Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wyro

wyro

"Mae o'n rhy isel!" gwaeddodd rhywun gan wyro'i ben wrth i Douglas ruthro tuag atyn nhw.

Mae hi'n anos i'r corff ymddangos yn iau, fodd bynnag, ac yn yr Act Gyntaf, mae cyhyrau a phwysau cyrff yn anochel yn hŷn na'r arddegau - trafferth teledu eto yw ei fod yn gyfrwng mor naturiolaidd, fel rheol, fel bod unrhyw wyro i ffwrdd oddi wrth y cwbl realistig yn annerbyniol tra bod llwyfan yn barod i gyflwyno gwahanieth fel rhan o her actio.

Yn anffodus nid yw dy waedd yn atal y fwyell rhag disgyn, ond yr oedd yn ddigon i wyro ergyd y cigydd.

Gwnaeth y pwysau ychwanegol i'r llong wyro i un ochr a throi drosodd.

Y mae hi'n angenrheidiol felly, i bob cynllun iaith fynd i'r afael â'r her o sefydlu peuoedd newydd i'r Gymraeg gyda'r un amod sylfaenol hwn yn aros yn gwbl ddi-wyro, sef mai Cymraeg yw unig iaith y man cyfarfod a'r gweithgareddau a drefnir.

"Paid ti â chymryd sylw ohonyn nhw," meddai'r dyn wrth wyro i roi mwythau i ben Rex, "mi rydw i'n gymaint o ffrindiau hefo ti â'r ddau arall." Llyfodd Rex ei law a sboncio ymlaen i'r nos ar ôl y ddau gi arall.