Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wsnos

wsnos

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

Mae 'na gymaint o betha' i mi gael eu gwneud nhw wsnos nesa.

Mi fuo am gyfnod cyn priodi â gwraig weddw ydi hi ar hyn o bryd, a 'dwyt ti'n synnu dim at hynny wedi byw o dan yr un gronglwyd â hi am wsnos - cyn priodi mi fuo'n gwasanaethu hefo rhyw nob a'i wraig - Syr Simon a Ledi Gysta chwedl hitha, ac mae'r rheini wedi troi yn 'i phen byth wedyn.

Mae'n rhaid 'mod i wedi gneud, achos pan glywodd y ddynas mai wedi dŵad yma ar 'y ngwylia' ro'n i, mi ddaru hi roi pisyn tair yn bresant i mi, i mi gael ei wario fo yn ystod yr wsnos.

Os bydd hi acw wsnos eto mi fydd raid i mi'i phlygu i fyny.

Fel y gwyddost ti, mae 'na bapur arall yn y dre' 'ma, ond maen nhw wedi methu dwad â fo allan wsnos yma - pibell wedi byrstio yno a'r dwr wedi difetha'u papur nhw.

Mae hi'n byw'n ddigon pell oddi acw?" "Mae hi acw'n aros hefo ni ers wsnos, was i." "Cwmpeini diddan i chi'r nosweithiau hirion yma," sylwais yn ddifeddwl.

A merched o ran hynny.' 'Roedd y Parchedig Rees Harris yn dweud wrthon ni, wsnos yn ôl, ma' nid â phapur ac inc y ma'r Duw byw yn sgwennu ond ar lechau cnawdol y galon.' 'Indeed.' Un o gasbethau'r Parchedig John Jones oedd gwrando ar blwyfolyn fel Obadeia Gruffudd yn dysgu pader i Berson.

'Rydw i'n hannar llwgu ers wsnos yn y fan acw - gorfod byta fel bydawn i'n byta uwd hefo myniawyd." "Helpa dy hun." "Mae hi wedi suro'r 'Dolig i mi, was i," ebr efô, ar ôl bwyta'n awchus am ysbaid.

Ddarllenais i o yn rywle wsnos dwytha -- a dwi'n dyfynnu i'w gael o'n gywir -- taw swyddogaeth Cymdeithas yr Iaith ydi 'chwalu'r drefn bresennol.' Nid dyna swyddogaeth Deddf yr Iaith Gymraeg na chorff cyfrifol fel Bwrdd yr Iaith.

A thra byddi di yn Llechfaen dros ddiwedd yr wsnos, cadw dy glustia a'th lygaid yn agored.

Ma' gin Anti Nel ei strydoedd - rhai fydd hi'n mynd iddyn nhw bob wsnos - ac mae'n rhaid bod y bobol yn disgwl amdani hi, achos gynta roedd hi'n dechra' gweiddi, "Picl, picl, pennog, pennog picl," mi oedd plant a phobol yn rhedag allan o'u drysa', a dysgla' yn 'u llaw, i brynu rhai.