Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

werthfawr

werthfawr

Caiff eu noddwr ei foli ganddynt yn y dull traddodiadol, fel y gellid disgwyl, ac y mae'r hyn a ddywedir ganddynt am ei groeso brwd a'i ddiwylliant yn arbennig o werthfawr o safbwynt astudio'r traddodiad nawdd.

Ond fe gollir popeth a fu'n werthfawr erioed gennym yng Nghymru os â Hitler ymlaen i ychwanegu eto at y galanastra a wnaed ganddo'n barod; ni buasai'n bosibl i mi nac i tithau, gyfaill, a fagwyd yn nhraddodiadau rhyddfrydig a dyngarol Cymru, fyw o gwbl mewn unrhyw wlad a orchfygwyd ganddo ef na chan Mussolini lwfr na chan Franco grefyddus.

Bid a fo am hynny, mae'r gair Cymraeg 'awen' yn nes o ran ei ystyr i ysbrydoliaeth nag ydyw dychymyg, ac onid wyf yn camgymryd, 'roedd Waldo'n ffyddlon i ryw gynneddf yn ei natur wrth ddewis y gair hwn, ac wrth wneud, 'roedd yn gallu cadw'r hyn a oedd yn werthfawr yn ystyr y gair 'Imagination' i Blake heb gael ei lluddias gan rai o ragdybiaethau'r meddwl diweddar am y dychymyg.

bydd deunyddiau'r das hon yn werthfawr er enghreifftio a safoni'r cwricwlwm cenedlaethol.

credai'r gweithgor fod y llyfryn enghreifftiol o waith disgyblion o'r ysgolion fu'n cyn- dreialu'r gweithgareddau yn werthfawr fel canllaw pellach ar gyfer asesu ac ar gyfer safoni.

Wedi'r cyfnod o ddwy flynedd yn astudio Anatomeg bu+m yn ffodus iawn o ennill ysgoloriaeth fechan ac roedd hon yn werthfawr yn fy ngolwg gan fy mod hyd hynny wedi dibynnu'n gyfan gwbwl ar fy nhad am gefnogaeth ariannol.

Ei werth yw i storio dþr mewn pridd a chompost; nodwedd werthfawr iawn mewn haf fel llynedd neu i rwyddhau natur pridd cleiog, hynny yw, casglu gronynnau mân pridd cleiog at ei gilydd yn ronynnau mwy er mwyn hyrwyddo sychu tir felly ar gyfer ei drin.

Byddai canlyniadau'r arolwg yn werthfawr er cryfhau polisi%au tai y cynllun lleol newydd a gosod sylfaen ar gyfer strategaeth tai y Cyngor drwy ddatgelu gwybodaeth ynglŷn â'r cymunedau hynny lle 'roedd angen gwirioneddol yn bodoli ar gyfer tai rhesymol eu pris.

Os rhoir y testunau mewn diweddariad cyfoes, byddai'n werthfawr cael y cyfeiriadau troed-y-ddalen at yr argraffiadau gwreiddiool hefyd.

Mae'r syniad yn werthfawr, ond gallwn fydn ag ef ymhellach.

O safbwynt datblygu addysg Gymraeg i ateb gofynion byd gwaith, byddai'n werthfawr ymgymryd ag ymchwil i'r defnydd a wneir ac y gellid ei wneud o'r Gymraeg mewn gwahanol swyddi yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Er y gall technoleg fod yn werthfawr iawn i gynnig 'breichiau a choesau' newydd i bobl, dydi ail-osod cymalau colledig neu gymalau a nam arnynt ddim ynddo'i hun yn arwain at fyw'n annibynnol.

Mae pob cymdeithas sydd â grym deddfu yn deddfu ar yr hyn sydd yn bwysig iddi -- i geisio annog yr hyn sy'n werthfawr a cheisio atal yr hyn sy'n ddinistriol -- yn ôl ei gwerthoedd ei hun.

Cyflwynir yn y cofiant hefyd ddarlun eithriadol ddiddorol o fywyd Dei Ellis yn y Coleg ym Mangor, a darlun, yr un mor werthfawr, o natur yr addysg a geid yno bryd hynny, ac yn arbennig yn Adran Y Gymraeg.

