Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wendid

wendid

Dyma wendid mawr y cyngerdd: roedd yr awyrgylch a'r canu yn wych ond trueni na fyddai'r trefnwyr wedi gosod sgriniau er mwyn osgoi yr holl wthio a stwffio yn ystod y perfformiad.

Haws oedd goddef pangfeydd newyn na sūn y pryfetach a redai dros wendid ei gorff.

Yn ôl ei disgrifiad hi o'r Sais a fun spario efo Naseen Hamed gallai rhywun yn hawdd faddau iddi hi am roi cic iawn iddo yn ei wendid.

Wedi pasio drwy'r mannau angenrheidiol heb gael fy holi neu fy amau - mae edrych yn betrusgar mewn maes awyr yn wendid - dyma fi'n setlo ar yr awyren.

Pawb yn ei gofio, pawb yn siarad yn angharedig amdano oherwydd ei wendid, am ei fod e'n amau atgyfodiad yr Iesu, ei Fishtir.

'R'on i wedi ryw how feddwl, wedi i mi gyrradd Tu Hwnt i'r Afon, y baswn i'n ca'l cyfla i roi dwr i'r 'ffyla cyn mentro'r allt 'na.' Ond fe wyddai Obadeia, yn rhy dda, am fynych wendid y coetsmon a mentrodd ei atgoffa o hynny.

Roedd fflangellu'n beth arferol iawn yn y fyddin bryd hynny, ond oherwydd ei wendid am y ddiod cafodd yr Hen Gapelu\l fwy na'r cyffredin o flas y chwip.

Mae hynny wrth gwrs yn anfantais ac yn wendid difrifol, yn arbennig felly ymhlith y bechgyn trwm.

Arferai ei gefnder, TH Parry-Williams, ddweud fod hyn yn wendid ynddo ar brydiau.

A yw ei seiniau mor swynol, ei mydryddiaeth mor gampus, ei delweddau mor gain, fel nad yw ei hastrusi yn wendid difrifol iawn ynddi?

Fel y noson o'r blaen pan drawyd ef yn wael?' 'Fe dybiais ei fod yn drysu yn ei wendid.

Yn waeth byth efallai, mae'n wendid na ellir byth mo'i unioni.

Aeth yn ôl i helpu'r amddiffyn a gwneud tacl wych yn y gornel ond fe dynnodd llinyn ei âr - yr hen wendid yna sy ganddo fo - a gorfod gadael y cae.

Ac y mae llond llwy neu ddwy ohono, meddai, mewn ychydig ddwr cynnes, yn ardderchog at wendid y nerfau.