Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wnaethom

wnaethom

Y mae gennym lawer iawn o bethau i edifarhau amdanynt ymhlith y pethau a wnaethom llynedd.

Chwerthin am ei ben a wnaethom ni.

Ein cyfrinach ni ydi na wnaethom ni erioed ildio, tra eu bod nhw yn Llywodraeth ganolog, yn llywodraeth leol ac yn gwmnïau preifat, bach a mawr, wedi ildio i ni drosodd a throsodd.

Dal i'w hanwybyddu a wnaethom nes gweld, er mawr ddychryn inni, ei bod hi'n dod allan drwy'r ffenestr ac yn camu ar do y cwt bychan a safai dan y ffenestr ac a redai i lawr o fewn ychydig i lefel yr iard.

Pan ddychwelai Dafydd Dafis a minnau o'r fynwent, dychmygwn glywed fy hen feistr yn dweud wrthym, ``Thanciw, Rhys thanciw, Dafydd Dafis; gwnaethoch yn dda,'' a Dafydd a minnau megis yn cydateb, ``Yr hyn a ddylasem yn unig a wnaethom i ti''.

Eleni, hefyd, ar ôl i'r Gymdeithas fod ar yr hen ddaear yma am deugain namyn dwy o flynyddoedd fe lwyddwyd i wneud rhywbeth, chwyldroadol, na wnaethom erioed o'r blaen, sef apwyntio dau gadeirydd.

Gwrthod a wnaethom.

Pan wnaethom ni gyrraedd Awstralia ym mis Chwefror 1968 roedd y tywydd yn ofnadwy o boeth - dros 100F ac ymhen tri diwrnod yr oeddwn wedi llosgi'n ofnadwy.

Dowch i ista fan'ma, i ni gael sgwrs, tra bydd yr actorion yn cael eu traed danyn'." Cawsom ddwy gadair esmwyth yn ddigon pell o'r llwyfan, ond dal i sibrwd a wnaethom.

Fe wnaethom ni'r meddygon ein gorau iddo, a defnyddio'r cyffuriau diweddaraf i gyd, ond i ddim pwrpas.

Roedden nhw'n lecio'r Romans yn fawr iawn ac mi wnaethom nhw ddwyn lot o'u geiriau nhw yn enwedig rhai diflas fel ysgol, disgybl, llyfr, eglwys ac esgob ac yn y blaen.

Mi wnaethom ni ryddhau sengl a record hir gan y grŵp y flwyddyn honno.