Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ydi

ydi

'Ydi hi'n bell i dŷ Nain?' gofynnodd Owain wrth iddi blygu drosto i'w gau'n ddiogel yn ei sedd, a pharodd hynny i'w fam wneud un arall o'i phenderfyniadau sydyn.

Ond fel dwedodd y Saesnes benwyn, rhywbeth i'r kids - heb anghofio'r mamau a'r tadau sy'n eu gwthio - ydi'r Eisteddfod.

Yn sicr, yr oedd rhai yn y naill ar eu ffordd i'r llall; ond cyffes arall ydi honno.

Yma byddwn yn gofyn os ydi'r elfennau yma yn rhy hen ffasiwn.

"Antidote ydi'r gair, was i," ebr efô, wedi inni fod am dipyn yn trafod posibilrwydd yr awgrymiad.

Y cyfan ydi hi yw rhyw dipyn o dir yn sticio allan i'r mor tua'r gorllewin yna.

"Y gamp fwyaf ydi hedfan yn isel, nid yn uchel," meddai peilot arall tra'n bwyta brecwast un diwrnod.

Os mai gloddesta a gwario ydi'ch Nadolig chi, does 'na, a fydd 'na byth ronyn o wirionedd yn yr haeriad bod natur yn gallu dathlu hefyd.

Ma' hi'n gofyn bae'.' 'Drw' Lanengan ac yn deirect i'r dre ydi'r gorchymyn 'dwi wedi gal.

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

Yn y man, ebe hi: ``Dafydd Dafis, on'd ydi Rhys wedi gneud yn dda?

Yn rhannol o argyhoeddiad, yn bennaf rhag creu lle i Gwydion a'r bychan edliw.' 'Pwy ydi'r bychan?

Pysgotwr ydi o, ac mae o allan bob math o oria', ddydd a nos, yn 'sgota.

Yr actor sydd wedi cael y sylw mwyaf yn y ffilm mawr newydd, Gladiator, ydi Oliver Reed - yn rhinwedd y ffaith iddo fo farw cyn gorffen ffilmio.

Rydach chi'n iawn, Mr Rees," meddai wrth yr athro, "mae'n rhaid iddo fynd i'r coleg." "Ydi.

Bu'n rhaid newid y clawr hefyd a'r hyn fydd i'w weld fydd ystyr llawn JEEP, hynny ydi Just Enough Education to Perform.

Ail lyfr yng nghyfres Byd o Beryglon gan Gary Paulsen ydi'r Arth Grisli ac mae'r stori wedi ei chyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg gan Esyllt Nest Roberts.

'Tuedd unrhyw un ag ysfa fel d'un di ydi mynd yn dipyn o boen i'w ffrindiau weithiau,' meddai Robin.

'Chi ydi Cathy ma'n siŵr, merch Brian Andrews?'

Ond dyna ydi newyddion a dyna fy swyddogaeth i.

Ei ddymuniad o ydi'r drefn sydd ohoni.

Aros nes y daw o i gysylltiad eto ydi'r peth doetha.

Mae o ar fin cyrraedd Llety Plu rŵan.' 'Ydi,' meddai Iestyn.

DAFYDD: ...yr adegau y mae angen torri'r gyfraith ydi pan mae'r gyfraith yn rhwystr; pan mae'r gyfraith yn erbyn.

"Plumber ydi Tomi," meddai'r ysgrifenyddes pan ddaeth ati'i hun.

Ydi e'n ormod i feddwl fod y cyfansoddwr yn meddwl am undonedd bywyd, ond y gellir dod â lliw i fywyd er mai'r un thema sydd iddo fel petai?

Ydi'r teithiwr cyffredin yn mynd i dalu £500 i deithio ar awyrennau BA neu Lufthansa, neu £200 i deithio ar ffleits-dim-ffrils Ryanair.

