Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wythwr

wythwr

Mae wythwr Pontypridd, Dale McIntosh, wedi torri ei fraich a nid yw'n debyg o chwarae eto y tymor hwn.

Fe groesodd y crysau gwynion linell Cross Keys wyth o weithiau gyda'r wythwr Lee Jones yn sgori ddwywaith.

Daeth y cais cyntaf o'r chwech pan gafodd Castell Nedd sgrym bump ar ôl i Luc Evans ddal cic letraws Steve Bowling, ac er syndod i bawb, gwthiwyd wyth Llanelli dros eu llinell a chwympodd Gareth Llywelyn, yr wythwr, ar y bêl.

Ond doedd y cochion ddim wedi cwbwlhau eu gorchest, ac fe fylchodd Roy Bergiers mor effeithiol fel na fedre'r gleision rwystro'r wythwr, Hefin Jenkins, rhag croesi am gais arall, i'w throsi gan Phil, i roi deg pwynt ar hugain ar y sgôrfwrdd--yn erbyn saith pwynt Caerdydd Nid gwneud cam â Chaerdydd yw dweud eu bod nhw wedi rnethu gyda chwe chic at y pyst, wrth iddyn nhw ddefnyddio Gareth Edwards, Leighton Davies a Keith James yn eu hymdrechion.

Yn nhîm Llanelli mae'r wythwr Scott Quinnell a'r clo Chris Wyatt yn cael gorffwys a'r maswr Stephen Jones fydd y capten.

Garin Jenkins yw'r bachwr a Nathan Budgett fydd yn safle'r wythwr.

Mae Glyn Ebwy wedi rhyddhau eu capten, Mark Jones, cyn-wythwr tîm Cymru.

Bydd Geraint Lewis, Abertawe, yn safle'r wythwr yn lle Scott Quinnell, sydd wedi ei anafu.