Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wythiennau

wythiennau

Gwyrdd plaen unlliw yw eu lindys hwy, yr unlliw ynhollol â'r dail a'u cynhaliant ac yn hoff o swatio ar brif wythiennau'r dail ac yn y cnewyllyn gan wledda ar y dail ifanc iraidd sydd yn y fan honno a difetha'r blagur tyfu (growing point) hefyd a thrwy hynny rwystro cynnydd y planhigyn.

Pe medrai, mynnai adfer poethder yr hen hafau i'w wythiennau brau.

Mi 'roedd nhad yn gwylltio'n gacwn, am ychydig eiliadau, a wedyn fel bo cyffur hiwmor yn treiddio mewn i'w wythiennau a'i holl gorff a'i feddwl yn cael ei ddylanwadu, mi fydda fo'n mynd yn fud ac fel fyddech yn gweld, bron yn clywed, olwynion ei ymennydd yn troi ffwl sbid i geisio cynhyrchu llinell ddoniol i ddod allan o'r gwylltineb.

A 'doedd ryfedd yn y byd i wefr o falchder redeg trwy wythiennau hogyn bach deg oed pan glywodd o fod ei frawd mawr am wneud berfa iddo fo.

Mae'n rhy boeth yma i ddyn â gwaed yn ei wythiennau." Sefais a thynnais fy ngh^ot oddiamdanaf a thynnais fy hances boced allan a sychais fy wyneb a'm gwddf a chefn fy ngarddyrnau.