Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

welsai

welsai

Yn sydyn gwelodd y gŵr yn dod tuag ato o'r coed, yr un gŵr bychan ag a welsai yn dod o'r fynwent, gyda'r dyn a ddihangodd o'r carchar.

Mae'n amheus faint hyd yn oed o'r graddedigion diwinyddol a welsai gopi cyflawn o'r Beibl erioed namyn cael cip ar ddarnau ohono, neu lyfr unigol fel y Sallwyr, ynghyd â phob math o ddeunydd eglurhaol ac esboniadol o gwmpas y testun ei hun.

"Hoff gennyf yw ateb y morwr hwnnw o Wlad yr Haf pan ofynnodd Coleridge iddo paham yr oedd wedi mentro ei fywyd i achub dyn na welsai erioed ac na wyddai enw na dim amdano : "Mae amcan gennym tuag at ein gilydd.' Meithrin yr amcan honno yw galwedigaeth greadigol dyn, ac wrth geisio gwneud byd teilwng o frawdoliaeth daw ef ei hun yn deilwng o'i fodolaeth.'

Cawsai fore wrth ei fodd a dod o hyd i hen ffrindiau a welsai'n dda wedyn i'w hebrwng i'r fan honno, hanner y ffordd tua thre.

Ni welsai yr un arwydd fod pobl wedi teithio ar hyd yr hen lwybrau masnach traddodiadol, y rhai a groesai ac a ddilynai weithiau gyda'i ffrindiau, y Senwsi.

Pe bai o ddim ond yn adrodd mwy o hanes blynyddoedd diweddaraf ei yrfa ar y llongau mawr a âi o Lerpwl a'r hyn a welsai yn y Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell, fe fyddai hi'n fwy na pharod i wrando.

Ni welsai Jane Owen, chwaer Hywel Vaughan, ers rhai blynyddoedd, ond megis pawb arall yn yr ardal, clywsai gryn dipyn amdani hi a'i gūr.

Yn ei gôl roedd basged fawr a'i llond o'r teganau pertaf a welsai arnynt, ond doedd gan y bêl ddim munud i'w sbario gan mor gyflym y carlamai yn ei blaen.