Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymadael

ymadael

Yn y cyfamser gwenodd yn swynol ar feistr y tþ, a moesymgrymodd cyn ymadael i fynd i'r boudoir a neilltuolwyd i'r merched.

Yn hytrach na synio am Siôn fel un sydd wedi ymadael â'r byd hwn yn derfynol (fel yr awgrymir gan yr ystrydeb 'yr ymadawedig'), mae'r gerdd yn ei ddarlunio fel petai'n dal i fodoli.

Y diwedd fu i Waldo orfod ymadael heb ei lamp!

Mae Huw Gwyn bellach wedi ymadael o'i swydd fel Trefnydd y Gogledd Cymdeithas yr Iaith.

Dywedodd hwnnw y byddai'n rhaid i Waldo ymadael, ond y gwnâi ef ohirio hynny gyhyd ag y gallai.

Mae'n wybyddus i lawer sut y bu i William ymadael â'r Methodistiaid yn Llansannan yn sgil penderfyniad yr henaduriaid i ddiarddel ei gyfaill Joseph Davies am ei fod wedi cerdded adref ar fore Sul i ymweld â'i wraig ar ei gwely angau, fel y tybiai ef ar y pryd.

Grym gweddi a chyffyrddiad y Crist byw a barodd i'r salwch ymadael yn llwyr â'r corff.

Wrth ymadael â'r Hafod Ganol try Hiraethog at deulu arall ac y mae hen bobl geidwadol yr Hafod Uchaf yn dechrau tyfu dan ei ddwylo.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor fod yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth ystyried cais gan ysgol am gael ymadael â gofal awdurdod, yn medru caniata/ u i'r ysgol newid natur ei bolisi iaith yn sylweddol.

Ymadael yn hwyr yn y prynhawn yng nghwmni gwr cymharol ifanc o'r enw Josepho - peintiwr wrth ei alwedigaeth cyn y rhyfel, ond wedi gorfod ymuno â'r fyddin.

Y nod yn fras fyddai gwneud dadansoddiad o anghenion menywod a phlant sy'n ymadael â llochesi ar sail o ran lleoliad daearyddol, nifer ac ansawdd y cartrefi fydd eu hangen.

Safodd y dynion yn stond i wylio'r garafa/ n yn ymadael cyn troi i geisio trin clwyf eu cyfaill.

Yn awr mae'n eiriol yn y nef, Erfyniwn am fyn'd ato ef; I'r wlad lle nad oes loes na chlwy', Ac na fydd rhaid ymadael mwy.

Erbyn hynny, roedd y cwbl yn prysur droi'n hunllef o'i chwmpas, er bod popeth wedi mynd yn iawn ar y dechrau, yn ôl y cynllun a fu ganddi yn ei phen wrth ymadael.

Methai Merêd â diolch digon i Mali a Robin am eu gofal a bu Dilys hithau'n ddigon hael; ei diolch cyn ymadael.

Fin nos daeth Mac ataf yn llawn cyffro i ddweud ein bod ni'n dau i ymadael yfory.

Wedi cael stamp arnynt ac ymadael â'r llyfrgell aeth y ddwy i ganol y dref i gael cinio.

Yn wir, gofynnodd un o'r pwyllgor i Waldo wedyn pam yr oedd wedi ymadael â Chas-mael ar ôl y cwbl yr oeddent hwy wedi'i wneud drosto.

Cychwynnodd tua'r angorfa'n or-brydlon, a gwylied llongau'n dod i mewn ac yn ymadael.

"Diaist ti," ebr efô'n sydyn wrth godi i ymadael.

Ond llesteirir gwerth y fath welliannau gan y ffaith bod y diffyg cartrefi addas ar gyfer menywod a phlant sy'n ymadael â'n llochesau yn faen tramgwydd i'n holl wasanaeth.

Daeth Sera i ddeall mai dim ond tlodi af truenus a fedrau yrru pobl i ymadael â'r ynys euddwydiol honno i geisio bywyd newydd ym Mhrydain.

Yn ei ragymadrodd i Llwybrau Pridd y mae'r bardd yn nodi rhyw dinc hen-ffasiwn yn ei ganu, fel petai heb ymadael yn llwyr a'r hen draddodiad: 'Un droed yn y gors, y llall yn y concrid', meddai.

