Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ychwaneg

ychwaneg

Dyna'r gybolfa, disgwyliaf y bydd peth ohonno yn felus, mwy o Sherry dro arall efallai i roi ychwaneg o flas!

Gyda'r nos yr un dydd, wedi mynd yn ychydig meddwach, rhedais yr un modd o ben isaf y dref, at y Bont Fawr, am swUt; a rhedodd Mr Lewis Thomas, Druggist, ar fy ôl gyda chwip y tro hwn, gan feddwl fy nghuro, a fy nhroi i fewn i rywle, cyn dangos ychwaneg o'm digywilydd- dra; ond methodd â fv nghyrraedd.

Ychwaneg o ystafelloedd crand i'r Brenin a'i deulu?

Eisoes yn 1847 yr oedd Lingen wedi sylwi ar hyn a rhagweld ychwaneg.

"Y mae yn hawdd iawn gan gapteniaid roddi cant ac ychwaneg o'r gath naw gynffonnog ar gefn troseddwyr, ond pan yr anturiai un ei fywyd yng nghanol y Ue mwyaf arswydus am sharks yn y byd, ie, ac i achub y Uong a'r dwylo, ni chaiff ond un bunt.

"Nawr ewch i'r gwely ac aros yno," meddai'n chwyrn, "os cai ychwaneg o drafferth gyda chi heno, fe fydd yn edifar gennych chi." Y bore wedyn, fe'i dihunwyd gan sŵn llestri yn cael eu gosod ar fwrdd y feranda.

Ni chawsant amser i sylwi ar ychwaneg oherwydd roedd y dyn, yn amlwg yn teimlo ei hun yn berffaith ddiogel yn y fan honno, wedi goleuo ei dorts.

Ofnwn fod Rhagluniaeth wedi dweud yn eglur nad oeddwn i fynd i'r coleg, ac os felly ei bod yn dweud ychwaneg sef nad oeddwn i bregethu; oblegid dywedasai Abel wrthyf fwy nag unwaith na ddylai un gŵr ieuanc yn y dyddiau goleuedig hyn feddwl am y weinidogaeth os nad oedd yn penderfynu treulio rhai blynyddoedd yn yr athrofa; a thybiwn y pryd hynny fod yn amhosibl ymron i Abel gyfeiliorni mewn barn.

Ond daeth yn amlwg yn fuan nad oedd yr adran honno'n barod i weithredu cyn i'r gyfraith symud yn erbyn y diffynyddion eraill, ac yn sgil hynny daeth ychwaneg o rwystredigaethau.

Dychrynais gymaint fel y neidiais o'm gwely heb feiddio cyffwrdd ychwaneg ynddi, i lawr y grisiau â mi fel corwynt ac ofn yn fy mharlysu.

Cafwyd eisoes gyrsiau hyfforddiant ac fe drefnir ychwaneg fel rhan o'r cydweithrediad rhwng CCPC.

Blwyddyn Newydd Dda i'r holl ddarllenwyr a chofiwch addunedu i anfon ychwaneg o newyddion.

Fe'i disgyblodd ei hun i neilltuo rhai oriau penodol bob dydd i hela'r ci llwyd; ac os gallai roi ychwaneg na hynny, popeth yn iawn, eithr nid esgeulusai'r un diwrnod cyfan heb ei fod wedi cyflawni'i gwota hunan-drefnedig o erlid.

Nid anodd oedd rhoi dau a dau wrth ei gilydd a gyda lwc cai ychwaneg o brawf o fol ei gamera.

Caniateais innau iddynt wneuthur feUy, a gorweddais ar wastad fy nghefn ar lawr, a chymerasant y chwart cwrw a chodasant ef i fyny, a thywalltasant cwbl ynghyd â Uawer ychwaneg, i lawr i fy ngwddf, fel i bwU o dwr.

Meddwl yr oeddwn i y byddai llawer cae arall eto yn etholaeth Mr Rod Richards yntau (dyweder), tua Colwyn Bê, sydd ag ychwaneg o le i bacio rhai o'r rheiny yno: i abersochio rhyw fymrn ar y lle.