod ei feiau fo'i hun, byddai'n well ganddo gydnabod beiau pobol eraill a'u harestio nhw am hynny.

"Yn ôl fy hen athro mae brân yn medru canu yn well." "Ta waeth," gwenodd Henri .

Theimlis i rioed yn well 'achan.

Mae'r fan honno yn well o lawer na'r pentref.

Nid oedd yr oriau meithion a dreuliasant yn dilyn fflam y gobaith am well byd yn y byd hwn, wedi'u dallu i'r fath raddau na fedrent adnabod dyn da wrth ei weld.

Ymddangosai pamffledyn Ieuan Gwynedd fel amddiffyniad wedi ei amseru'n berffaith i ateb ymosodiadau'r Dirprwywyr ar gymeriad y Cymry: 'Pe buasai yr Awdur yn gwybod pob gair a gynwysai yn adroddiad y Dirprwywyr', meddai'r Diwygiwr ym mis Ionawr, 'ni ysgrifenasai well ateb i'w cabldraethau ar wlad ei enedigaeth.

Mae'n well gen i heb yr 'i'.

"Er mai coesau metel sy ganddo, mae o yn gallu dinistrio ein hawyrennau ni yn well na neb bron!" "Rhaid wir," gwylltiodd Almaenwr arall.

Mae nodiadau ymyl dalen ar y llawysgrifau, fel 'ceisir cymhariaeth well' a 'ceisio cael cymhariaeth bwrpasol yma' yn gwrthbrofi hyn, i raddau.

Yr hyn a ddigwydd yw fod unigolion yn cystadlu am adnoddau yn yr amgylchfyd, a bod rhai'n medru gwneud hynny yn well nag eraill.

Oni fyddai'n well iddo fyw bywyd tawel, parchus yn helpu ei dad bob nos ac yn cadw'n glir o drybini?

Cyn mynd ati i chwilio am atebion i'r ddau gwestiwn, efallai y byddai'n well i ni edrych ar y cyswllt, y cyd-destun, y cefndir, y math o lefydd lle mae plant o dair i bump oed yn derbyn eu haddysg feithrin.

Cerddodd yn araf tuag ataf "Pam na fasech chi'n dwad i eistedd efo mi yn y sedd flaen?" "'Roedd yn well gen i fod o'r golwg.

'Y tymor nesa, y nod fydd gwneud yn well yn Ewrop.

Unwaith eto, croesawn well dull o gofnodi digwyddiadau, ond teimlwn bod pobl yn mynd ati o'r cyfeiriad anghywir.

Er enghraifft, cynghorodd Dr William Davies (a gadwai athrofa Ffrwd Fâl ger Pumsaint), John Williams, mab Brownhill, Llansadwrn, os oedd yn meddwl am weinidogaeth mewn tref fel Llanelli, y buasai yn well iddo fyned i athrofa, ond os oedd yn meddwl am weinidogaeth yn y wlad, nad oedd angen iddo fyned i athrofa o gwbl.

Nid oedd dim yn well na rybel i ddifyod i adnabod dynion.

Dywedodd y cwmni betio Ladbrokes fod gobaith iddi werthu'n well nag unrhyw record arall dros yr wyl.

Cwtogwch neu'n well byth, peidiwch ag ychwanegu siwgr at eich te neu'ch coffi a dewiswch ddiodydd ysgafn 'di-siwgr'.

'Byse'n well 'da ni gwrdd â nhw yn y rownd derfynol.

Roedd pensiwn i'w weld yn talu'n well o lawar.

A chlywed am yr hwch a'i pherchennog wnaeth o, ar y cynta', yn hytrach na'u gweld nhw, ac o ganlyniad, bu'n rhaid i'r ddau duthio ar ôl y bus am gryn hanner canllath neu well cyn cael mynediad iddo.) Gwaith digon dyrys oedd cael hwch i ddal bus o dan amgylchiadau cyffredin ond pan oedd honno â'i hanner ôl wedi'i glymu mewn bag peilliad roedd y gorchwyl yn anos fyth.

'Hwyrach y byddai'n mynd yn well mewn blincars,' awgrymais.

Wedi inni godi pabell yn Zernez yn yr Engadin Isaf, roeddwn wedi mynd i fyny i gaban Lischana, rhyw bedair awr uwchben tref Scuol, gan obeithio esgyn Piz Lischana yn y bore: yn y gwres mawr, roedd yn well gan y teulu gael prynhawn yn y pwll nofio.

Roedd pethau'n mynd yn well i Chelsea ddoe nag ers tro byd.

Maent yn disgrifio rhai o'r amgylchiadau yno'n well ac yn fwy treiddgar na'r hyn sydd yn ymddangos mewn papur newydd:

Ceir yma arddull wahanol i Carreg, gan fod y penillion yn weddol acwstig eu naws, ac yn sicr mae llais Mei yn gweddu'r math yma o gerddoriaeth yn well.

Wel, os oedd yn well ganddynt lyfu cadwynau eu caethiwed!

