Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wrthsefyll

wrthsefyll

Ef oedd awdur rhaglen ymarfer, Building the Classic Physique the Natural Way a bun hyfforddi llanciau ifanc yn y grefft gan gredu y byddain fodd i'w helpu wrthsefyll temtasiwn cyffuriau.

Eithr er iddynt wrthsefyll y drefn Seisnig yr oedd dylanwad Seisnigrwydd yn gryf yn eu plith, ac ni ddylid synnu at hynny.

Fel arfer, byddai criw Iddewig yn gorfod cael eu cludo i'r dref mewn cerbyd â'i ffenestri wedi eu cryfhau i wrthsefyll ymosodiadau'r intifada.

Ni elli wrthsefyll y llais sy'n dy alw ymlaen ac mae'n rhaid i ti ddilyn y Belen Olau.

Fe gafodd yr hen ddyn ddos go egar o ffliw, ond 'roedd yn ddigon gwydn i allu'i wrthsefyll a bu'r cynllun yn fethiant.

Chwiliwch am yr amryw o blanhigion arfoor a ddaw i'r amlwg yma, wedi addasu eu hunain i wrthsefyll drycinoedd y glannau ac i sugno as chadw lleithder cyn iddo diflannu i'r tywod.

Mae'r math o ddefnydd a wneir ohoni yn mynd i ddylan- wadu ar y math o insiwleiddio sydd ei angen i wrthsefyll yr oerni a thywydd garw.

Amhosibilrwydd ei wrthsefyll.

Ni fynnaf drafod yma odid ddim ar yr Oesau Canol a pharhad y math (neu'r mathau) o genedlaetholdeb a geid yno, am y rheswm syml fy mod o'r farn inni gael yn rhan o'n cynhysgaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg i lawr lun ar genedlaetholdeb diwylliadol 'newydd', cenedlaetholdeb ag iddo nodweddion anfediefal, cenedlaetholdeb yn y meddwl a'r dychymyg a oedd yn ymgais i wrthsefyll nerth y dylanwad allanol a oedd arnom.

Mae gêm pi-po fel'ma wastad yn mynd lawr yn dda gyda'r plant bychan o tua blwydd a hanner i fyny ac mae'r llyfrau clawr caled yma yn llawn digon cryf a chadarn i wrthsefyll bysedd bach yn tynnu i bob cyfeiriad.

Ei gyrru'n gynddeiriog a wnâi trwy rincian am ei wreiddiau a'i ddyletswydd o a hithau i wrthsefyll pobl ddwad yn mynnu eu hawliau a chodi eu lleisiau hyd yr arfordir.

Erbyn y ddogn olaf, y ddeuddegfed, byddai'r corff wedi ei addasu ei hun i wrthsefyll dogn gref.

Er mor gryf y bywyd Cymraeg hwn ni buasai, er pan ymgorfforwyd Cymru yn Lloegr, draddodiad balch o wrthsefyll y sefydliad Seisnig mewn unrhyw amlygiad ohono.

Dro ar ôl tro ni allai wrthsefyll greddf wanwynol i geisio blas dwr yr Elwy ar y glannau.

Y rheswm am hyn yw fod y GEM GANOL yn rhyw fath o Dir Neb lle yr ydych ar eich pen eich hun, yn gorfod defnyddio eich dyfeisgarwch a'ch talent eich hun i wrthsefyll ymosodiadau eich gwrthwynebydd.

Yn aml iawn fe fydd y prentis 'ymosodol' yn ei gael ei hun mewn sefyllfa lle mae wedi aberthu gormod, a'i fyddin bellach yn rhy wan i wrthsefyll gwrth-ymosodiad y gelyn pan ddaw.

Prynasid hi yn y ffair am na allasai ei phrynwr wrthsefyll apêl ei phen main gyda'r trwyn cau, a'i chroen tenau llac, a'i phwrs llydan cymesur.

Tydi sy'n gallu rhoi iddynt y grymuster moesol i wrthsefyll temtasiynau anfoesoldeb, trachwant a hunanoldeb.

Oherwydd dinistrio sylfaen bentrefol ein hiaith rhaid creu sylfaen newydd iddi; troedle a fedr wrthsefyll bygythiadau'r mewnlifiad cyson o Saeson i'r ardaloedd gwledig, a throedle a fedr gymathu nifer sylweddol ohonynt heb danseilio'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.

A pha laethwr ffyddiog a allasai wrthsefyll y fath ben a chroen a phwrs - holl deithi amlwg Seren?

Ceir deinamig cyson wrth i'r diwylliant dominyddol adgynhyrchu ei hun, ac i'r diwylliant sy'n is-raddol iddo ei wrthwynebu a'i wrthsefyll, gan ffrwyno'r datblygiadau posib.

Yn yr Almaen a Gwlad Pwyl heddiw defnyddir gwraidd betys a'r sudd ymron yn ddyddiol i hybu gallu'r corff i wrthsefyll afiechyd.