Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wythnosau

wythnosau

Trefnir cyfres o gyfarfodydd grwp dros yr wythnosau nesaf yn y Gogledd a'r De, felly os oes gen ti ddiddordeb, cysyllta ag un o swyddogion y grwp neu â'r swyddfa yn Aberystwyth.

Fe gawn ni'r ateb i'r ddau gwestiwn yna o fewn yr wythnosau nesa.

Fe fyddai ambell i wraig yn ymddangos yn sydyn yn y ganolfan fwydo i famau heb ei phlant a honni eu bod wedi marw dros nos, er bod y babanod wedi bod yn derbyn bwyd ers rhai wythnosau.

Yn yr wythnosau cyntaf roedd problemau yr iaith, diffyg cartref iawn, diffyg ystafell yn VIC

Roedd pethau llawer pwysicach i'w gwneud yn ystod yr wythnosau yn arwain at y Nadolig na siarad â hen ddyn unig.

Rwy'n cofio dadl ar gynghanedd yn yr Herlald, rhwng Cymedrolwr a Llwyrymwrthodwr yn ymestyn tros wythnosau.

Fel pob gwraig yr oeddwn wedi darparu dillad i'r babi wythnosau cyn ei eni ac yr oeddwn wedi gwneud coban o sidan gwyn addurniedig.

Rhyw ddyrnaid o'r ffrindiau pennaf a wyddai mai ef hefyd oedd perchennog yr unig gwmni Polion Galwp yn y wlad, a'r wythnosau twrnament oedd ei dymor gorau ar wahan i amser etholiadau.

'Bu (ei fam) agos allan o'i phwyll am lawer o wythnosau, gan godi bob awr o'r nos wedi claddu ei gŵr a'i dau fab, ac agor y ffenestr gan rhyw led-ddisgwyl eu gweled (ei gŵr a'i dau fab) yn dyfod adref o'r gwaith.

Mae'n anodd i ni, sy'n hedfan i Awstralia mewn mater o oriau, ddychmygu'r fath brofiad; wythnosau lawer wedi eu carcharu o fewn terfynau llong gymharol fechan, heb gysylltiad o gwbl a gweddill y ddynoliaeth.

Gan fod safon byw pawb yn is, ac yng nghyfnod y rhyfel gan fod dogni ar fwyd, roedd y te parti yn ddydd i edrych ymlaen ato am wythnosau.

Ychydig cyn i mi gyrraedd methodd disgyblion y wlad yng nghyffiniau pentref cyfagos Dolafon â mynd i'r ysgol am wythnosau oherwydd na allai'r bysus eu cyrraedd.

Diwrnod mawr i ni pan oeddem yn yr ysgol oedd diwrnod te parti Plas Gwyn (ni allaf gofio y flwyddyn), ond yr arfer oedd te parti yn y pnawn a "concert" gyda'r nos, a byddai wythnosau o baratoi, canu ac adrodd a "drillio%, ac roedd meibion y sgweiar a rhai o'r gweision a'r morynion yn cymryd rhan yn y "concert" mawr yma.

Yn ail, cynhaliwyd Gwyl Ddrama CYD yn Nolgellau, enghraifft wych o weithgaredd lle bu ymarfer ar y cyd rhwng Cymry Cymraeg a Dysgwyr dros gyfnod o wythnosau.

Cyhoeddwyd dau eiriadur dros yr wythnosau diwethaf.

'Ildiwch' ydi gair mawr yr wythnosau hyn.

Dyna'r adeg y byddai wedi mynd i'r môr ar un o'r llongau gwyliau oedd yn morio am rai wythnosau ar hyd a lled y byd.

Dros yr wythnosau diwethaf bul fy ffrind CySill yn hen gyfaill digon cywir.

Flynyddoedd yn ol, wrth aros yn Aberystwyth am wythnosau o ymchwil yn ystod yr haf, deuthum i adnabod Parry-Williams yn bur dda.

Mi fydd yna adolygiad o'r cd yn y golofn hon yn ystod yr wythnosau i ddod.

Pan oeddwn yng Nghymru ychydig wythnosau yn ôl, gofynnwyd i mi a fyddwn yn fodlon sgrifennu am fy argraffiadau o fywyd yn yr Almaen heddiw.

