Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

westy

westy

Cafodd ffacs yn llongyfarch y pâr priod ei anfon i westy'r Plaza hefyd.

Symudodd JE o Lundain i Gaernarfon, ac mewn ystafell tu cefn i Westy Pendref lle lletyai bu Swyddfa'r Blaid nes y symudodd yn ddiweddarach i ystafelloedd ehangach yn Heol y Castell.

Ac fe gefais gyfarwyddiadau - manwl; pwy ffordd i'w dilyn allan o Langolwyn, troi i'r chwith wrth eglwys y Santes Fair, a dilyn y ffordd fawr am ryw ddwy filltir, troi oddi ar honno wedyn wrth westy'r Tarw Du, a dilyn y ffordd gulach i fyny'r llechwedd; troi heibio talcen capel Methodus a dilyn ffordd y chwarel garreg galch; yna, ar grib rhiw go serth, ac yng nghanol y wlad yr oedd Trem Arfon.

Commodore oedd yr unig westy lle'r oedden nhw'n gallu gwarantu ein diogelwch ni.

Diwedd y stori hon yw i'r papur wythnosol lleol y 'North Wales Weekly News' gario stori y dydd Iau canlynol yn sôn am Brian Bates yn mynd i Westy'r George i drin gwallt Mrs Thatcher.

A ffwrdd a ni am westy am weddill y noson.

I ffwrdd â ni wedyn i westy Bryn Cregyn yn Neganwy i gyfarfod cynrychiolwyr y wasg.

Ond i'r teithiwr busnes sy'n cyrraedd y maes awyr ac yn llogi tacsi er mwyn cyrraedd ei westy, llwyd a dilewyrch yw'r argraff gyntaf o'r drefedigaeth; heolydd penrhyn Kowloon rhwng y maes awyr a'r twnel i ynys Hong Kong yn dagfa drafffig fyglyd, fflatiau'r pumdegau a'r chwedegau yn salw o'u brig i'w bôn, ysbwriel o'r lloriau uwchben wedi disgyn yn bentyrrau pwdr ar y mân doeon sy'n cysgodi prysurdeb y stryd rhag bygythiad glaw tyrfau'r gwanwyn.

Y noson honno, roedd llawer o'r un pwysigion yn ôl ym mhrif westy'r ddinas yn bwyta danteithion a sipian siampên.

A chawsom ddisgownt hael gan westy'r Alvear Palace, un o'r goreuon a'r drutaf yn Buenos Aires - lle bu Fergie yn aros yn ddiweddarach, mae'n debyg.

Hen westy oedd wedi'i baratoi ar ein cyfer ni, a doedd dim system oeri yn agos i'r lle.

Fe'i perswadiodd ei hun ei fod wedi mwynhau pryd o fwyd nad oedd, mewn gwirionedd, yn ddim ond pryd nodweddiadol, o unrhyw westy eilradd.

O westy yn y ddinas y teledwyd rhaglen deledu gyntaf yr Unol Daleithiau ac wedyn lleolwyd sianel deledu gyntaf y wlad yno.

"Mi wn am westy rhagorol, lle bydd digon o groissants breuaf a mwyaf blasus y cyfandir ar gael!