Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wyddoniaeth

wyddoniaeth

Mae'n teimlo ei fod yn dueddiad cyffredinol ym maes gwyddoniaeth: "Dydi'r diwylliant Cymraeg ddim yn ymwybodol o wyddoniaeth rhywsut.

A chynnyrch ei ddylanwad ef oedd preifateiddio ffydd grefyddol a'i hysgaru oddi wrth wyddoniaeth.

Yn ddiweddar canfuwyd dull o hunan-ddysgu a gafodd ei sbarduno gan syniadau o feysydd geneteg a bioleg esblygiad - y wyddoniaeth sy'n sail i'r syniadau am y dyfodol a geir yn y ffilm Jurassic Park.

Y pendilio rhwng y ddau begwn - Natur a Phersonoliaeth - sy'n esbonio'r cyfnewidiadau yn ymagwedd y cyhoedd at wyddoniaeth a gwyddonwyr.

Treuliais sawl min nos yn 'Y Wern', ei gartref, ac yn ddieithriad trafod rhyw wedd neu'i gilydd ar wyddoniaeth, yn arbennig ffiseg ac astroffiseg, a wnaem.

A phan weli'n dda ganiatâu i'r stormydd ein taro ac i'r gwyntoedd ruo o'n cwmpas, fe'n gorfodir i sylweddoli pa mor wan yw nerthoedd dyn er ei holl wyddoniaeth a pha mor frau yw ein bywyd ninnau.

Daeth y Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth i Gaerdydd i ddathlu Wythnos Wyddoniaeth eleni, ac, yn awyddus i roi'r pwnc o fewn cyrraedd pawb, dangosodd BBC Cymru Mad on Science, a gynhyrchwyd gan Cambrensis, a sicrhaodd brwdfrydedd heintus y cyflwynydd Gareth Jones gynulleidfa fawr i bwnc difrifol.

Mae hyn yn mynd a ni ymhell iawn oddi wrth y wyddoniaeth bendant, sicr a di-newid mae'r lleygwr a'r bachgen ysgol mor aml yn ei amgyffred.

Nodir y byddai lle ar dudalennau "TIR NEWYDD" i bob agwedd ar waith yr artist, a mynegiant llawn o'r diwylliant modern gan gynnwys y wyddoniaeth sydd fwyfwy beunydd yn ffurfio sail nid yn unig bywyd cyffredin ein gwareiddiad heddiw ond ein bywyd esthetig

Dywedir iddo gael ei addysgu'n breifat ac nid oes son iddo fod mewn prifysgol, ond y mae ehangder ei ddiddordebau'n ei osod yn enghraifft nodweddiadol o ddiwylliant gwyddonol yr ail ganrif ar bymtheg, oblegid yr oedd yn hanesyddol, yn archaeolegydd ac yn ieithegydd a ymddiddorai'n fyw iawn mewn dacareg ac amaethyddiaeth ac a wyddai gryn dipyn am wyddoniaeth ddiweddaraf ei ddydd.