Mi fuo am gyfnod cyn priodi â gwraig weddw ydi hi ar hyn o bryd, a 'dwyt ti'n synnu dim at hynny wedi byw o dan yr un gronglwyd â hi am wsnos - cyn priodi mi fuo'n gwasanaethu hefo rhyw nob a'i wraig - Syr Simon a Ledi Gysta chwedl hitha, ac mae'r rheini wedi troi yn 'i phen byth wedyn.

Un peth ydi bod yn fwriadol ddigri a pheri i eraill chwerthin þ mae yna orchest a boddhad yn hynny.

Chditha ydi'r llall.

Ar y cyfan teulu digon swil ydi teulu'r Pincod, fel pe baent ofn arddangos eu holl ysblander.

'Y cyfarwyddwr, y sgript a'r cynllunydd ydi'r tri phwynt mae pethau'n gorfod dod ohonyn nhw - a'r awdur, os ydi o'n fyw.

'Ydi, mae o.

Ydi hogie Topper byth yn blino?

Ifan Ralltgoch, oedd mor blaen ei dafod a hunanwrthrychol, ond mor garedig mewn cymdeithas ag ydi lwc wrth y lwcus.

'Be ydi hwn, d'wed?' gofynnodd Alun.

'Mynd a dweud wrth yr heddlu ydi'r peth callaf i'w wneud.' Lapiodd Alun y papur newydd yn barsel twt cyn ei roi yn y sach blastig a chlymu ei cheg yn dynn.

Gwastraff amser ydi'u hanner nhw, ond mi fyddaf i'n ateb bob un, ond byth yn cytuno i fynd i unlle heb gael sgwrs ar y ffôn â'r dyn y pen arall yn gyntaf.

Tan tro nesa.' 'Ydi, mi wn i.

Maen nhw'n siarad fel hyn - 'Mae o ddim gyn fi' neu 'Le ma gwraig fi?' ond maen nhw'n sgrifennu, 'Nid yw gennyf' a 'Pa le mae fy ngwraig?' Iaith Afallon ydi hon wrth gwrs.

Ydi dadleuon Zola yn cytuno a diffiniad y Mudiad Anabledd o fyw'n annibynnol?

Fy oed i ydi o mae'n debyg.

Wedi'r cwbl, hedyn ydi'r gneuen ac mae'n hawdd iawn i'w chael.

Ac os ydi hi'n cau gwrando mi sleifia'i drwodd i'r cefn pan ga'i chefn hi a dy adael di mewn felly ac mi geith hi weld wedyn na tydan ni ddim yn wynt ac yn law drwg drwg go iawn.

Ydi Cen ddim wedi deud wrthych chi?' Gollyngodd Bilo ei afael a throdd Dei ei ben i edrych am gadarnhad gan Cen.

Calon yr unigolyn ydi'r ffynnon ddu o'r lle tardd pob pechod.

Urmyc yn y Niwl Gwlad fechan ddinod iawn ydi Urmyc.

Beth ydi'r ysfa yma i geisio ei gwneud yn ddiangen i bobl ymwneud â'i gilydd?

Yr unig elfen sydd ddim yn apelio ydi trymder y gitars a'r drymiau ar Deud Celwyddau a Ritalin.

Ydi'r seiniau gwahanol yn golygu pethau gwahanol?

Wel os mai Cymraeg ydi'ch mamiaith chi, dwi ddim yn gweld ei bod hi'n iawn i chi newid.

Dydi rhywun ddim isio codi cnecs yn barhaus ar yr aelwyd; rhwbath am heddwch ydi hi fel rheol, yntê?

Y Mwyafrif ydi sengl gyntaf Pep Le Pew, er bod Gang Bangor wedi bod yn chwarae eu cerddoriaeth yn gyson ers rhai misoedd.

'Os ydi'r arian yno, beth yw pwynt hysbysebu a hyrwyddo?

'Y peth gora i chi gneud rwan ydi mynd i Dinmael at y wraig a'r plant.

Wedi'r cwbl, os ydi'r Beibl yn dweud bod 'Oen Duw' yn gallu gwneud 'hyd yn oed i'r gwynt a'r môr ufuddhau iddo', pwy ydan ni i feddwl mai dim ond ar gyfer dynol ryw y crewyd neges y Nadolig.perygl yn sbaen bob eynon tud.

