Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wyau

wyau

Ond nid yw popeth yn farw, fe heidia'r adar i'w brigau i chwilio am yr wyau a ddodwywyd gan y trychfilod a fu'n byw yno yn ystod misoedd yr haf.

Edwina Currie yn gorfod ymddiswyddo wedi iddi ddweud fod y rhan fwyaf o wyau wedi eu heffeithio gan salmonella.

Ond i fyny'r afon i'r dyfroedd oerion y daw'r eog a'r brithyll a chladdu eu wyau yn y graean.

Ac mae'r wyau toredig a pherfedd ceiliogod yn siarad rhwng y meini ac o dan y cromlechi am genedlaethau diflanedig sydd yno o hyd yn llygaid ac yn llafar y Casiaid.

Drewllyd braidd ydi'r llosgfynydd hefyd gyda labordy cemeg a wyau drwg dod i'r cof yn syth.

Diolch hefyd i'r Cyngor Cymuned am eu rhodd anrhydeddus fydd yn galluogi'r pwyllgor i rannu 'wyau Pasg' eleni eto.

Yr iâr yn unig sy'n eistedd ar yr wyau gan fod ei lliw brown tywyll yn ei galluogi i ymdoddi'n rhwydd i'r cefndir grugog, ond byddai'r ceiliog, gyda'i blu llwyd yn sicr o dynnu sylw at safle'r nyth.

Felly dydi hi ddim yn syndod o gwbwl fod y mwafrif o'r baeddod yn byw ar ynys Morko oherwydd y ffaith syml fod yma goedwigoedd yn llawn o goed derw sy'n rhoi digonedd o fes i'r baeddod, ond hefyd fod yr arfordir yn lle da i'r anifeiliaid hyn ddod o hyd i bryd o fwyd ymysg yr hesg yno a hefyd wrth ddwyn wyau adar gwylltion sy'n nythu yn llu wrth ochr y mor.

Naturiol iddyn nhw yw ymgynghori â'r dyn hysbys pan fydd hwnnw, mewn defod sy'n gymhleth gan gof y llwyth, yn torri wyau er mwyn dadlennu'r dyfodol.

Daeth nifer o aelodau cwmni teledu Yiyang draw yma a gofyn imi hysbysebu wyau.

Ond nid dyma sy'n digwydd wrth i wyau gael eu twymo.

Un swllt ar ddeg a chwecheiniog yr wythnos, os cofiaf yn iawn, a dalai fy nhad am lety i mi a gofalai yntau wedyn anfon bagiad o datws a swej ac wyau a chig moch i'r hen wraig o dro i dro.

Tyfodd yma yn y dyfroedd croyw wedi i'w rieni ei gladdu yn un o filoedd o wyau yn y gro.

Bridio a Mudo Mae ceiliogod y pincod yn rhai craff iawn, neu mae'r iâr braidd yn gysetlyd gan mai hi sydd yn adeiladu'r nyth ac yn deor yr wyau.

Deud wrtho fo am fynd yn ôl i'w nyth yn y gogledd lle mae wyau'r glaw yn deor fel ffynhonnau gwynion, tydan ni ddim isio'i fath o ffordd hyn.

Mae wyau yn hylif ar dymheredd arferol ac wrth ichwi eu twymo trwy eu berwi neu eu ffrio maent yn troi yn solid.

Ac yn yr Unol Daleithiau defnyddir betys mewn pob math o gyfuniadau: betys efo oren, betys efo afal, betys ar dôst efo pennog ac wyau wedi eu berwi'n galed; betys mewn iogurt efo cennin syfi, sinamon a nytmeg - i enwi dim ond rhai.

dyna a wna--drwy werthu wyau.

Safai'r wyau ar ben ei gilydd yn y pedyll, wyau gwyn ac wyau melyn ac wyau mawr gwynlas yr hwyaid.

Dechreuodd Jini ddarllen, 'Cymerwch: Chwe owns o hylif o lys brogaid, Hanner pwys o afu tramp, Dau ddwsin o hadau dannedd ieir, Dwsin o wyau clwc, Tri phwys o eira llynedd, Hanner pwys o gaws o fola ci...'