Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ychwanegiadau

ychwanegiadau

Disgynyddion adar a fagwyd mewn parciau yw'r Gwyddau Canada estronol hefyd, ond credaf fod y ddwy rywogaeth yn ychwanegiadau difyr i adar ein gwlad.

Mae'r Athro Glanmor Williams wedi dadansoddi'r helyntion hyn yn fanwl (yn Welsh Reformation Essays) a dangos sut y cafodd rhai ohonynt sylw yn y llysoedd, Llys Mainc y Brenin, Llys yr Ychwanegiadau, Cyngor y Gororau, y Sesiwn Fawr a Llys y Seren.

Mae'n arwyddocaol fod y fersiwn hwn, lle bynnag y bo priod-ddull y Ffrangeg yn gofyn am eiriau nad oes dim yn cyfateb iddynt yn y gwreiddiol, yn dynodi'r ychwanegiadau hyn trwy eu hargraffu mewn print manach.

Nid yn unig y mae cynhaeaf Huw Jones yn un gwerthfawr o ran difyrrwch, ysgolheictod a thrysorfa gymdeithasol ond y mae'r cyfrolau hyn yn ychwanegiadau heb eu hail at lyfrgell unrhyw un - a'r rhyfeddod yw mai dim ond £10 yr un ydyn nhw - pris sydd wedi ei gadw'n gyson ers y gyfrol gyntaf un.

Daeth ychwanegiadau gwerthfawr ar adran llên gwerin fy llyfrgell gyda'r cyfrolau a sicrheais yn siop Galloway o gasgliad mawr William Davies y cigydd, Talybont.

Nid ychwanegiadau pert yn unig yw'r lluniau hyn, ond estyniad ydynt o dasg ganolog yr awdur o ennyn chwilfrydedd y plentyn.

Yr awgrym yw mai ychwanegiadau dynol yw'r 'geiriau dodi' hyn, fel yr oedd William Salesbury i'w galw, a bod angen gwahaniaethu'n fanwl rhyngddynt a gwir eiriau'r Ysgrythur.

Nid ychwanegiadau i ddenu'r llygad mo'r cymariaethau a'r delweddau a'r darluniau geiriol.