Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wrthrych

wrthrych

'Balchder aristocrataidd' awdur Gwaed yr Uchelwyr yw gwir wrthrych sylw Gruffydd, ni waeth pa mor amhersonol y cais fod.

Y mae diwylliant pob bro a rhanbarth yn wrthrych rhyw gymaint o nodded.

Diau fod eithriadau, sef y bodau hynny a eilw'r Sais yn freaks of nature, ac os ydyw Prodder Rhys yn un o'r freaks hynny, y mae'n wrthrych tosturi.

Nid bod yn wrthrych ymchwil yw'r unig rol i'r athro, ond bod yn ymchwilydd ei hun.

Gan hynoted oedd ei oslef a chan mor arbennig oedd ei arddull, ac, ar un adeg, gan mor unffurf oedd ei wisg - crys coch a siwmper goch (ni hoffai siwt) - a chan ei fod mor gaeth i'w bibell a'i sbectol, yr oedd yn wrthrych parod i'r parodi%wr, er gofid mawr i'w fam, ac, weithiau, iddo ef ei hun.

Llygad - Golwg deulygad sydd gan y rhan fwyaf o fodau dynol, sy'n golygu fod y ddau lygad yn canolbwyntio ar wrthrych, a phob retina yn anfon i'r ymennydd neges glir am yr hyn a welir gan y llygad hwnnw.

Mae'n beth anodd iawn ei wneud gan fod eich ymennydd yn mynnu symud eich llygaid i ganolbwyntio ar ba wrthrych bynnag y ceisiwch edrych arno.

Roedd rheswm da paham yr oedd comisiynau brenhinol a chomisiynau ymchwil yn ymddangos yn gymaint o ddiwydiant â'r diwydiannau a oedd yn wrthrych eu hymchwiliadau.

Trwy wneud hyn mae'r golau o'r gwrthrych yn taro ar y 'rhodenni' ac felly os yw'n wrthrych tywyll mae gennych well gobaith o'i weld.

Yn ei bennod agoriadol i'w Iyfr enwog Williams Pantycelyn, y mae Saunders Lewis yn darlunio'i wrthrych fel gwr digymdeithas.

Nid oes uwch cydnabyddiaeth o barhad na bod yn wrthrych mil a mwy (yn llythrennol felly) o draethodau poenus ganol Haf.