Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

werthoedd

werthoedd

Y rheswm am gyfeiriad gwyrdroedig y Gymdeithas yw ein bod yn cael ein harwain gan 'griw o eithafwyr ynghlwm wrth werthoedd y saithdegau'. Roeddwn i'n ddyflwydd yn 1970 ac roedd fy nau Is-Gadeirydd rhywle yn y minws.

Mae'n dilyn felly fod yn y gymdeithas hefyd werthoedd, ystyron, ac arferion sy'n is-raddol i'r system ganolog.

Fel ym mhob maes arall, mae gwaed newydd yn gwbl hanfodol i barhad y sector annibynnol, ac mae'n briodol iawn fod rhywrai o bryd i'w gilydd yn herio hen werthoedd ac yn amau dilysrwydd hen safonau.

Dydi'r ffaith fod gweithiwr gofal ddim yn gyfoed ddim yn golygu nad oes ganddi ran i'w chwarae yn natblygiad defnyddiwr y gwasanaeth o'i hunan-ymwybyddiaeth a'i werthoedd personol.

Felly, wrth i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd ymlaen - y syniadau am y dinesydd modern, buddiol neu am y genedl fel cwlwm o werthoedd yn ennill tir, gwelwn wrthdrawiad cymhleth rhyngddynt a hynny'n esgor ar nifer o batrymau addysgol yn ôl natur y wladwriaeth a datblygiad y broses foderneiddio.

Hoffwn feddwl amdanynt yn magu perspectif eang ar fyd ac ar fywyd, perspectif wedi ei seilio ar werthoedd a phrofiadau eu cymuned.

Mae'r math o gymorth a ddewisir yn dibynnu ar ddymuniad personol, yn seiliedig ar werthoedd ac adnoddau'r unigolyn.

Cychwynnodd y ddadl ar dir y gwahaniaeth rhwng clasuraeth a rhamantiaeth ac ymledodd gydag amser i gwmpasu trafodaeth ar werthoedd moesol.

O'i fewn y ffynnai'r diwylliant a'r grymusterau gwareiddiol hynny a roesai hynodrwydd i deulu ac ardal ac a luniai undod unigryw mewnblygol a safai dros werthoedd cynhenid y gymdeithas.

Y werin yw ei brif ddeunydd: hi hefyd a rydd iddo ei werthoedd.

Cynhyrchir agweddau, gwerthoedd ac arferion o fewn yr uwch-ffurfiant, ond er fod yr ideoleg hegemonaidd yn gweithredu i integreiddio pawb i mewn i'r system ddominyddol o werthoedd, gan gynhyrchu synnwyr cyffredin sy'n treiddio drwy'r system, eto saif rhai y tu allan i'w dylanwad.

Thema ganolog: Gwrthdaro: y gwrthdaro rhwng yr hen werthoedd a'r gwerthoedd newydd, rhwng Cymru Oes Victoria a Chymru'r ugeinfed ganrif; rhwng Sosialaeth a Chyfalafiaeth; rhwng anterth a dechreuad cwymp yr Ymerodraethau Mawrion; rhwng aelodau'r Orsedd, cefnogwyr a dilynwyr Iolo Morganwg, a'r ysgolheigion newydd, dinoethwyr Iolo; rhwng beirdd hen-ffasiwn yr Orsedd a beirdd 'yr Ysgol Newydd'; rhwng cenedlaetholdeb a Phrydeindod.

Y mae lle inni i gyd bryderu pan welwn hen werthoedd traddodiadol yn diflannu.

* fod yn atebol iddo * dderbyn ei farn a'i feirniadaeth yn agored * fod yn gefnogol a hyblyg i gwrdd a'i anghenion unigol * gael eu gweld yn gefnogol iddo fel unigolyn, gan gynnwys ei hunaniaeth, ei werthoedd a'i ddymuniadau.

Go brin y byddai neb yn dadlau nad da o beth yw hynny, ond wrth i'r hen sefydliadau gael eu dymchwel, mae'n rhaid sicrhau bod yr hen werthoedd a'r hen safonau yn cael eu cynnal.

Yn erbyn y polisi hwn a thros werthoedd mwy dynol ac ysbrydol y mae glewion ifainc Cymdeithas yr Iaith yn ymladd gyda'r fath wrhydri.

Tra oedd y ddeuddyn yr un mor eiddgar a'i gilydd i begynnu'r sefyllfa, seilient y pegynnau hynny ar werthoedd anghymarus.

O'i ran yntau, drwgdybiai Murry unrhyw gyfundrefn o werthoedd diwrthdro mewn crefydd a llenyddiaeth.

Er nad yw gweithwyr gofal yn gyfoedion, dydi hynny ddim yn golygu nad oes ganddynt ran i'w chwarae wrth i ddefnyddiwr y gwasanaeth ddatblygu ei hunan ymwybyddiaeth a'i werthoedd personol.

Ym mhob cymdeithas, ceir system ganolog o werthoedd, ystyron, ac arferion sy'n dominyddu.