Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wneuthur

wneuthur

Un o refeddodau mawr ei fywyd ef yw iddo wneuthur yn ei ystod y fath doreth anferth o waith o bob math.

Dywedid hefyd fod y cyfarfodydd gweddi min nos, a'r gyfathrach a ddilynai wrth ddychwelyd adref, yn ei wneuthur yn waeth.

Gwelai'r gwladweinydd pa beth a ddylid ei wneuthur er mwyn argyhoeddi llywodraeth y Frenhines Elisabeth fod rhaid cael caniatâd a chefnogaeth swyddogol er mwyn llunio'r cyfieithiad.

Beth bynnag a ellid ddywedyd am waith Mr Jones yn cusanu genethod ieuanc iawn a fegir ganddo, ni welwn reswm yn y byd dros iddo barhau i wneuthur hynny wedi iddynt dyfu i fyny yn ferched ieuanc.

Magwyd ef yn y cyfnod braf gynt, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan feddylid fod popeth yn gwella wrth ei bwysau, a'r unig beth y disgwylid i bawb o'i gyfnod ei wneuthur oedd cadw'u dwylo ar yr olwyn.

Yn wir ni fyddent wedi breuddwydio am wneuthur hynny gan fod yr Eglwys yn dysgu nad oedd rhaid i neb allu darllen yr Ysgrythur er mwyn dod i afael y cadw.

A'r ferch yn byw mewn pentref pell fe sgrifennai John ati bob pythefnos, neu'n gywirach byddai'n cael gan rywun arall wneuthur felly drosto, gan na fedrai na sgrifennu na darllen.

Dyna a amcanai ei wneuthur yn Cymru, a'r cylchgrawn hwn oedd penllanw pob ton - Stephen Hughes, Griffith Jones, Thomas Charles - a symudodd y werin yn nes at hafan gwybodaeth.

Cai fenthyg nodiadau un neu ddau ohonom fel y gallai Mrs Gruffydd wneuthur copiau ohonynt, a chywiro'n camsyniadau ni lle byddai angen!

Gan wybod fod distawrwydd yn andwyol i gerfiwr nerfus, ceisiais ailgychwyn ymgom gyffredinol trwy wneuthur sylw edmygol parthed darlun o General Buller a oedd yn hongian ar y pared gyferbyn.

Ond yr oedd o hyd un dewis hanfodol arall i'w wneuthur, a'r wythnos ddiwethaf wrth edrych trwy fy nodiadau, cefais hyd i nodyn a wnaethpwyd gennym mewn cyfarfod arall eto o'r grŵp yng Nghaergrawnt - wrth drafod a ddylai'r Blaid fod yn grŵp gwleidyddol ymwthiol neu'n blaid wleidyddol, ac y mae'r gwahaniaeth yn bwysig dros ben.

A chredwn na ddylasai ar unrhyw gyfrif wneuthur hynny â Philti ac Enomeris oedd yn ferched oddeutu dwy ar bymtheg oed pan ddaeth Miss Bessie Jones â hwy o Cherra i Maulvi Bazaar .

Dechreuodd ef ddarllen llenyddiaeth Gymraeg yn llanc, ac wedi myned I Rydychen gwnaeth ffŵl o'r drefn afrywiog a ddechreuodd ei wneuthur yn fathemategwr, trwy ymroi i ddarllen Cymraeg a gwrando ar ddarlithiau John Rhys.

Wrth weld nifer yr ymwelyddesau caredig a da eu hamcan yn ddiamau yr wyf yn meddwl ddarfod imi wneuthur yn gall drwy ofyn i wraig synhwyrol gymryd gofal o Miss Hughes a'i chadw rhag cael ei boddi gan gydymdeimlad.

Caniateais innau iddynt wneuthur feUy, a gorweddais ar wastad fy nghefn ar lawr, a chymerasant y chwart cwrw a chodasant ef i fyny, a thywalltasant cwbl ynghyd â Uawer ychwaneg, i lawr i fy ngwddf, fel i bwU o dwr.

Ni all y genedl cyn marw wneuthur yr un ewyllys ar ei chyfoeth; rhaid i'r holl eiddo fynd yn sied, rhaid iddo gwympo, fel pob eiddo di-etifedd, i sawnsri Lloegr.