Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

werthfawrogi

werthfawrogi

Maen nhw'n dweud na fedrwch chi werthfawrogi'r Paith onibai eich bod chi mynd mewn bws.

Y mae'r Beibl yn gyfrol gorffol ac er bod rhannau allweddol ohoni'n siarad yn uniongyrchol a chlir wrth y darllenydd, y mae llu o bobl, arferion, geiriau ac athrawiaethau y mae angen cymorth i werthfawrogi eu harwyddocâd.

Mae angen amynedd i ddatod ei rwymau a dyfalbarhad i werthfawrogi ei gynnwys.

Prin, mae'n wir, yw'r wybodaeth fywgraffyddol fanwl sydd gennym amdano a'i waith, ond nid yw hynny'n rhwystr inni werthfawrogi ei gyfraniad.

Mae sylweddoli mai dyma'r cefndir yn help i werthfawrogi pam y mae symudiad ychydig o bobl ddi-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg yn creu argyfwng.

Chwarae teg i'w rhieni, byddent yn gwneud eu gorau i werthfawrogi.

Dan ni'n rhy bwysig, bellach i werthfawrogi straeon sydd â thipyn o lastig yn eu penolau nhw - neu felly mae'n ymddangos i mi.

Gyda llaw, dydw i ddim yn meddwl fod neb wedi iawn werthfawrogi cyfraniad siopwyr lleol i fywyd cefn gwlad.

Gall defnyddwyr eraill y gwasanaeth rannu profiad a deallusrwydd nad yw staff o bosibl yn medru ei werthfawrogi.

Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.

Mae'n galonogol gweld y fath egni a thalent yn amlwg yn y wlad ac o'r diwedd, yn cael ei werthfawrogi y tu hwnt iddi.

Roedd plant yn gallu ei ddeall, ei fwynhau a'i werthfawrogi pan dueddai ambell adolygydd, efallai, i amau hynny nawr ac yn y man.

Sut fedran nhw werthfawrogi'n plesera syml ni?

Roedd yn llawn i'r ymylon o bobl ddaeth yno'n unswydd i werthfawrogi dawnsio gwerin.

Rowland Hughes, y ddau fel ei gilydd, am DM Jones: ei fod yn hanfod o Landeilo, fod ei fam yn Saesnes, ei fod wedi ei addysgu yng Ngholeg Llanymddyfri ac wedi caei addysg glasurol dda yno ond heb ddim hyfforddiant yn y Gymraeg, ac mai yn Rhydychen wrth ddarllen yn ei oriau hamdden yr oedd wedi dod i werthfawrogi cyfoeth iaith a llenyddiaeth Cymru ac i ymserchu cymaint yn nhelynegion Ceiriog fel yr aeth ati i'w cyfieithu i'r Saesneg' Mae adroddiad OM Edwards o hanes dechrau'r Gymdeithas ychydig yn wahanol.

'Dydw i mo'r un orau am werthfawrogi jôcs, yn arbennig y rhai sy'n mynd ymlaen mor hir nes fy mod i wedi llwyr anghofio'r dechrau.

Maen galonogol gweld y fath egni a thalent yn amlwg yn y wlad ac o'r diwedd, yn cael ei werthfawrogi y tu hwnt iddi.

Ond heb wybod rhywfaint, o leiaf, am y meysydd hyn ni all neb werthfawrogi barddoniaeth THP-W.

Erbyn hyn, fe ddaeth hi i werthfawrogi'i wrywdod cryf.

Nid ar amrantiad y deuir i lawn werthfawrogi blas eu siarad.

Fe fyddai'n siŵr o werthfawrogi ffrwyth ei hymdrech heno yn y dosbarth nos.

Os mai hyn ydi'ch syniad chi o rywbeth del, rhyw syniad go od o estheteg ac o werthfawrogi harddwch sydd gennych chi.

Mae rhywun yn amau, yn awr, a fu inni werthfawrogi ar y pryd wir hyd a lled ei gelfyddyd oherwydd ein hanfodlonrwydd cyffredinol ar y pryd gyda phrinder a lleoliad oriau teledu Cymraeg a'r diffyg amrywiaeth.

Gwr o dras uchelwrol oedd Henry Rowland ac y mae'r ewyllys yn ein helpu i werthfawrogi sawl agwedd ar fywyd ac ymwybod cymdeithasol gwr o'r fath.

Canolbwyntiodd yr wythnos ar sut i helpu plant i werthfawrogi'r amgylchedd ac hefyd sut i helpu pobl ailgylchu pethau.

Llwydda i gyfleu llonyddwch a bodlonrwydd cymeriadau wrth iddynt werthfawrogi byd natur.

Caeodd ei llygaid i werthfawrogi'i rhyddhad yn llawn cyn troi oddi yno a rhoi'r gorau iddi am y dydd a'r wythnos.

Ar y naill law, rhydd gyfle inni werthfawrogi cyfoeth diwylliant Thomas Charles, ac ar y llaw arall, ei allu i ysgrifennu'n glir a chryno ar gyfer darllenwyr diaddysg.

Anodd i ni heddiw werthfawrogi yn llawn y fath fraint a gwefr ond gallwn ddychmygu - a dychmygu hefyd, o ddarllen y gyfrol hon, effaith hynny ar John Davies a'i debyg.

Mae United Biscuits yn hynod falch o gael noddi "Rheoli Eich Lleoliad", sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan athrawon.

Yn gyntaf, er ei fod yn aelod ers deng mlynedd ar hugain (ei eiriau o), mae ei wyneb o yn ddigon dieithr i rengoedd gweithredol y Gymdeithas i gael ei gyfri'n wyneb newydd, ac yn ail os ydio am werthfawrogi talent newydd mewn unrhyw faes darllened fyfyrdodau gwleidyddol Hefina Clwyd.

Mae'r dyfyniad yn llawn man ffrwydron cudd, megis y cyfeiriad cynnil at 'yr ychydig', diffiniad Lewis , fe gofir, o nifer y rhai a all werthfawrogi llenyddiaeth.

Trueni nad oedd y system sain yn caniatau inni bod amser werthfawrogi ei holl ysblander.