Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ydy

ydy

'Mae 'na rhyw berthynas agos rhwng y cast a'r gynulleidfa, ac mi rydach chi'n sylweddoli'n fuan iawn os nad ydy'r gynulleidfa yn hapus.

Erbyn hyn mae'n siwr mai hon ydy un o ganeuon enwocaf Caban.

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

Dwi i erioed yn cofio fo'n eistedd lawr a dweud, rwan dyma be ydy Cynghanedd Lusg, dyma ydy Cynghanedd Draws.

Mae'r ysbryd cyfeillgar a phositif yno yn gwneud i rywun feddwl nad ydy'r hen fyd 'ma yn le mor ddrwg â hynny wedi'r cwbl.

Mae'r arwyddion yn glir, serch hynny: mater o amser ydy o.

Cân serch ydy hi yn ei hanfod ac yn amlwg gadawodd Alison dipyn o argraff ar Alex, y prif leisydd.

Ydy hithau'n dwad Ddolwyddelan?" "Ydy, yn ôl pob sôn." "A'r un mor barod i frwydro?" "Ia, ddyliwn." "Gwytnwch a rhuddin hil Rhodri ac Owain Gwynedd o Benychain ym mêr yr esgyrn." Yna sibrydodd Elystan o dan ei anadl rhag i'r ddeuddyn arall ei glywed, "Os byth y bydd angen Ysgrifydd arni i ysgrifennu drosti mewn llythrennau cain, fe ŵyr hi at bwy i droi.

Woodward, bellach, ydy rheolwr y tîm a bydd yn parhau i fod yn gyfrifol am y chwaraewyr.

Uchelbwynt arall ydy'r wythfed trac, Enfys Dub gyda Llwybr Llaethog yn arbrofi gyda'r clasur Maes E gan Datblygu.

Un felly ydy o; dipyn bach yn oriog, a ddim yn sylweddoli fod fy amsar i'n dynn ar ôl i mi fynd ar fy mhension, ac nad ydy pedair awr ar hugain ddim hannar digon o ddiwrnod i mi bellach.

Ydy o'n adnabod ei hun?

Cymysgedd yr ydw i'n dechra amau y byddai o ddirfawr les i Gruff acw wrthi - achos mai fo ydy'r unig ddyn yng Nghymru, synnwn i ddim, sy'n cwyno ei fod o wedi blino gormod a bod ganddo fo gur yn 'i ben ar yr un pryd.

Tybed ydy William Thomposon, Moelfre, yn cofio'r nos Sadwrn honno y cerddodd nifer ohonom ar hyd y traeth o Draeth Coch i Fenllech.

Un y bydd Towyn yn rhannu ei farn efo hi ym mhob Eisteddfod ydy'r gyfeilyddes, ANNETTE BRYN PARRI.

Castall C'narfon ydy o!' 'How dare you!' gwichiodd llais wrth i'r gelen a'r broga Iygadu'r porth.

"Ai John ydy e mewn gwirionedd?" fyddai cwestiwn rhai wrth iddynt wrando arno.

'Y...Folk oedd fy nhaid a Lamgley ydy fy ngor-ewythr, ac...y...nhw 'ngyrrodd...'

Un yn unig sy'n gweld diwedd anorfod y daith, a hwnnw ydy Ned druan.

Pwy ydy ..." "Gan bwyll rŵan, was," meddai Henri, gan syllu ar y map o'i flaen i guddio'r cysgod o wên oedd ar ei wyneb.

Drum ‘n' Bass ydy natur y trac hwn a mae'r alaw mae Sian yn ei chanu yn gyferbyniad diddorol i'r gerddoriaeth.

beth ydy'r neges?

'Ers i ni ddod yma, mi rydw i'n sylwi mwyfwy ar bethau fel cân rhyw aderyn ne'i gilydd, er na fydd gen i syniad be ydy o.

Yr hen dþ mawr yna ydy'r mwgwd.

"Dywedwch, gefnder, beth ydy'r hanes diweddaraf o Lundain?" "Wel rhoswch.

Atyniad yr hanes yma, fodd bynnag, ydy gweld sut mae'n mynd ati i geisio egluro ymaith yr holl ffeithiau sy'n ei gondemnio ar ôl darganfod corff ei wraig â'i phen i lawr mewn casgen fawr o ddwr.

