Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wmbredd

wmbredd

Mae rhyw arlliw cenedlaetholaidd ar y ddogfen hon hefyd ac yn wir y mae Philip Cooke, a fu'n gyfrifol am beth wmbredd o argymhellion mwyaf ymarferol yr adroddiad, yn gyn-is-gadeirydd y Blaid.

Rhoes beth wmbredd o'i amser a'i ynni i sicrhau cyflawnder o feiblau Cymraeg.

Peth wmbredd yn wir o lyfrau prin o'r ddeunawfed ganrif, rhai cannoedd o farwnadau o'r un cyfnod a hen gyhoeddiadau Cymraeg diddorol y Cymreigyddion a gadwai eisteddfodau mewn tafarndai ym Merthyr, Aberdâr a Dowlais.

Ac, yn anffodus, yr oedd peth wmbredd o bobl yn llawenhau yn eu hail-ddyfodiad, ac nid yn unig yn llawenhau ond yn lledaenu'r pla yn ogystal.

Wedyn mae yna beth wmbredd o hanes digwyddiadau pwysig, yn rhyfeloedd a digwygiadau a mudiadau o bob math trwy holl orllewin Ewrop a llawer o'r hyn a elwir yn fyd gwareiddiedig lle mae'r bobl sydd wedi dysgu lladd ei gilydd yn byw o'u cymharu a'r darnau lle mae'r bobol sy'n bwyta'i gilydd yn byw.

A dyna golli peth wmbredd o'r maeth, yn enwedig y fitamin C.