Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wrthym

wrthym

Ar ambell brynhawn Sadwrn yn yr haf âi â ni am dro i fyny at y Marchlyn am bicnic, ac yno ar lan y llyn adroddai hanesion am arwyr Cymru Fu wrthym.

Ellis swyddog da byw y Sir, wrth drafod bridio a hwsmonaeth anifeiliaid, yn dweud wrthym am gofio bob amser mai dim ond y gorau sy'n ddigon da ni.

Ond ni ddywedodd ddim wrthym.

Esboniodd un gŵr wrthym dros ginio mai'r Iddewon oedd yn gyfrifol am gael gwared ohono o'i swydd.

Gwna i Bob ddiflannu'n sydyn o'r plwyf a dod yn ôl â Margaret yn wraig, ond ni ddywed wrthym ddim i esbonio beth a ddigwyddodd rhyngddynt.

Dywedwyd wrthym bod dur tramor yn tandorri'r farchnad.

Hoffwn pe bai John Roberts Wiliams wedi gallu dweud wrthym.

(Esboniwyd wrthym ar ol hynny nad oedd y gyfraith yn caniatau i unrhyw silff mewn siop fod yn hollol wag.) Mewn un cornel o'r ystafell safai dau giw hir o bobl yn ddistaw ac yn llonydd.

Erbyn inni ddychwelyd i'r fan y buasem yn holi ynghylch diogelwch y twnnel, yr oedd un o'r ffermwyr ieuainc, a ddywedasai wrthyf ei fod wedi prynu pedair erw a hanner o'r trac, yn trafod picwarch ryw ganllath oddi wrthym a gwaeddais arno'r cwestiwn pa ddefnydd y bwriadai ei wneud o'r llain hirgul a brynasai.

Gwyddwn eu bod yn cuddio pethau oddi wrthym ni, y plant, ond ni pheidias yn fy ymchwil i ddod at y ffeithiau, a rhaid i mi gyfaddef i mi gael cryn gymorth gan fy modryb, Bopa Jane, chwaer fy mam, a oedd yn ddibynadwy ei gwybodaeth ac yn ddiflewyn ar dafod yn ei datguddiadau o'r ffeithiau.

Fe ddywedwyd wrthym flwyddyn yn ôl y byddai'r Cynulliad yn 'aeddfedu i ddwieithrwydd' ond y gwrthwyneb sy'n wir.

Edrychai'n ddigon di-niwed, ond dywedwyd wrthym bod rhannau helaeth ohono wedi ei blannu â ffrwydron.

Mae'n debyg mai patrwm y tywydd yn ystod Mehefin a ddywed wrthym a ydym yn cael haf cynnar neu hwyr.

Yn yr un modd, y mae'r ffigurau am stociau, dyledwyr ac arian mewn llaw yn datgelu llawer wrthym am y busnes.

Rwy'n cofio'r sgwlyn yn dweud wrthym eu bod yn rhoi sgwaryn o bren am wddf plant a glywid yn siarad Cymraeg yn rhai o ysgolion newydd yr ardal ond welais i neb yn cael y gosb honno, beth bynnag oedd hi.

Mae Smwt wedi dweud cymaint a hynny wrthym." Gwrandawai pawb yn astud.

Ond, ar yr un pryd, y mae rhywbeth gwrthnysig yn y ffordd y mae'r awdurdodau yn Lloegr yn mynnu cuddio'r wybodaeth am bolisi%au'r blaid oddi wrthym.

Byth a hefyd mae rhyw Arbenigwr ar y teledu ar radio ac yn y papurau yn dweud wrthym fod rhyw bopeth neui gilydd yn iawn.

Dyna, felly, grynodeb o'n gwybodaeth am ffurf siliwm ac, wrth gwrs y cwestiwn pwysig bellach yw beth mae hyn oll yn ei ddweud wrthym am beirianwaith symudiad silia?

Pan ddychwelai Dafydd Dafis a minnau o'r fynwent, dychmygwn glywed fy hen feistr yn dweud wrthym, ``Thanciw, Rhys thanciw, Dafydd Dafis; gwnaethoch yn dda,'' a Dafydd a minnau megis yn cydateb, ``Yr hyn a ddylasem yn unig a wnaethom i ti''.

Mae nhw'n dweud wrthym ni nad yw'r adeiladau'n addas, neu y bydde ni'n gwneud i bobol eraill deimlo'n anghyfforddus."

Er mai'r set yw'r peth cyntaf a mwyaf hirhoedlog y byddwn yn ei weld o'r ddrama, a'r peth cyntaf sy'n 'dweud' dim wrthym cyn i'r un cymeriad agor ei geg, anaml y bydd yn cael fawr mwy o sylw na hynny.

Yna fe gododd brawd arall, ac fe lediodd emyn: 'Dewch hen a ieuanc, dewch/At lesu, mae'n llawn bryd./Rhyfedd amynedd Duw/ Ddisgwyliodd wrthym cyd.' Ac fe'i canwyd hi drosodd a throsodd a hynny gydag arddeliad mawr, a'r hen chwiorydd oedd yno yn canu dan siglo'u hunain, a'u dagrau'n rhedeg i lawr eu gruddiau.

