Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wynt

wynt

Fe ddaeth gwth o wynt nerthol o rywle ac aeth yr awyr yn dywyll.

Toc byddai'n dod a'i wynt yn ei ddwrn a golwg wyllt arno.

Ac os ydi hi'n cau gwrando mi sleifia'i drwodd i'r cefn pan ga'i chefn hi a dy adael di mewn felly ac mi geith hi weld wedyn na tydan ni ddim yn wynt ac yn law drwg drwg go iawn.

O bryd i'w gilydd ymgollai Ger gymaint yn y gêm fel bod ei ddreifio'n flêr a diofal (a dim anadlydd i brofi ei wynt y dyddiau hynny.) Chwarddai am ei phen wrth ei gweld yn gafael mor dynn yn ei sêt.

Ond mae'r pleidleiswyr yn yr Almaen ac yn Awstria yn pryderu am weithlu dwyrain Ewrop, ac aros am ail wynt y mae'r broses ehangu bellach.

Er hynny, diddorol dros ben oedd bod mor agos at yr ugain melin wynt a godwyd ar y mynydd i gynhyrchu trydan.

Tra oedd eu mam yn dweud wrth Iona am fynd i eistedd at y ffenestr ac yn gwneud i Rolant agor y ffenestr er mwyn iddi gael mwy o wynt, edrychodd y pump ar ei gilydd.

Agorodd y drws yn araf rhag iddo wneud sŵn gwichian ac ymadawodd, gan adael chwa o wynt iasol i mewn ar yr un pryd.

I gael ei wynt ato fel petai, penderfynodd fynd am gwpanaid i'r lle bwyta yno.

Mae'n werth bwrw golwg tros y pethau a fyddai'n pwyso ar wynt yr Ysgrifennydd newydd yn y blynyddoedd nesaf.

Un noson cariodd Mr Hughes lawer o hwyliau a daeth y Capten i fyny a dweud wrtho am dynnu hwyliau oddi ar y llong, ac o dan ei wynt yn mwmian, "Dam, you know nothing, fear nothing".

Ond roedd y dŵr yn taro yn ei erbyn yn gryf wrth iddo gael ei dynnu trwy'r lli, a chollodd ei wynt yn fuan.

Mae gwynt y Dwyrain þ hen wynt go iawn þ yn deifio pawb a phopeth a dechreuodd fwrw eira'n drwm ganol y bore ac mae wrthi o hyd.

Roedd tipyn mwy o le i bawb gael ei wynt wedyn.

Pan syrthiasant i'r ddaear fe'u gorchuddiwyd, cyn iddynt fedru pydru, codwyd y tir gan ymchwydd daearegol, ac wedi miliynau o flynyddoedd o wynt a glaw, daeth y coed i'r golwg.

Agor y fferm wynt gyntaf ym Mae Ceredigion.

Erbyn iddi gyrraedd yn ôl roedd wedi codi'n wynt a'r môr yn donnau brawychus.

Math o gobannau ychwanegol ydi'r gwisgoedd hyn oherwydd bod cymaint o wynt a glaw yn chwythu rhwng y cerrig mawrion.

Neu eu hanfon ar hyd a lled y ddaear ar ryw dasg megis cyrchu llond rhidyll o Wynt y Dwyrain, neu ddrych sy'n dweud celwydd.

Fe'i cynheswyd fymryn wrth gofio am y dyddiau ysgol rheini pan fyddai Gwyn yn rhuthro am adra a'i wynt yn ei ddwrn a'i ben yn llawn syniadau.

Roedd PC Llong yn cael trafferth cael ei wynt ato ac ni allai godi gan fod sodlau uchel Nel yn hoelio'i glustiau tywysogaidd i'r pafin.

Ond byddai John Evans yn tramwyo'r maes mor ddisylw â chwa o wynt, gan droi cþys yn erbyn cþys reolaidd, a rhywbeth didoledig yn ei ystum fel fel pe na allai gadw ei freudwydioon yn yr un cae ag ef ei hun.

Ar un gwastad mae fel petai (a rhagofal yw'r 'petai' hwn) ef yn dweud fod yr hyn a fu rhyngddo ef a'r ferch - y chwerthin, y tristau a'r tewi, y distawrwydd, yr 'awel wynt', 'cnawd dy law' - fod hyn i gyd yn parhau i fod yn y man lle buont ar ryw fis Medi flynyddoedd lawer yn ol.

Yn Llys y Goron, Caer-wynt, ddydd Llun diwethaf, cosbwyd Dr Brian Cox â blwyddyn o garchar wedi ei gohirio am fwrdro gwraig trwy roi iddi chwistrelliad marwol o botasiwm chloride.

Pa faint haws fyddai o a chael llond bws o Gymry tebyg iddo fo ei hun ar ei wynt?

Yn wynt ac yn goch i gyd ymddangosodd rhes o redwyr chwyslyd a oedd yn amlwg wedi bod yn ymlid râs hir iawn.

Fferm wynt fwyaf Ewrop yn agor yng Ngharno, Powys.

Cafodd ail wynt wedi bod gyda'r sipsi, serch hynny.

cafodd williams gryn drafferth i ddeall stori 'r bechgyn gan mor fyr o wynt oeddynt, ond synhwyrai fod rhywbeth mawr wedi digwydd, ac yn raddol sylweddolodd fod ganddo, o bosibl, drychineb ar ei ddwylo ddwylo pwy ydi 'r ffred 'ma?

Chwefror heb wynt a barrug - blwyddyn lawog heb fawr o ffrwythau.

Mi fu bron iddo â cholli'r het unwaith medda fo--'Roeddwn i newydd ddechra' pysgota ar lan y llyn pan ddoth 'na bwff reit sydyn o wynt a'i chwythu i'r dwr.

Llong a hwnnw yn ei eistedd ar ochr y palmant yn ceisio cael ei wynt ato.

Nis oeddwn i symud yr un llyfr oddi yno, meddai â'i wynt yn ei ddwrn.

Ni allai yn ei byw fod yn clywed ei sŵn, i'w tharfu; ni ddeuai chwythiad o wynt o gyfeiriad y bar i ddeffro'r cychod o'u trwmgwsg.

Aeth y fam i nôl y lamp i ddal golau iddynt, ond daeth ebwch o wynt a gyrru tafod o fflam i fyny'r gwydr.

Wedi cael ei het, aeth allan am wynt.