Does dim pwynt dweud wrth rywun am fynychu dosbarth unwaith yr wythnos am flwyddyn os ydy e neu hi am fod yn rhugl ar ddiwedd y flwyddyn honno.

Hwn ydy'r diweddara mewn cyfres o drafferthion i daro'r atomfa.

Un sydd wedi dioddef o ganser y croen ydy Androw Bennet ac mae o'n dweud nad ydy lliw haul ddim yn iach.

'Mae Manchester United wedi dangos bod ennill y Cynghrair yn dod yn hawdd iddyn nhw a'r cam nesa ydy cael llwyddiant cyson yn Ewrop.

Ond os 'dach chi'n sgrifennu darn o farddoniaeth rydd, wel, allech chi fod yn newid honna o hyd a dal ddim yn siwr a ydy hi'n iawn.

'Hanner cant, o leiaf.' 'Wel...hynny ydy...rydych chi wedi hen arfer gyrru hyd y wlad, 'ndo?

Un felly ydy Dylan Phillips, awdur y llyfr ysgolheigaidd a darllenadwy hwn ar hanes y Gymdeithas rhwng 1962 a 1992.

Yn sicr Anweledig ydy prif grwp Cymru ar hyn o bryd.

Yn ystod y cyfarfod byddan nhw'n trafod syniadau weithiau, ond ei brif bwrpas ydy rhoi cyfle i raglenni gynnig straeon difyr sydd wedi codi yn eu gwlad nhw.

Yr unig ddewis sydd ganddo rwan ydy mynd âi achos i'r Llys Apêl.

Wrth gwrs, ysgol brofiad ydy un o'r dulliau addysgiadol gorau mewn unrhyw faes.

'Wel, ydy,' atebodd y wraig yn betrus braidd, 'ond alla i eich helpu chi?'

Rhaid cofio beth sy'n digwydd mewn cyfarfodydd â chyfieithu ar y pryd lle nad yw'r siaradwyr Cymraeg yn y mwyafrif, yn enwedig pan nad ydy'r cadeirydd yn ymwybodol o sut i roi chwarae teg ieithyddol.

Damwain mae'n siwr ydy'r ffaith fod prif gymeriadau'r ddwy nofel yn ferched ifanc, hyderus a'u bod yn ceisio datrys dirgelwch o ryw fath.

Os ydy hi am fy ngweld i, mi fyddai hi'n dweud ei bod hi'n marw er mwyn i mi ddod ati, am y byddai hi'n tybio na fyddwn i'n dod am unrhyw reswm arall.'

Mae hi'n barod iawn i'ch sicrhau, fel y mwyafrif o actorion, mai y theatr ydy ei gwir gariad.

Rwan, mae'n bosib, medden nhw, i'r Cynulliad wrthod unrhyw gais i blannu hadau GM yng Nghymru os nad ydyn nhw'n berffaith hapus nad ydy hyn yn mynd i achosi difrod i'r amgylchedd.

Er mai Mi Welais Long yn Hwylio ydy teitl y llyfr, nid llongau'n hwylio yw canolbwynt y stori.

Ydy parchu traddodiad yn brwydro yn erbyn cyfoesedd?

Yr hyn â brofwyd oedd mai Lloegr ydy tîm gwana'r grwp - fel y tybiwyd yn wreiddiol.

ym 1992 a hanes ydy'r gweddill.

Y cwbl sydd raid i ti ei wneud ydy tynnu sylw'r ddau oddi ar eu gwaith am eiliad." Cofiodd Jean Marcel am wynebau gwelw y bobl yn y dorf ychydig oriau ynghynt.

Yr unig beth mae o'n addo ydy be mae'r pensiynwyr yn ei gael yn barod gan Lywodraeth Lafur, meddai.

Y diweddaraf ydy dwyn blodau o erddi ffrynt rhai o day yn Heol Dewi.

Erbyn hyn, mae'r cwmni wedi ei ddewis a'r gobaith ydy y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yn gynnar yn 2001 ac y bydd y tri safle ar gael i'r cyngor erbyn Medi 2002.

Y colegau sy'n cymryd rhan ydy Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Llandrillo, Coleg Llysfasi, Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Menai, Athrofa Gogledd Cymru, Prifysgol Cymru Bangor, Coleg Garddwriaeth Cymru, Coleg Harlech a Choleg Iâl.

