Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wiw

wiw

Roedd hyn yn dipyn o loes i'm cydletywr, ond doedd wiw iddo ef brofi ohono; ac atgoffwn innau ef yn gyson â'r geiriau: "Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn!" Roedd honno'n flwyddyn galed iawn, ond bwriais iddi'n ddiarbed gan y gwyddwn yn dda na fyddai ailgynnig mewn cyfnod felly.

Prin oedd yr enillion ar y gorau a doedd wiw imi feddwl am aros yn Hendregadredd yn hir.

Mi wnawn ni drefniadau i gadw hwsmonaeth ar y fferm hyd fis Gorffennaf; erbyn hynny mi fyddi di wedi cael cyfle i feddwl ac mi fyddi wedi cael gorffen yn yr ysgol, ac os byddi di am newid dy feddwl mi fedri fynd i goleg." Gwyddai Alun oddi wrth yr olwg styfnig yn ei hwyneb nad oedd wiw iddo ddadlau â hi, roedd hi wedi penderfynu.

Fel yr oedd Thomas Jones Llanuwchllyn, a roes wasanaeth mor wiw i lywodraeth leol yng Nghymru ac i'r Eisteddfod Genedlaethol.

Ond does wiw ichi holi beth yn union y mae'r lluniau yn ei olygu, oherwydd ni chlywodd y gofalwyr erioed am y Drindod, y Forwyn Fair, y Geni Gwyrthiol, y Swper Olaf ac yn y blaen.

A lleidr y perthi yn ei gap du a'i wasgod sgarlad, cythraul mewn croen yn ôl y garddwyr ond wiw ei ddifa.

Y mae'n dadlau hefyd mai â'r cyffredinol, nid â'r neilltuol, y mae a wnêl bardd, ac felly ni wiw canu i berson arbennig, fel "Yr Arglwydd Tennyson" neu "Y Frenhines Victoria%.

Maen nhw'n gallu clywed pob smic a does wiw dweud gair cas amdanyn nhw heb sôn am drafod sut i gael gwared â nhw.

Wiw i chi anghofio gwneud hynny gyda llaw.

Ond doedd wiw i'r Gwylwyr ganfod hynny.

Ond fe wyddai nad oedd wiw iddo sôn am hynny.

Cydiodd yntau yn y tennyn ac fe'i codwyd i'r awyr ac nid oedd wiw iddo ollwng gafael.

Sawl tro y ces i fy rhoi yn fy lle wedi i mi wneud sylwadau fel, "Ddim yn meddwl llawer o 'Pobl y Cwm' heno nhad," mi gawn yr atebiad "Pa bryd wyt ti am sgwennu pennod?" Wiw i mi chwaith ddweud fod actor neu actores ddim yn dda, neu mi fyddwn yn cael darlith am gynhyrchu drama deledu o'r top i'r gwaelod.

Y mae y gyfrol yn byrlymu o edmygedd o'r ysgolhaig y bu ei gyfraniad yn un mor wiw yn ystod cyfnod diweddar y dadeni Dysg.

mae'n amhosibl anwybyddu'r gynghanedd yng nghymru a wiw inni wneud hynny.

Llwyd yr enaid a'r tafod aflonydd, y Llwyd hanfodol nerfus, a gyflwynir i ni, Llwyd y crwydryn ysbrydol (amheuaf na wiw inni ei alw yn bererin, achos y mae cryn wahaniaeth rhwng crwydryn a phererin).

Yr oedd y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn dysgu'r aelodau bod angen golchi pyrsau'r gwartheg cyn dechrau godro, ac nad oedd wiw poeri ar gledr y llaw i wlychu teth y fuwch i'w stwytho.