Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

willie

willie

Yna cofiodd Willie i Ellis Gruffudd ddweud nad llond bol o un peth a geid i ginio ond pigiad o'r naill beth ar ol y llall a hynny heb dalu ecstra.

Roedd Willie wedi penderfynu cyn cychwyn y rhoddai arian parod bob tro y gallai, rhag ofn iddo gael ei wneud wrth dderbyn y newid.

Yn y set ol, tynnodd Willie ei het a'i gosod ar ei lin; tynnodd ei law'n ofalus dros y gwallt tenau uwch ei glustiau.

Rydw i'n cofio fel petai o'n ddoe dyn bach o'r enw Dafydd Bach Goch, arbenigwr yn ei grefft, yn sefyll o flaen cwt fy nhad a gofyn iddo, 'Sut mae Willie bach yn dod ymlaen?'

Ond nid oedd Willie fymryn dicach.

Gwelodd Willie lythrennau bras, "The Imperial Hotel" yn edrych i lawr arno.

Ond dyna'r peth olaf a fynnai Willie wedi iddo ymddeol.

Ma' rhyddid yn beth mawr, wyddoch chi a rydw i am ddal 'y ngafal ynddo fo." Ar yr un gwynt, ychwanegodd yn ddyn i gyd: "Rydw i am fynd i weld tipyn ar y byd cyn iddi hi fynd yn rhy hwyr arna i." Agorodd ceg Maggie Huws, ond cyn iddi hi gael yr un gair allan ohoni hi, roedd Willie Solomon wedi cyrraedd ei ddrws ac wedi rhoi clep arno yn ei hwyneb.

Wrth ei gwisgo, roedd o'n ennill modfedd neu ddwy reit dda ac yn bwysicach fyth, nid fel Willie-llnau-ffordd y teimlai ynddi ond fel William Solomon, neu hyd yn oed Mr William Solomon.

Nid Willie-llnau-ffordd oedd o, ddim am wythnos beth bynnag.

Coffa da am y dispatch riders, Willie Owen (aelod parhaol o'r staff) a John Williams o'r Blaenau (rhan-amser) yn gwneud siwrneiau epig yn rheolaidd ar eu beiciau modur.

Yna, arweinidod y cawr ef i'r lifft heb yngan yr un gair ac o hwnnw, gyda thraed Willie yn suddo yn y gwely plu o garped, i'w ystafell.

Gwenodd Willie'n garedig arno a diolch drachefn.

Gwawriodd y gwir ar Willie; tyrchodd i boced ei drowsus a dod o hyd i chwechyn a'i daro ar gledr ei law.

Un o'i fuddugoliaethau mwyaf cofiadwy efallai oedd honno dros Willie Pastrano a ddaeth wedi hynny'n bencampwr pwysau go drwm y byd.

Rhif oed yr addewid, meddyliodd Willie'n hyderus, addewid o bethau gwych i ddyfod, nid nefoedd niwlog o fyd arall, ond yma o'i gwmpas ac yntau gyda digon o bres yn ei boced i dalu amdano.

and we trust that we shall be able to give you every satisfaction..." Roedd Willie Solomon yn gobeithio hynny hefyd ar ol darllen y prisiau yn y llyfryn.

Ei dro ef, Willie a fyddai tynnnu'r gwynt allan o hwyliau Ellis wedi iddo gael wythnos gyda'r bobl fawr yn yr Imperial.