Y bwriad amlwg ydy rhoi cyfle i grwpiau ac unigolion ifanc ymarfer a datblygu eu doniau cerddorol.

Ond dyna beth ydy teithio.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

Eds mae ei ffrindiau yn ei alw, ae Eds ydy o i ni'r heddlu.

Tori mawr ydy o, a finna erbyn hyn wedi troi at yr Islamiaid, a'r diwrnod o'r blaen, pan ddois i i'w wynab o, roedd fy matin gweddi gen i yn un rholyn o dan fy nghesail, a dyma fo'n dechra fy nghymryd i'n ysgafn ar ei union, a gofyn pa bryd yr oedd y Proffwyd wedi bod acw ddwaetha i de.

Rwan i'r rhelyw ohonoch nad ydych yn sgiwyr, y peth cyntaf i ddysgu ydy sut i sgio ar sgis mewn siap swch aradr eira.

"Beth ydy'r sgôr?

Mae cyfraniad Harvinder Sangha - a gyfrannodd hefyd i Hen Wlad Fy Mamau rai blynyddoedd yn ôl - yn un pwysig i lif y gân gyda'r bît ethnig yn amlwg ac yn sicr yn un o uchelbwyntiau'r albwm sy'n dangos yn eglur faint o feistri ar eu crefft ydy Llwybr Llaethog, yn gosod y llais mewn mannau allweddol yn y cyfoeth o gerddoriaeth.

"Ydy, Elystan." "Mi ddaw'r hogiau adre' o'r Deheubarth, adre o'r rhyfel gyda hyn efo byddin y Tywysog, Gwgon." "Ia, yn fuddugoliaethus." "Ac heb ddim i'w wneud am nad oes ar y Tywysog eisiau brwydro 'chwaneg yn erbyn ei hanner brawd yng nghyfraith, brenin Lloegr." "Fedar y sawl a aned i ryfal ddim diodda' segura.

Ond mi wn beth ydy'i ddolur o; awydd cael ei enw yn fy 'wyllys i mae o þ ei gweld hi'n hwyrhau.

At etyb William Roberts: 'Dewis y drwg a gwybod wrth ei ddewis mai'r drwg ydy o.' Serch heb ei ddifwyno gan euogrwydd sydd yn Merch Gwern Hywel, a'r awdur yn ei bortreadu gyda hynawsedd a ffraethineb.

Ai hwn ydy'r bachgen?

Maen debyg mai hwn fydd y cyfle olaf i glywed cyfraniadau Euros Rowlands fel aelod llawn fel drymiwr ar newyddion ydy bod Pete Richardson o'r grwp Topper yn ymuno efo Gorkys i gymryd ei le.

Y bwriad ydy dod ag addysg uwch yn nes at y bobol.

Dyna'r drwg.' 'Ydy hyn yn wir ledled y byd?' 'Ychydig iawn a wyddon ni'r werin am weddill y byd.

Y newyddion cyffrous o gyfeiriad MC Mabon ydy y bydd yna albym newydd sbon cyn diwedd y flwyddyn - edrych ymlaen yn barod.

Dechreuodd Ffeil ym mis Medi 1995 a hon ydy'r unig raglen newyddion Gymraeg i bobl ifanc.

Yr "hen foi" ydy'r darlledwr Gwilym Owen, sydd wedi gwirioni ar y ffaith iddyn nhw ddefnyddio ei lais.

Ymhellach, ydy'n rhaid dewis yn y cyfnod nesaf o ddatblygiad cyfansoddiadol rhwng Ysgrifennydd Cymru a Llywydd y Cynulliad?

Tasg Ioan a Rhian ydy dewis y straeon gorau a'r rhai fydd o'r diddordeb mwya i bobl ifanc.

Dydy ymddiheuriad, waeth pa mor swyddogol, fod y fersiwn Eidaleg ddim yn barod eto, ddim yn gwneud y tro; os nad ydy fersiwn pob iaith yn barod, dydy'r dasg o baratoi'r papurau ddim wedi ei chwblhau.

Mae hwnnw'n pesgi llai ar y sawl sy'n ei yfed o meddai'r broliant ar y tun - llai o galoriau a dim colesterol beth bynnag ydy hwnnw.

