Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wrthwynebu

wrthwynebu

De Gaulle yn parhau i wrthwynebu cais Prydain i ymuno â'r Farchnad Gyffredin.

Hyd yn oed os yw'r syniad poblogaidd fod pedwar o bob pump o'r Cymry yn Anghydffurfwyr erbyn ail hanner y ganrif ddiwethaf yn gorsymleiddio'r sefyllfa, does dim amheuaeth nad oedd yna deimlad cryf ymysg y mwyafrif fod grym Eglwys Loegr yn rhywbeth y dylid ei wrthwynebu.

Ar ryw ystyr felly y mae ysgolheictod diweddar yn ailgydio (ond gyda llawer mwy o wybodaeth a manyldra hanesyddol) ym mhrif linellau dehongliad cychwynnydd yr ymchwil fodern am yr Iesu hanesyddol, sef Reimarus, gŵr o ddaliadau deistaidd yn y ddeunawfed ganrif a geisiai wrthwynebu'r Gristnogaeth draddodiadol.

Felly gallwch weld a deall pam y bu i amryw o ffermwyr wrthwynebu'r gwaharddiad.

Brwydr Cable Street yn Llundain pan fu i 100,000 o bobl wrthwynebu gorymdaith gan 7000 o gefnogwyr y ffasgydd Oswald Mosley.

Mae potash yn hybu iechyd a chryfder planhigion, yn fodd iddynt wrthwynebu heintiau, ac yn cadw lliw eu dail a'u blodau.

Bu'r Cwrdiaid eu hunain yn rhy ofnus i wrthwynebu'r cynllun yn agored oherwydd ei sefyllfa wan yn dilyn cipio Abdullah Öcelan a'i roi ar brawf. Hasankeyf

Rhag i neb allu edliw iddo, rhoddodd y Pwyllgor gyfle i'r rhieni wrthwynebu'r bwriad hwn.

Corff heb ddannedd, na fawr o ddylanwad, ond corff er hynny y byddai Mrs Thatcher wedi ei wrthwynebu'n ffyrnig petae hi yn arwain y tîm yng Nghytundeb Maastricht.

Steddwch!" O'i eistedd ceisiodd wrthwynebu ar dir arall.

Ac wedi iddi fynd i'r hwyl, dyma hi'n deud peth fel hyn: "Os y bydd rhywun yn trio'ch treisio chi, dydy o ddim yn beth doeth i wrthwynebu gormod." Wrth gwrs, mae cyfla yn beth mawr, chwadal nhwtha, ac mi sylwais ar y diwadd, pan oedd pawb yn ei holi hi, na ddarfu neb feddwl gofyn a oedd hi wedi cael y profiad ei hun.

Derbyniwyd llythyr gan Gangen Llandwrog yn gofyn i'r rhanbarth wrthwynebu datblygu Belan a thir cyfagos.

Ychydig a wyddai'r diniweitiaid oedd yn crwydro'r wlad ar gefn beic i gasglu enwau ar ddeiseb i wrthwynebu rhoi adeiladau gwersyll y Llynges ym Mhenychain i 'Byclins' ar ol y rhyfel fod cytundeb yn bod cyn eu codi erioed rhwng Billy, a barchusodd i Syr William, a'r 'admirality', mai eiddo Butlin fyddai Penychain ar ol y rhyfel.

Argyfwng y Gwlff - penderfynwyd anfon at y Prif Weinidog a Wyn Roberts, AS, i wrthwynebu'r rhyfel yn y Dwyrain Canol.

'R oedd gennym chwech wythnos i wrthwynebu yn ffurfiol.

Ceir deinamig cyson wrth i'r diwylliant dominyddol adgynhyrchu ei hun, ac i'r diwylliant sy'n is-raddol iddo ei wrthwynebu a'i wrthsefyll, gan ffrwyno'r datblygiadau posib.

A'r noson hon hefyd yr oedd rhyw wrthwynebu mewnol yn boen iddo.