Fe gymerwn ein hymweliad fel gwyliau cyffredin - amser i ddod i nabod ein gilyd yn well.

Er eu bod yn byw mewn tŷ^ unig yn y wlad, yr oedd yn well gan Alphonse gwmni'r cŵn a'r gwningen na phobl.

Falle bydde well 'da ni gael un o'r time mawr, ond mae hwn yn rhoi gwell cyfle i ni fynd trwodd i'r bedwaredd rownd.

Roedden nhw'n well tîm yn erbyn Portiwgal ac yn anlwcus iawn yn erbyn Yr Almaen.

Bydd y cynllun hwn yn cael gwared o'r gornel lle mae'r ffyrdd yn troi am Foel Famau a Chilcain a bydd yn bosibl gweld y drafnidiaeth o'r ddwy ochr yn well.

Yn dawel bach, fe fyddai wedi bod yn well gan Gwen dderbyn rhyw fwletin dyddiol llai uchel-ael, mwy lleol.

Gobeithio byddwch yn teimlo'n well yn fuan.

(ibid., Mae'n well ganddo ddychymyg rhemp Pantycelyn na meddwl cysa/ ct Goronwy Owen.

Cwtogwch ar ddiodydd alcoholig neu, yn well fyth, chwiliwch am ddiodydd gwahanol iddynt.

Rydw i'n cael fy nhemtio i roi'r gorau iddi'n y fan yma er mwyn rhoi cyfle i chwithau wneud hynny ond gan fod ambell un yn pendwmpian eisoes mae'n well imi egluro'r cysylltiad a welaf i rhwng drama fach, fawr, neu ddrama fawr, fach R.

Mae'r ddau achos hyn o newid rhywiau yn enghreifftiau da o'r modd y bydd rhai awduron yn ystumio deunydd crai eu profiad wrth ei droi'n ffuglen er mwyn gwneud iddo gydymffurfio'n well a phatrymau confensiynol eu byd.

Fe wnaeth Lloegr whare'n well yn erbyn Portiwgal - a cholli.

O'r herwydd, byddai rhywun wedi disgwyl iddyn nhw fod wedi gwybod yn well na gwahodd rhywun fel Blair yno yn y lle cyntaf.

Mae e saith ergyd yn well na'r safon.

'Hwyrach bod gen i annwyd, ac felly mae'n well i ni droi'n ôl.

Dydw i ddim wedi fy synnu o gwbwl fod merched yn gwneud yn well na bechgyn yn eu arholiadau ysgol.

Byddai'n peintio lluniau dyfrliw o'r Eifl a'r Fenai a'r golygfeydd o amgylch, ac ni fyddai dim yn well ganddo na dod â nhw i'w dangos.

Mae Jenkins yn teimlo y dylid trefnu dyddiadau gemau'r cynghrair yn well.

Er gwaethaf y gwrthwynebiad unfryd hwn y mae Straw yn dweud ei fod on gwybod yn well na senedd a phobol yr Alban beth a ddylai ddigwydd yn y wlad honno.

Rwy'n credu y byddai'n well gen i fod yn lle Heledd nag yn lle'r par pert 'na heno.

Ond er mwyn medru cynrychioli ei wlad yn well y mae wedi newid ei enw i Ekumdayo OBadmus.

'Mae storiau Miss Lloyd yn well.'

Mae siocled, hefyd, medda Huw, yn cynnwys theobromine sy'n cynhyrchu endomorffinau yn yr ymennydd fedar eich cadw chi i fynd yn well na bagiad chwarter cant o brūns.

Yn wir, gall weld yn well at yn ôl nag ymlaen.

Nid ydym well o resynu at y ffaith na feddyliai ef, fwy nag odid neb arall yn ei oes, am Gymru fel cenedl.

Ond fe ddylsai gwladwriaeth gyfoethog gyda rhyw 59 miliwn o boblogaeth wneud yn well na bod un safle yn is na Cuba ac un safle uwchben Romania yn nhabl y medalau.

Ar wal un tū, sgrialwyd y slogan "Throw well, throw shell" yn niwedd y chwedegau.

"Mae'n well gen i ddelio gyda phroblem cyn iddi ddigwydd~" meddai.

Roedd hi'n teimlo'n well o lawer iawn rŵan.

Mae'n well iddyn' nhw adael i bobl eraill wneud yr hyn a allant.

Dyna'r rheswm pam y mae o'n well llenor na phregethwr...

Tueddwn i gredu bod bopeth yn well ers talwm - y tywydd, y bwyd, y gymdeithas.

"Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef." Well done, yr hen father: mi gurswn i gefn o cawswn i afael arno fo).

Er iddo gael awyrennau Mig a'r holl arfau soffistigedig eraill gan Rwsia, roedd y gwrthryfelwyr yn well ymladdwyr o lawer yn y mynyddoedd.

Roedd eu cyfanswm nhw 15 ergyd yn well na'r safon.