Dyma'r hirlwm, y cyfnod pan oedd bwyd i ddyn ac anifail wedi prinhau ac wythnosau i fynd cyn bo cynnyrch cyntaf y gwanwyn ar gael.

Dros yr wythnosau nesaf mi fydd Epitaff yn perfformio mewn nifer o leoedd yng Nghymru.

Gosodwch dargedau bach i chi eich hun ar gyfer yr wythnosau nesaf er mwyn i chi gael hawlio gwobr bob hyn a hyn.

Am rai wythnosau bu Fred yn gyrru'r fen o gwmpas y dref, weithiau yng nghwmni Ali ac weithiau yng nghwmni Mary.

Gwnaed y cyhoeddiad heddiw (dydd Mercher 29 Medi) y byddai yna rai rhaglenni Cymraeg ar S4C o Gwpan Rygbi'r Byd, a hynny yn dilyn trafodaethau manwl yn ystod yr wythnosau diwetha'.

Bydd hynny rai wythnosau'n gynt na'r disgwyl.

Y mae tuedd ynom ni'r cyfreithwyr i ddefnyddio'r Saesneg ar bob achlysur posibl: wele Gyngor Tref Pwllheli, rai wythnosau'n ôl, yn cystwyo dau gwmni o gyfreithwyr o dref nid nepell (a'r partneriaid yn y ddau gwmni yn Gymry Cymraeg þ un o'u plith yn Brifardd Coronog!) am iddynt anfon llythyrau uniaith Saesneg at y Cyngor Cymraeg hwnnw.

Yn y diwedd r'on i wedi datod y cwbl, a sylweddoli wrth dynnu'r peth oddi wrth ei gilydd mai hen ddoli glwt r'on i wedi ei cholli rhai wythnosau cyn y Nadolig oedd hi.

Mi weles i aberthu un o'r ceiliogod hynny mewn cae y tu ôl i dyddyn rhwng Cherra a mawphlang a chlywed disgrifiad o siâp yr wythnosau i ddod.

Yr uchafbwynt i mi, mae'n debyg, oedd y cyfnod rai wythnosau ar ôl y rhyfel pan gefais groesi Twrci i Ogledd Irac i ddilyn tynged y Cwrdiaid.

Hyd yn oed pan oedd ganddi dair merch, Kate, Pam a Polly, gadawai ef y cartref am wythnosau meithion o dro i dro gan daflu'r holl ofalon ar ysgwyddau Pamela.

Profodd amaethyddiaeth ergyd sylweddol i'r adran da byw yn yr wythnosau diwethaf.

Gellir tanysgrifio trwy gyfrwng y safle yma hefyd, neu fel arall holwch yn eich siop recordiau leol – mae ambell i gopi yn cael ei ddosbarthu rai wythnosau wedi i'r tanysgrifwyr dderbyn CD yn y post.

Dyma'r bore y bu'n ei ofni ers wythnosau.

Byddai yn arfer mynd i lan y mor i Madryn am rai wythnosau yn yr haf.

Yn ychwanegol at hynny câi ei thalu am ei gwaith fel howsgipar yn Nhyddyn Bach, ond yr oedd ar Siôn Elias rai wythnosau o gyflog iddi.

Hefyd, bydd yn gwneud sesiwn i Gang Bangor yn ystod yr wythnosau nesa.

Ymddangosai fel pe byddain mynd allan o'i ffordd yr wythnosau cyn y gêm i danseilio hyder Arwel Thomas gan dynnun llwyr y tir oddi tan ei draed trwy gychwyn y gêm hebddo ddydd Sul.

Balch hefyd oedd deal fod Len (Williams) gartref ar ol rhai wythnosau o driniaethau yn Lerpwl.

Mae ganddo dipyn i'w wneud am rai wythnosau ynglŷn â gwerthu'r tŷ yn Lerpwl; yna mae'n dod yma i aros tra bydd yn chwilio am rywle ar y Glannau.

COLLEDION: Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu farw chwech o drigolion yr ardal.

Yr oedd Waldo wedi bod yn gofalu am ei fam yn ystod wythnosau I hir ei salwch olaf.

Aeth wythnosau lawer heibio a minnau heb wella fawr.