"Tomos ydy'n cyfenw ni i gyd !

Tir hesb, anial ydy maes anfantais meddwl i'r rhelyw o feddygon, heb fawr o gyfle i wneud strôc nac i ymarfer yn breifat.

'Welsoch chi hi eich hun...ydy hi'n marw?' 'Wel, naddo...ond...' 'Yna, mi fetia i nad ydy hi'n marw.

Bardd ydy o.' Er cyfaddef fod serch a ffydd yn croestynnu, mae Saunders Lewis yn dangos fod cyfaddawd yn bosib rhyngddynt.

Yr un llong ydy hon a'r llong welais i yn fy mreuddwyd.

Syniad arall sydd gan y cwmni ydy sefydlu elusen o'r enw Gwynfryn Cymunedol fydd yn canolbwyntio ar feithrin ac annog talentau newydd yng ngwreiddiau'r Sîn Roc Gymraeg.

Dydy hi ddim yn rhwydd - falle bod hi'n rhwydd iddo fo, ond dwi'n siwr mai crefft yn cuddio crefft ydy hi yn ei hanes o.

'Ydy Mr Puw yma, os gwelwch yn dda?' holodd Llio.

Mecanig lleol yn ei ugeiniau cynnar ydy o ac fe ddywed yntau "dw i ddim wedi bod efo neb fatha chdi o'r blaen".

Ydy'n hanes cymdeithasol ni yn y papurach hyn neu a ydynt yn fwy o adlewyrchiad o feddylfryd y bobl sy'n creu hysbysebion?

Aelodau Evans ydy Alex Philp, llais, Rhys Elis, gitar, Dylan Evans, gitar, Aled Williams, Bas a Dewi Jones, drymiau ac ar Hydref 16 mae'r grwp yn rhyddhau eu Ep cyntaf o'r enw Evans ar label nodedig Sylem o Fetws y Coed.

Y pryder ydy y bydd y cwmni'n cynhyrchu llai ac yn diswyddo gweithwyr yn eu gweithfeydd yng Nghymru.

Cadeirydd gweithgor y brifysgol newydd ydy Dr David Roberts.

Yna, meddai'n chwyrn, "Bwyd o'r dref yma a'r ffermydd cyfagos ydy'r cwbl, wedi ei ddwyn ar orchymyn y Maer yna.

Maen nhw'n dal i geisio darganfod yn union beth ydy'r sefyllfa gyfreithiol.

Bysedd Melys ydy enw grwp newydd syn dod o Fôn - ac yn ôl yr aelodau does yna ddim arwyddocâd i ystyr yr enw.

Y broblem fwyaf ydy nad oes yna ddigon o bobol yn mynd yno.

Un o'r pethau sydd yn ddiddorol i ni heddiw ydy na cheisiwyd yn y chwech a'r saithdegau gyfuno'r ddau symudiad: at Brwsel ar un llaw, ac at ddatganoli ar y llaw arall.

Y byd hysbysebu gwallgof yno sy'n cael ei sylw yn ei herthygl gyntaf (ysgwn i ydy hi wedi cael y cyfle i gyfarfod â rhai o'r cyfreithwyr dishy 'na sydd i'w gweld ar ein sgriniau teledu?

Mae 'na ddigon o ddewis yn y catalog, a dim ond dau gant a hanner ydy'r beic bril 'ma.'

Gobeithio y bydd y fenter yn datblygu i fod yn un llwyddiannus o gofio mai'r prif nod ydy hybu y Sîn Roc yng Nghymru.

Mae'r dolefain oeraidd yna yn fy llethu i; sŵn dyn ar fin marw ydy o.

Tŷ Cam ydy enw fo.

Gwaith CASA ydy ceisio datblygu ymatebion lleol i broblemau parhaol yn ogystal a cheisio deilio ag argyfyngau, gan ddefnyddio Cymorth Cristnogol, Oxfam etc.

Ac yn chwyldro enbyd yr Ugeinfed Ganrif, 'rwy'n credu mai gwell ydy i rai arweinwyr ddod i'r Ffydd ar ôl anawsterau dirfawr.

Yn yr Iseldiroedd mae Jeugdjournaal ar y teledu chwe diwrnod yr wythnos, ac enw'r rhaglen yn yr Almaen ydy Logo.