'Dydi byd gwan ar griadur tlawd ddim yn ddigon..." "Nag ydi.

Rhyw ddyfalu ydw i ond dwi'n poeni efallai mai'r hyn sy'n digwydd ydi bod ysgolion yn defnyddio pobol heb gymwysterau iawn i ddysgu mathemateg oherwydd y cyfyngu ariannol sy wedi bod.' ' Peth arall sydd yn gofidio Gwyn Chambers yw cyn lleied o Gymry Cymraeg sydd yn mentro i faes mathemateg.

Dawn Chouchen – yn union fel Big Leaves – ydi cyfansoddi traciau byr sydd yn eithriadol o fachog.

"Be' wyt ti'n feddwl ydi o?" "'Sgen i ddim syniad, ond mae o'n codi arswyd arna' i." "Taw." "Ydi, wir yr." "Tyrd o 'na."

Yr hyn sydd eisiau i ti ei wneud ydi cadw rhai ohonyn nhw'n fyw ac yna gwneud cawl hefo'r gweddill.

'Prysur ydi hi.

Pan ydach chi'n gorfod ffilmio rhywun sy'n diodde' ac rydach chi'n gwybod mai hwn ydi'r llun sy'n mynd i wneud yr eitem.

HEULWEN: Hynny ydi, fe ddylsen nhw gael eu cloi'i lan.

Ond os ydi'ch synnwyr digrifwch chi rywbeth yn debyg i f'un i, y peth sy'n fwyaf tebygol o'ch cynhyrfu chi i chwerthin ydi gweld rhyw unigolyn bach yn y gynulleidfa sy'n edrych fel pe bai o ar dorri allan i grio unrhyw funud.

"'Y Gath" ydi enw'r heddlu ar Dan Din yma.

Neithiwr daeth i mewn i'm hystafell yn dwyn fy swper ar hambwrdd, ac meddai, gyda rhyw ffug sancteiddrwydd, "Ydi dy frest ti'n fwy rhydd, Hannah?

Ac eto, malu awyr ydi hyn i gyd, mewn gwirionedd.

Pa drysor ydi hwnnw?" holodd yr asyn.

"Os ydi o eisiau bwyd, mae hi wedi darfod amdana i," meddai'n grynedig wrtho'i hun.

Y math arall o wybodaeth fyddai ei angen arnoch ydi gwybodaeth ymarferol o nodweddion a defnydd y gwahanol opsiynau, fel y gallech ddewis y model sy'n cwrdd orau a'ch hanghenion cyfredol ac i'r dyfodol.

Ein cyfrinach ni ydi na wnaethom ni erioed ildio, tra eu bod nhw yn Llywodraeth ganolog, yn llywodraeth leol ac yn gwmnïau preifat, bach a mawr, wedi ildio i ni drosodd a throsodd.

Amlygwyd eto y diffygion yn neddf 1993 - sef nad ydi hi ddim yn rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg (sy'n golygu ei bod yn colli allan ar grantiau allweddol o Ewrop), ac nad ydi'n delio gyda'r sector breifat na'r sector wirfoddol.

Ac yn sylweddoli mai darlun o ryw lecyn y mae hi'n 'i weld bob dydd ydi o - yn 'i weld, ond 'rioed wedi edrych arno fo.

Os ydi'r Capeli a'r Eglwysi mewn lle mawr fel Bangor neu Aberystwyth, er enghraifft, yn penderfynu uno, a bod y capeli Pentecostal, Efengylaidd, yn Saesneg eu hiaith, beth fyddech chi'n dweud wrth y Cymry Cymraeg?

Os ydi Krusty ddigon da i Bart, mae o ddigon da i minnau hefyd.

Be ydi Madam Wen?' Ond cyn i ni ateb torrodd un o aelodau'r Bwrdd ar draws, 'Mr Llywydd.

Y cwbwl sy raid ei wneud ydi...'

'Cŵn Annwn Theros ydi'r rheina.' 'Be ti'n mwydro?' i flaen a'i ben yn y gwynt.

