Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wirion

wirion

Perthyn i'w thad yr oedd hon, cyfrwys yn ei ffordd fach wirion, yn ddirgelaidd fel yntau.

dacw'r man, a dacw'r pren Yr hoeliwyd arno D'wysog nen, Yn wirion yn fy lle; Y ddraig a sigwyd gan yr Un, Can's clwyfwyd dau, congcwerodd Un, A Iesu oedd Efe.

A'r un pryd, anghofiwch am y rhaglen wirion yna Bwrw Sul.

Gwenodd Ifor yn wirion.

Byddwn yn wirion iawn, yn wir, byddwn ni yn wirion iawn, pe bawn ni'n anwybyddu eu cynghorion.

(Os darllenir y llinellau hyn gan rywun, diamau yr ystyrir fi yn ffôl yn cofnodi pethau mor wirion.) Yr oeddwn yn gobeithio yr eisteddasai Dafydd yn hen gadair ddwyfraich Abel; ond ni wnaeth hynny, a chymerodd y gadair yr arferai efe eistedd arni pan oedd Abel yn fyw.

'Paid â bod mor blentynnaidd o wirion!

Mi ddaru Defi John a Jim ddechra' chwara'n wirion ymhen dipyn, ar ôl blino bod yn llonydd - a thaflu cregyn bach aton ni a ninna wedi cau'n llygaid, smalio cysgu.

Hen gyfraith wirion galed yntê?

Mae'n ras wirion i gyrraedd yn gynnar i ddewis pryd a lle i werthu.

Dyna olwg wirion oedd arni mewn gymslip gyda gwallt cwta cwta a sbectol hen ffash' ar ei thrwyn!

Safai chwe thþr cadam, gydag wyth ochr i bob un, yn onglau muriau'r ddwy ran gyntaf ac o doeau'r tyrau hyn ymwthiai tyredau bychain yn wirion, fel bys bawd ar ben eich troed pan fydd y bysedd eraill wedi cau'n dynn.

Atebodd yn swta, 'Paid â bod mor wirion, Geth!' a herciodd ymlaen.

Diolch i'r miri efo'r hogan wirion yna gollodd ei chot law, roedden nhw chwarter awr yn hwyr yn cychwyn o Bwllheli ac roedd y ddamwain yna ger Llanllyfni wedi achosi iddo golli mwy o amser.

Mae'n rhaid ei fod o'n wirion bost os oedd o'n credu y byddai o'n datgan ble'r oedd cuddfan ei gyfeillion.

Rwan, Ifan, a dim ond os wyt ti'n gaddo bod yn law da, tyd i mewn am hoe bach ond dwi ddim isio gweld chdi'n chwarae'n wirion, cofia, neu allan ar dy ben fyddi di, wyt ti'n dallt?

Fel un na welodd ond cwta ddwy bennod o'r gyfres Big Brother fydda i ddim yn siomedig o weld y gyfres wirion yn dirwyn i ben.

Gallai fod yn boenus o ostyngedig ac yn wirion o falch ar yn eildro.

Ceisiodd ddweud hynny wrtho drwy'r beipen ond roedd yntau hefyd yn swnio'n hollol wirion i'w frawd.