Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

welwn

welwn

Os arhoswn allan yn ddigon hir i'r llygaid allu addasu i'r tywyllwch, eu os yw'n noson ddi-leuad, fe welwn fod llawer mwy i'w weld yn yr awyr na'r cytserau a'r ser amlwg.

Yn y saithdegau, roedd merched yn Lloegr yn arfer cyffwrdd y ddaear ar ôl gweld fan bost ac yn dweud, 'Cyntaf welwn, hwnnw garwn'.

Newid arall a welwn yw diffyg disgyblaeth.

Dyma faes y mae yn rhaid i ni gael cyd-lyniad fel ysgolion neu fe welwn wendidau a drwg deimlad yn datblygu.

I ddarganfod faint o ser y gallwn eu gweld trwy ddeulygadion o'i gymharu a'r nifer a welwn a llygad noeth, gallwn wneud y cyfrifiad canlynol.

Beth bynnag a ellid ddywedyd am waith Mr Jones yn cusanu genethod ieuanc iawn a fegir ganddo, ni welwn reswm yn y byd dros iddo barhau i wneuthur hynny wedi iddynt dyfu i fyny yn ferched ieuanc.

Tegeiriannau'r trofannau a welwn yn ein siopau blodau ac yn tyfu mewn tai gwydr cynnes.

Fe welwn yn glir yn fflachiadau cyhuddgar ei lygaid callestr, yn gymysg â'r hen herio, awgrym o barch gwyliadwrus.

Adroddwyd straeon lawer wrthyf am y mulod hynny, ac un wraig a gymerth ataf lun, ar ba un yr oedd y teithwyr oddi mewn i'r trên, a mul yn eistedd ar y llwyfan y tu allan i'r cerbyd, ac yn ôl a welwn i yr oedd y mul yn dangos cymaint boddhad â'r bobl wrth deithio.

Mae'r poen a welwn ym mywydau plant a gafodd eu camdrin yn effeithio mewn rhyw ffordd arnom i gyd.

Ni welwn fawr ddim diben mewn gwneud y Gymraeg yn brif gyfrwng addysg holl ysgolion Categori A y sir, oni ddaw'r Gymraeg wedyn yn brif iaith gweinyddiaeth gyhoeddus a mewnol ein prif sefydliadau.

Fe welwn ni'r ddwy ddraig yn codi o'r twll cyn bo hir, ond paid â bod ofn, welan nhw mohonan ni yn cuddio yn y fan yma." "Ond pam y medd a'r sidan?" "Wel, fe fydd y ddwy yn ymladd heno a bron â thagu eisiau diod.

Fe welwn ni, fel rhan o ysgol fabanod neu ysgol gynradd, blant dan bump mewn unedau meithrin, adrannau meithrin, dosbarthiadau meithrin.

Dyma ein galaeth ni, a'r hyn a welwn yw'r miloedd o ser gwan sy'n ffurfio disg yr alaeth.

Codais beint o'r du, a phwy welwn yn eistedd ar stôl yng nghornel y bar ond gyrrwr y bws.

Yr ymennydd sy'n dweud wrthym beth a welwn.

Felly fe welwn

Hynny a welwn, wrth gwrs, yn 'Buddugoliaeth Alaw Jim.' Colomennod oedd gan Twm Twm yn y gyfres deledu enwog Fo a Fe.

O'r cae ei hun, fe welwn i beth a edryche fel cloc enfawr, a ffigure yn ymddangos arno'n rheolaidd.

Fe welwn ar ei gwep sur hi nad oedd y gwahoddiad ddim yn plesio.

Amrywiant o'r rhai llachar lliwgar yn y trofannau i'r rhai llai amlwg eu lliw a'u llun a welwn ni yng Nghymru.

Nid eu presennol a welwn ac a ddadansoddwn.

Y mae lle inni i gyd bryderu pan welwn hen werthoedd traddodiadol yn diflannu.

Heb os nac onibai fe welwn yn fuan broffwydoliaeth arweinyddion Undeb y Glowyr yn cael ei wireddu, gyda mwy a mwy o weithfeydd yn cau am nad ydynt yn ddigon 'Proffidiol'.

Beth bynnag a ddigwydd rhwng Bob a Miss Evans, welwn ni fyth mohono.

A chan mai ychydig o ddiddordeb sydd gan y rhan fwyaf o ohebwyr yn yr hyn sy'n digwydd, welwn ni ddim peth wmbreth o sylw yn y llefydd hynny.

Tybed sut y byddai hynny wedi mynd i lawr gyda merched da y Dybliw Ai - nid bod gan lawer ohonyn nhw eu dannedd eu hunain beth bynnag o'r hyn a welwn i.

Chwith meddwl na welwn eto y wen yn llenwi ei hwyneb, nac ychwaith glywed ei llais cyfoethog pan fyddai yn cyfarfod a'i chyn-ddisgyblion.

Unwaith eto yn y gêm hon fe welwn ni Romanian cadw meddiant a phan ydych chi'n chwara yn erbyn tîm fel hwn maen nhw'n rheolir gêm.

Pan welwn nhw felly'n ymfyddino, a Thalfan yn agosa/ u fel rhyw Urien Rheged i'm cyfarch a'm herio â chawod o regfeydd, hiraethwn am ddihangfa, a dychmygu fy hun yn neidio ar un o'r beiciau a phedlo nerth fy nghoesau nes cyrraedd diogelwch tangnefeddus y dref, y traeth neu'r foryd.

Trown at weddau politicaidd y deffroad Cymreig yn y ganrif ddiwethaf ac fe welwn yn union yr un diystyru ar y Gymraeg.

Ni welwn fawr ddim diben mewn penodi Cymry Cymraeg i swyddi - yn wobr, fel petai, am fod yn Gymry Cymraeg lle maent yn cyflawni'r mwyafrif mawr o'u dyletswyddau trwy gyfrwng y Saesneg.

Agor drws y gegin, a'r unig beth welwn i oedd cymyle du o fwg.

Ar ôl munud neu ddau, fe welwn fod y gyrrwr, o'r enw Sean, yn ŵr diddorol iawn, yn chwaraewr pibau Gwyddelig - ond yn alltud yn Birmingham ac adref am dro i weld ei deulu.

Ond `tywyll ddiwrnod - diwrnod cymylog a niwlog' yn hanesyddiaeth preswylyddion y palasdai gorwych hyn, a welwn heddiw yn weigion, oedd diwrnod gosodiad i fyny y llywodraeth newydd yn Montgomery.