A Saesneg oedd iaith popeth a ystyriwn yn werthfawr mewn bywyd, yn enwedig fy llyfrau, ac yr oeddwn erbyn hyn wedi tyfu'n dipyn o lyfrbryf Ac wedi dechrau sgrifennu hefyd .

Hyfrydwch tangnefeddus Y Lôn Goed sy'n treiddio trwy'r ddau bennill olaf, a'r profiad o gerdded hyd-ddi yn werthfawr ynddo'i hun yn hytrach nag fel moddion i fwynhau unrhyw brofiad pellach:

Gallai'r Uned feithrin cysylltiadau ag elusennau'r amgylchedd, megis yr Ymddiriedolaeth Goedlannau, drwy ofyn yn rheolaidd iddynt nodi safleoedd sy'n werthfawr o ran bywyd gwyllt ond a allai ymelwa ar waith a fyddai'n ychwanegu at eu gwerth i'r amgylchedd neu'u diogelu er mwynhad y cyhoedd.

Mae'r dechneg wedi ei defnyddio eisoes i ddatblygu defaid a llaeth ac ynddo ddefnyddiau annaturiol o ran defaid, ond sy'n werthfawr ar gyfer y diwydiant fferyllol.

Buont yn werthfawr iawn imi wrth ddarlithio i ddosbarthiadau yn Llþn.

Gan mai ychydig o sylw, a hwnnw'n aml yn ddirmygus, a roddodd y cyfryngau cyfathrebu i ymdrechion heddychwyr, y mae'n hynod werthfawr cael ymdriniaeth feistraidd fel hon.

Yna, yng nghanol prysurdeb yn ddiweddarach, a sawl ceffyl yn disgwyl eu tro i'w pedoli o flaen yr efail, mor werthfawr i'r gof oedd fod y pedolau wedi eu troi yn barod.

Ond er bod y ffigurau amrwd yn werthfawr, nid ydynt yn dweud y stori'n llawn wrthym; y mae'n rhaid edrych yng nghyd-destun ffigurau perthnasol.

Hyderwn ein bod wedi cael y moddion gorau i roddi mantais i'r holl fyfyrwyr Cymreig i gyfarfod a'u gilydd yn Rhydychen; a gallwn sicrhau y caiff myfyrwyr newydd groeso calon, a doethineb profiad yr hen aelodau, a gŵyr myfyrwyr mor werthfawr ydyw hwn, ar eu dyfodiad yma.

Dyna pam fo Cusan Dyn Dall yn gasgliad mor werthfawr.

Gallai hyn greu problem mewn dosbarth lle mae mwyafrif y myfyrwyr yn Gymry Cymraeg, er enghraifft, gan y byddai tueddiad i'r darlithydd ar gwrs dwyieithog anghofio bod rhaid cadw elfen o Saesneg yn y dysgu hefyd os yw'r cwrs i fod yn un gwir ddwyieithog." Er gwaethaf yr ail bwyso a'r ail ddatblygu y bydd rhaid i Addysg Gymraeg eu hwynebu wrth weithredu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd y gronfa o arferion da sydd ar gael yn gynhaliaeth werthfawr.

EFFEITHIAU: Mae llawer o safleoedd diffaith yn werthfawr i'r amgylchedd o ran gwarchod natur a'r tirwedd.

Yn ogystal â meibion a merched ffermydd, ymunodd nifer o weision hefyd, rhai ohonynt yn aelodau gwirioneddol werthfawr.

Y mae dau beth yn arbennig werthfawr ynddo.

Dwn i ddim beth fyddai addysgwyr heddiw yn ei ddweud am ei dulliau o ddysgu ond gwn ein bod wedi derbyn cariad a gofal ganddi a fu'n werthfawr yn ein datblygiad ysbrydol.

Yng nghyd-destun eu cyfnod yr oedd distadledd eu magwraeth yn werthfawr i'r tri.

Yr oeddwn i bob amser wedi ystyried y gyfres, Llên y Llenor, yn llusern i oleuo'r darllenydd cyffredin - cymwynas werthfawr yn achos y llenor arbennig hwn.