Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wnelo

wnelo

Nid oes a wnelo hynny ddim â gobaith.

Y mae stôr o wybodaeth gan bob siaradwr, sy'n ei alluogi i gynhyrchu a deall nifer annherfynol o olyniadau newydd yn ei iaith, ac â'r wybodaeth fewnol honno'n bennaf (competence yw term Chomsky) nid â'r sylwedd a gynhyrchir gan y siaradwr (performance yw gair Chomsky) y mae a wnelo gramadeg.

Nid oes a wnelo hi â manion ac eto nid yw'n colli dim.

Efallai nad oedd â wnelo hyn ddim â'r peth, ond sylwais fod gan ŵr y tŷ lle yr oeddwn yn aros reiffl wrth law.

Mae a wnelo Iesu Grist â'r bydysawd oll, a phopeth sydd ynddo,

Erbyn canol yr ail ganrif ar bymtheg roedd rhai gwyddonwyr a naturiaethwyr wedi barnu fod a wnelo mudo o'r dyfroedd croyw i'r môr rywbeth â'r broses, ac yr oeddent wedi cysylltu'r sylw fod llysywod bach yn dod o'r môr i fyny'r afonydd bob gwanwyn â'r broses o symud i lawr i'r môr.

Ond o fy mhrofiad anffodus i o feddygon ac ysbytai does a wnelo lliw eu croen fawr ddim ag anallu rhai meddygon i gyfathrebu a defnyddio gair yr adroddiadau diweddar.

Eithr beth sydd a wnelo moesoldeb â llenyddiaeth ysbrydoledig?

A'r cyfnewidiadau crefyddol y mae a wnelo Dr Densil Morgan.

Nid oes a wnelo'r darlun o Israel fel pobl Dduw ddim o angenrheidrwydd â'r syniad o genedl fel uned gymdeithasol a pholiticaidd.

Un maes yr oedd a wnelo'r Eglwys ag ef oedd addysg.

Ond yn ôl arolwg diweddar, ac amheuaf fod a wnelo cadwriaethwyr natur rywbeth a hyn, mae yn prinhau a rhaid fydd i ni arddwyr newid ein cynlluniau a defnyddio rhywbeth yn ei le.

Ac os yw lluniau Dick Chappell yn deillio i raddau helaeth o ddiddordeb manwl mewn daeareg, mae a wnelo rhai Bert Isaac yn fwy uniongyrchol â'r hyn sy'n weladwy i'r llygad, er nad oes dim oll yn ffotograffig yn eu cylch.

Gan fod llawer o ddynion yn gweithio yn y bonc roedd yn rhaid cad rhyw drefn gyda'r saethu, neu mi fuasai rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu bob tro; felly roedd amserau neilltuol i'r saethu a threfn rhywbeth tebyg i hyn: roedd dyn penodedig yn chwythu biwgl, ac ar y chwythiad cyntaf roedd pawb nad oedd a wnelo hwy â'r saethu yn mynd i le diogel i ymochel neu, i ddefnyddio term y chwarel, i wardio ffiars.

Y mae a wnelo'r frawddeg ynghylch lleoliad Gwilym druan, ac yn ei sgil yr holl broses o raddio cwrs, â'r ail gwestiwn.

Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.

'Deud y bydda i nad oes a wnelo cyfreithiwr ddim â'r cwestiwn a ydi person yn euog ai peidio, dim ond â dilysrwydd y dystiolaeth ymhob achos.'

Nid oes a wnelo hyn â gallu'r naill fudiad neu'r llall, ond yn hytrach, â'r modd y sianelir cyllid cyhoeddus ar hyn o bryd.

Nid masgot ein criw bach ni yw Iesu Grist ond yr un y mae a wnelo â holl genhedloedd daear.

Buasai llawer ohonom yn y Blaid Lafur am flynyddoedd, a bodau gwleidyddol oeddem hyd flaenau'n bysedd, ac yn anad unpeth, deallem mai â grym y mae a wnelo gwleidyddiaeth, a dyna wers nad yw'r Blaid Lafur erioed wedi ei hanghofio.

Ond efallai fod a wnelo eiddigedd rywbeth â hyn hefyd.

Maen nhw, yr arbenigwyr, yn ceisio profi fod a wnelo dagrau, neu brinder dagrau, ag ambell salwch, yn arbennig briwiau stumog.

Mae a wnelo'r ddeubeth â'r iachawdwriaeth ac y maent yn gysylltiedig â gwaith Crist ac ag athrawiaeth yr iawn.

Heb ddim o'r holl bethau hyn, yr oedd bopeth ac yn afieithus fyw: y math o ddyn sydd yn ein gwthio, muled a fulo, i gredu fod yna rywbeth wedi'r cwbl nas trechir gan angau fyth, a hynny nid am ei fod a wnelo un dim â dogmâu crefyddol, ond am fod dyn yn ei briod berson yn annistrywadwy.

Cydymdeimla Saunders yn y fan hon gyda'r rhai sy'n dadlau nad oes a wnelo llenyddiaeth â moesoldeb.

Beth yn y byd oedd a wnelo hwy â rhyw dwll fel Porth Iestyn?

Y mae a wnelo llawer o ddysgeidiaeth Crist â chreu cymdogaeth dda lle y mae cariad rhwng cymdogion.

Pegwn y cywirdeb gwleidyddol gwallgof hwn yw cynnwys Cuba Gooding Jr fel cogydd du sy'n dipyn o baffiwr ar un o longau'r harbwr - cymeriad nad oes a wnelo affliw o ddim a'r stori ond bod ei angen i ddangos pa mor bositif yw Americaniaid pan ddaw hi'n liw croen.

Y mae a wnelo fwy ag agwedd drahaus, weithiau, a difeddwl, yn aml, meddygon tuag at gleifion.

Ac i Bantycelyn y peth trawiadol yw fod a wnelo dioddefaint Crist â ni a bod ei fuddugoliaeth Ef yn fuddugoliaeth i ninnau.

Fodd bynnag nid Cefnfaes oedd ffurf wreiddiol yr enw Cemais fel yr awgrymodd rhai a nid oes a wnelo'r enw a'r gair maes.

Ond tybed a oedd a wnelo Lewsyn ap Moelyn â hi cyn hynny?

Mae a wnelo'r llyfr lawn cymaint felly ag ymateb y mab i droseddau ei dad ag â'r tad ei hun.