Cerddai ar hyd math o gulffordd wastad, ddinodwedd, o wlad gynefin ei lencyndod a phrofedigaethau'r wythnosau diwethaf tuag at diriogaeth ddynol a oedd bron tu hwnt i'w ddirnadaeth a'i ddychymyg.

Cyn diwedd y flwyddyn roedd Siwsan, wedi rhai wythnosau o wyliau ym Mhorthmadog, a rhywfaint o addysg Gymraeg i Adam a Natalie, wedi dychwelyd i Fethlehem.

A dydw i'n dda i ddim am bapuro - rhaid i ti neud hynny.' Ac felly y cytunwyd yn y diwedd wedi rhai wythnosau o oedi.

Rai wythnosau'n ddiweddarach dyma Jim yn taro ei big i mewn i siop y pentre, a honno'n orlawn ar y pryd.

Hoffem gael cadarnhad hefyd y bydd yr arolwg ar yr iaith Gymraeg yr oedd y Pwyllgor Addysg dros 16 wedi cytuno arno rai wythnosau yn ôl yn mynd rhagddo yn mis Ebrill.

Diolchodd Mrs Jane Jones i bawb am eu cyd-weithrediad yn ystod Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon ac yn ystod yr wythnosau y bu'r Pwyllgor Celf a Chrefft yn paratoi'r arddangosfa.

Roedd cyrff yn frith ar fin y ffordd o'r maes awyr i bencadlys Cronfa Achub y Plant, a oedd wedi cynnig llawr i ni am yr wythnosau nesa'.

Gwn y byddaf yn aros gydag un gyfrol am wythnosau i ddod.

Ac fe gyhoeddwyd llythyr Vincent o fewn ychydig wythnosau i'r Eisteddfod yn y Royal Albert Hall lle llwyfannodd y Cymry eu teyrngarwch diarhebol gerbron Tywysog Cymru a'i deulu, lle cadeiriwyd Berw am awdl i Victoria a lifeiriai o edmygedd a diolch, lle bu Henry Richard AS, a 'savants' cyfarfodydd y Cymmrodorion, yn sicrhau pawb o fewn clyw na châi'r Gymraeg atal llanw'r Saesneg.

Bu Les Powell farw tra roedd y ddau ar eu gwyliau yn y Taleithiau Unedig rai wythnosau yn ôl.

Credir ei fod wedi torri ei fraich ac y bydd allan am rai wythnosau.

Am wythnosau bu Rhian yn ddrwg ei hwyl o ganlyniad i'r pwysau arni.

Am wythnosau, mi gawsom ni un storm ar ôl y llall.

Bydd lleoliad August i gyd yn Llŷn gyda First Knights ym Meirionnydd am ychydig wythnosau, a'r gweddill wedi ei fflilmio yn stiwdios Pinewood yn Llundain.

Bydd y cd i'w chlywed ar Gang Bangor yn ystod yr wythnosau nesa ma a chofiwch hefyd fod ep newydd Doli yn y siopau.

I glirio'r ddyled, bydd rhaid i Rhys wenud heb y swm yma am gant ac ugain o wythnosau.

Yn ystod yr wythnosau nesa', mi gawn weld a ydi gwleidyddiaeth Gymreig yn dechrau ar gyfnod mwy cwerylgar a checrus nag erioed o'r blaen.

Os nad ydych chi, mae'n well i chi frysio oherwydd ymhen rhai wythnosau mi all fod yn rhy hwyr - yn enwedig ar gyfer gwyliau tramor.

Llif dŵr daear, sef dŵr yn symud drwy'r graig, yw'r ffordd arafaf i ddŵr symud - gall gymryd diwrnodau neu hyd yn oed wythnosau i gyrraedd yr afon.

Ers rhai wythnosau mae'r hen blasdy yn cael ei defnyddio i ffilmio cyfres wedi ei seilio ar nofel Y Wisg Sidan gan Elena Puw Morgan.

Dringodd nifer o'r morwyr i lawr atynt, penderfynodd y capten ac Ibn eu bod hwythau hefyd ag awydd rhoi troed ar dir sych wedi wythnosau ar fwrdd drewllyd y llong a blas yr heli ar bob dim: 'Lle ydan ni?' Ibn ofynnodd y cwestiwn wrth wylio'r lan yn nesa/ u: 'Tuscani.' Atebodd un o'r morwyr cyn ychwanegu: 'Dwi'n meddwl.' Ond doedd Ibn ddim callach.

