Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wisgai

wisgai

A dyna'r siaced law ddibwrpas, ddiystyr honno, y math a wisgai pobl o'i oed e, mae'n siŵr, er mwyn peidio teimlo'n noeth allan ar y stryd.

Yr un piws oedd y crandiaf, hwnnw a wisgai i ginio heno.

Siwtiau brown a wisgai'i fam a'i dad a'i daid hefyd.

Yr unig addurn a wisgai Hannah oedd clustdlysau hirion glasbiws ar ffurf triongl.

Hyd yn oed o bell awgrymai coethder a lliw harnais y camelod fod y bobl ddieithr hyn yn abl i dalu, argraff a gadarnheid gan feinder y defnydd gwlân a wisgai eu cennad.

Daeth i gof Mali yr achlysur pan welodd Dilys yn dda i ganmol siwt goch a wisgai Mali gan ddweud ei bod yn rhoi lliw iddi; amheuai Mali mai awgrym oedd hynny fod ei chroen yn ddiliw heb gymorth y siwt.

Wrth orweddian yn y bath ni allai lai na dyfalu beth a wisgai Hannah ac Elsbeth.

Fe ymolchai o'i gorun i'w sawdl, fe wisgai ei grys newydd ac fe ai i gael cinio.

Pan symudodd Ifan Parry o Eil o Man i Benrhos, ty bychan ar ben lon Cerrigcamog, dyma John Rowlans yn cyfeirio at Ifan Parry fel 'Arglwydd y Penrhos'.Dyna Catrin Owan, Lon Las gwraig John Owan a wisgai gap pig gloyw bob amser, er mwyn i bawb wybod mai enjiniar oedd o ar y mor, ac nid llongwr.

Fe wisgai o ei siwt gapel gyda'r nos a'i siwt noson waith yn ystod y dydd.

Roedd cadwen felen fel aur am ei wddw a thros ei siaced ddenim gwisgai ei siaced ddu, y siaced a wisgai bob amser i fynd ar y Lambretta.

Ac fe wisgai ei dei bob cymanfa.