Yr ymennydd sy'n dweud wrthym beth a welwn.

Am chwarter i chwech yn y bore cawsom orchymyn i godi, a dywedwyd wrthym y caem awr i grwydro'r dref.

"Mae nhw'n dweud wrthym ni nad yw'r adeiladau'n addas, neu na fyddai'n "dishgwl yn iawn" i ni fod yn rhywle, ac y bydde ni'n gwneud i bobol eraill deimlo'n anghyfforddus."

Hwnnw ydi'r arwydd sy'n dweud wrthym ni pa mor bell ydi hi i'r caffi.

A sawl gwaith yn y ffilm dywedir wrthym - rhag ofn na wnaethon ni ddeall y tro cyntaf - mai'r hyn a wnaeth y Siapaneaid wrth fomio Pearl Harbour oedd deffro cawr cwsg y byddai ei ddialedd yn awr yn erchyll.

Y mae yntau fel petai am ddweud rhywbeth wrthym am gyfrifoldeb pobl pob oes tuag at y dyfodol.

Dywed ef wrthym fod tad Waldo'n "ddyn arbennig iawn, yn ddyn o gymeriad cryf a dylanwadol.

Ond ar y llaw arall, ni chuddir oddi wrthym y nodweddion cymysg a oedd yn ei gymeriad.

Dywed hyn lawer wrthym: a ydyw'r incwm wedi cyrraedd y ffigur yr anelwyd ato?

Nid dim ond cyfle ydi cadair i actor eistedd i lawr, gan ddibynnu ar ba fath gadair ydi hi, mae hynny'n dweud rhywbeth wrthym am y cymeriad.

Roedd hi mor ffeind wrthym ni a doedd ganddom ni'r un ffordd arall o ddangos ein diolch, ac os oedd hi'n hoffi cael cosi ei choesau, wel, iawn i ni wneud hynny drosti.

Gall darluniau fel hyn ddweud llawer wrthym am ffasiynau gwragedd yn y cyfnod hwn ond ni allant ddweud wrthym sut roeddent yn meddwl nac yn teimlo.

Ddoe daeth Mrs Davies i'n gweld ni i sôn am drydan ac naeth hi ddod a Wilbi hefyd ac naeth hi ddeud wrthym ni i beidio a chwarae hefo barcud lle mae yna wifren ac os ydi'r ffrisbi wedi mynd ir is orsaf gofun wrth mam neu dad i ffonio Manweb i nôl o ac peidiwch chwarae pêl ar y lôn pan maer dynion yn trwsio gwifrau yn y lon.

Ond er bod y ffigurau amrwd yn werthfawr, nid ydynt yn dweud y stori'n llawn wrthym; y mae'n rhaid edrych yng nghyd-destun ffigurau perthnasol.

Mae model cymdeithasol anabledd yn dweud wrthym fod anabledd yn bod mewn amgylchedd sy'n creu rhwystrau i'r unigolyn.

Dywedwyd wrthym y byddem yn symud o fewn wythnos, a thybiem yn siwr mai cael ein symud i wersyll newydd yr oeddem i gael ein cosbi am yr hyn a ddigwyddodd yma.

Pan holasom pa nwyddau arbennig oedd ar werth esboniwyd wrthym nad oedd neb yn gwybod nes cyrraedd y cownter, ond fod hyd y ciw yn brawf pendant fod rhywbeth gwerth ei gael yno'r diwrnod hwnnw.

"Ond chwarae teg iddyn nhw, cadwent yn glos wrthym ni'n dau rhag ofn i rywun neu rywbeth ddod i'n rhwystro rhag mynd yn ein blaenau." "Ddaru chi lwyddo i gadw'n effro wedyn?" gofynnodd Louis.

Yn rhyfedd iawn ddywedodd neb arall yr un gair wrthym wrth inni ddod o'r Capel chwaith.

Dywedwyd y stori yma wrthym yn hollol ddifrifol a heb wên a'r unig chwerthin a fu rhyngom i gyd oedd wrth ddychmygu wynebau lladron y car wrth iddynt agor y babell a oedd wedi'i rholio ar do'r car.

Gwelais rai o gyfeillion Saunders Lewis ar fy nhaith, ac y maent yn disgwyl wrthym.

Mae'r delwedd ar eich retina hefyd ar ei phen i lawr, ond mae'r ymennydd yn dehongli hyn a gwybodaeth arall ar ein cyfer, ac yn dweud wrthym pa mor fawr yw pethau a pha mor bell i ffwrdd y maent.

Pob bendith dros yr žyl i chi fel teulu oddi wrthym i gyd yn Awelon.'

Mae'n bosib y byddai papurau newydd yn galaru am ei luniau ond prin oedd y cydymdeimlad yn y stafelloedd newid y diwrnod y dywedodd Steve wrthym fod ei dad wedi gyrru yn erbyn coeden.

Roedd hynny'n amlwg, hyd yn oed yn y ffordd filain y byddai hi'n ceisio ein brifo ni, yn ceisio achosi rhyw ymateb naturiol oddi wrthym ni i'r sefyllfa.

Trugarha wrthym a chymorth ni fel y dyrchafer enw Iesu yng Nghymru, er gogoniant i'th enw.