Wedi i'r grwp gael hyfforddiant arbenigol dros yr wythnosau nesaf, mi fydd y gwasanaeth e-bost ar gael erbyn dechrau'r haf.

Yn ogystal â'r ddesg gymysgu arbennig sydd ar gael yn barod, sy'n eich galluogi i gymysgu a chreu eich jingls eich hunain, bydd cyfle hefyd yn ystod yr wythnosau nesaf i chi ddefnyddio'r meddalwedd diweddaraf un.

Yn ystod yr wythnosau cyn y cyfarfod blynyddol roedd y siarad ar y stryd, ac yn enwedig ymysg y rheini sy'n trafod materion fel hyn, nid yn trafod pwv oedd yn mynd i gvmrYd trosodd gan John Major na phwy oedd i olynu John Smith, ond pwy oedd yn mynd i fod yn Is Gadeirydd y Cyngor eleni ac i lynd i'r Gadair y flwyddyn nesaf.

Oherwydd yr oedi anochel mewn casglu a chrynhoi ystadegau, gall wythnosau onid misoedd fynd heibio cyn i'r llywodraeth sylweddoli bod pethau'n dechrau mynd o chwith, a bod angen iddi ymyrryd â chwrs yr economi.

Beth i'w ddisgwyl yn ystod yr wythnosau nesaf...

Datgelwyd yr wythnos hon y bydd dwyy ffilm gwerth miliynau lawer yr un, yn cael ei gwneud ym Mhen Llŷn a Meirionnydd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dyna lle bu system Freud yn gymaint o bandy ac o sgwrfa didrugaredd i'm delfrydau brau Pa ryfedd nad oedd dim o'm carpiau ar ôl wedyn ond ambell gydyn o ridens cyfroda na fyddai fyth mwy yn dda i ddim?) Roedd blwyddyn goleg newydd yn dechrau ym mhen ychydig iawn o wythnosau ar ôl y Cyfarfod Misol hwnnw A'r peth cyntaf bron a wnes wedi cyrraedd Aberystwyth oedd mynd â'm "hymddiswyddiad" (maddeuer y gair ymddiswyddiad!) i Brifathro Coleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd.

Rwyn siwr y gwnaiff fy nghyfeillion yn yr Alban faddau imi am wenu wrth ddarllen am y llanast canlyniadau arholiad a fu yno yr wythnosau diwethaf.

Ond anghofia i fyth y gofid ro'n i'n ei deimlo wrth ei gwylio yn gadael y ty bob bore yr wythnosau cyntaf hynny.

mae'r grwp o Fôn yn ailgchwyn ei yrfa gerddorol ac i gydfynd a hynny yn rhyddhau cd yn ystod yr wythnosau nesaf.

i rai o'r plant hyn, ni fydd y lloches yn fwy nag egwyl fer o ychydig wythnosau.

Yr oedd y Tywysog Charles yn mynychu yr ysgol go arbennig hon ar gyfer cael ei droi o fod yn llanc i fod yn ddyn - os nad dros nos yna, yn sicr, dros gyfnod o wythnosau.

Roedd wedi edrych ymlaen ers wythnosau at y daith y byddai'n ei gwneud heddiw - taith a fyddai'n ei dwyn bob cam i'r ddinas fawr lle'r oedd yn mynd i dreulio wythnos gron gyfan yng nghwmni ei chyfnither, Llygoden Fach y Ddinas.

E ap G Mae eu teithiau'n llawer hirach- fisoedd efallai, â'n teithiau ni'n wythnosau.

Bydd capten tîm rygbi Cymru allan o'r gêm am fisoedd yn hytrach nag wythnosau.

Dyma un o wythnosau goraur flwyddyn i Gapricorniaid.

Cynefindra a dieithrwch - dyna begynnau'r profiad o dreulio ychydig wythnosau yn y bryniau sy'n gorwedd i'r de o afon Brahmaputra yn Assam ac i'r gogledd o wastadeddau dyfrllyd Bangladesh.