Ar y llaw arall, os ydych chi'n credu yng ngwyrth creu'r byd, yn credu bod Duw wedi rhoi ei unig blentyn yn rhodd i geisio achub dynoliaeth, a chredu bod y Nadolig, boed y dyddiad yn gywir ai peidio, yn gyfnod o glymu hyn, a'r byd a'i bethau yn glosiach at ei gilydd, yna nid peth gwirion ydi meddwl bod gan pawb a phopeth ar wyneb y ddaear ran yn yr ŵyl.

'Cŵn Annwn Theros ydi'r rheina.'

(Y miwsig yn ergydio drwy'r pared.) Mewn gwirionedd, y rheswm rw'i'n cadw'r lle'n daclus ydi am fod fy ffrind gore fi, Sara, hefyd yn hoffi pethe'n daclus.

Ydi mae'r Gymraeg i'w gweld… i raddau.

Bwyd Hadau o bob math ydi prif fwyd y Pincod.

Nac ydi, amhosibl!

'Ydi, sbi%wch be sy o'n blaena ni.

"Dydi cychwyn yn gyflym yn dda i ddim os ydi hynny'n golygu dy fod ti'n chwythu dy blwc." "Go dda, 'merch i," meddai'r hen ŵr.

Dyna ydi cynllunio i mi: synthesis gweledol.

Ac aeth hen rigymau chwarae fel, 'Beth ydi Tŷ bach haearn, drws yn ei dalcan, Buwch goch i mewn, buwch ddu allan?'

Wel ydi, mae pawb hefo tractor, a chlymu fferm wrth fferm, ffermwyr cefnog yn awyddus i gael gafael ar y tir ac yn barod i adael i'r hen fythynod fynd er mwyn cael byw yn y cymoedd, gan bicio i fyny bob hyn a hyn mewn cerbyd neu dractor neu rywbeth.

Ond mae gen i rywfaint o synnwyr digrifwch, er nad ydi o mo'r un disgybledig- dderbyniol.

Drama i'r canol oed ydi hi, drama am ddechrau'r daith, hacrwch y presennol a'r ofn mawr o'r dyfodol.

Cwestiwn naturiol i'w ofyn ydi paham eu bod yn mudo pob blwyddyn o Affrica yn y Gwanwyn.

Y gamp ydi creu priodas - undod organig - rhwng y cyfan.

Mae croeso iddi hi fyw yn ôl patrwm Ledi Gysta os ydi'n dewis hynny, ond mae disgwyl i mi siopwr ynghanol gwlad, drefnu 'mywyd ar yr un llinella â rhyw sprigyn o Syr hefo mwy o bres neg o synnwyr, yn afresymol.

'Ildiwch' ydi gair mawr yr wythnosau hyn.

Wel mi gan nhw eu gorfodi dwi'n credu, gan amgylchiadau, i ddod i delerau efo'r sefyllfa oherwydd faswn i'n meddwl, er na allaf siarad o brofiad, ymhlith yr hen oedd y styfnigrwydd yma, yr hen bobl yn ei chael hi'n anodd i symud a newid enwad, neu newid adeilad, addoldy, ond tydi bobl ifanc yn malio fawr ddim am bethau fel hyn, a 'dwn i ddim beth fydd dyfodol yr Eglwys neu'r Capeli os ydi'r bobl ifainc yn troi i fod yn Gapelwyr neu Eglwyswyr unwaith eto.

Pwy mewn gwirionedd ydi'r Eingl-Gymro bondigrybwyll yma, ond un sy'n gwybod ei fod yn Gymro, neu sy'n dymuno meddwl amdano'i hun felly, ond sy'n ymwybodol byth a hefyd ei fod yn siarad iaith estron?

A ydi hynny'n golygu fod y rhai dagreuol yn ein plith yn iachach na'r rhai sych?

Yr achlysur y tro hwn ydi priodas un o'r prydferthaf o aelodau seneddol y wlad honno, fis Gorffennaf, Jane Devine.