Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wrthrychol

wrthrychol

R'on i'n gwrando ar lais profiad a sylweddoli ar yr un gwynt fod y ffin yn denau a niwlog rhwng cofnodi darlun gwrthrychol o'r erchyllterau a chofnodi darlun oedd wedi'i osod yn ofalus i roi argraff wrthrychol.

Rhaid aros am hanesydd i gloriannu'n wrthrychol yr ysgogi a'r atalfa.

Rhaid i mi wneud fy ngorau glas i ddod i benderfyniad synhwyrol, ac i'r perwyl hwnnw, da o beth fyddai bwrw golwg yn ôl a cheisio dadansoddi, mor wrthrychol ag y medraf, yr holl ddylanwadau a'm harweiniodd i'r fan hon.

Tuedd cyfrolau fel hon, er pob ymdrech i fod yn wrthrychol, yw clodfori, yw cymryd yn ganiataol fod pob sillaf o eiddo'r bardd yn gampwaith.

Pa mor wrthrychol all ymateb felly fod ...

Ond mi obeithiaf fy mod yn siarad yn ddifalais ac mor wrthrychol ag y medr un mor ffaeledig â mi.)

Nid un wrthrychol, gytbwys, ond un am agwedd ar fywyd yn yr Almaen sy'n peri mwy a mwy o ofid imi.

Nofelau yn dilyn hynt yr enaid unigol yw'r ddwy nofel am Leifior yn hytrach na gweithiau sy'n dehongli'n wrthrychol wleidyddol strwythur ein cymdeithas.

Dim ond hanesydd eofn -- ac un nad oedd yn rhan o fwrlwm y cyfnod cynnar -- fedr daflu ei linyn mesur yn wrthrychol dos hanes y mudiad.

Ond er cydnabod anorfodrwydd goddrychedd beirniadaeth, mae rhai nodweddion sydd heb fod, hwyrach, yn wrthrychol mewn ystyr wyddonol, ond sydd eto mor gyson gyffredin i weithiau sydd wedi eu profi eu hunain yn abl i oroesi pob barn a chwaeth a mympwy, nes mynnu eu lle fel anhepgorion.