Ar awr, perswadiwyd y gyrrwr i ymadael â'r trên a diffoddwyd tân y peiriant.

Er mwyn cydymffurfio â'r patrwm hwn, anfonwyd meibion Gwedir, oherwydd diffyg canolfan addysg uwch yng Nghymru, i ysgolion a phrifysgolion yn Lloegr, lle y deuent i gysylltiad ag etifeddion y prif fonedd, a lle y mabwysiadent y cwrteisi a'r moesau hynny a dderbynnid yn rhan anhepgorol o'u dull o fyw wedi iddynt ymadael oddi yno.

'Na!' Ni allai ymadael a'r ci mor ddifraw a hynny.

A rhoddodd yr un wþs i ymadael i Evan Powel a Mrs Powel, Abercyrnog.

Gwthiais yr arian dros y ffens, a rhyddhad mawr oedd ei gweld hi a'r plant yn ymuno â ni yn y diwedd yn y ciw olaf cyn y lolfa ymadael.

Llwyddwyd i symud y dyddiad ymadael hyd Fehefin, dyna'r cwbl.

Nid oedd haul y Tegla 'enwadol' yn machlud wrth iddo ymadael o'r Gadair ymhen y flwyddyn chwaith, oherwydd yn yr un Gymanfa fe'i dewiswyd--gan fod y flwyddyn ganlynol yn flwyddyn dathlu deucanmlwyddiant tro%edigaeth John Wesley-i siarad ar y pwnc hwnnw yng Nghymanfa'r flwyddyn ddilynol ym Mae Colwyn.

Yn y tyllau hyn bydd nyth diddos o laswellt yn gymysg â blew'r fam, a bydd hithau yn mynd yno bob nos i roi llaeth y frest i'r cywion ac wrth ymadael yn gofalu cau ceg y twll gyda phridd fel nad yw'n hawdd canfod y fynedfa.

Wedi'r cyfan, onid oedd wedi llwyddo i ddeall un o swyddogion yr orsaf yn egluro wrth barti ansicr ar eu gwyliau ble a phryd yr oedd y tren yn ymadael i Ddofer?

Gorffennodd ei ginio ac ymadael.

Wrth ymadael â'r orsaf, wedi dychwelyd adref o'r coleg ar gychwyn Cysgod y Cryman, mae'n taro'i docyn yn llaw'r gorsaf-feistr fel un sy'n 'gynefin â gweision'.

Pe digwyddai iddo ddigio carfan o'i braidd yna disgwylid iddo ymadael â'i eglwys a chwilio am fugeiliaeth arall.

Wrth ymadael, mynnu fod y confoi yn aros wrth yr ysgol gynradd leol, a dweud helo wrth y plant oedd allan yn chwarae.

Dyma'i geiriau wrth ymadael: Dyma'r gwahaniaeth rhyngom ni, Arthur.

Cyrhaeddodd lai na deuddydd cyn imi ymadael am Wlad Groeg, ac yma yn Athen a Mati Zeugly y darllenais hi.

Er bod y mudiad cymdeithasau tai yng Nghymru wedi ehangu, mae eu cyfraniad hwy i ddarparu cartrefi parhaol ar gyfer menywod a phlant sy'n ymadael â llochesau yn amrywio'n fawr iawn.

Rai misoedd yn ddiweddarach derbyniais lythyr oddi wrth famgu'r ferch yn dweud bod y meddygon wedi ei harchwilio'n ofalus a'u bod yn cytuno bod y salwch o'r diwedd wedi ymadael yn llwyr â'r corff.

Ond ymhell cyn imi ymadael a Rwsia roeddwn innau hefyd yn chwennych taro i Tesco ac yn dyheu am gael agosau at Argos.

Tu hwnt i grib y mynydd - Mynydd Bach wrth gwrs - bu rhai o'm cyndadau'n ymrafael â bywyd, ac ni bu neb yn sôn amdanynt ar ôl iddynt ymadael â'r byd.

Wedi i'r Rhufeiniaid ymadael â Phrydain, daeth goresgynwyr eraill o'r cyfandir, sef y Sacsoniaid.

Os oes rhaid i un ymadael, ( sef ymryddhau o'r cyfrifoldeb o wely a bwyd i'r cymar) yna ni ddylid ail-briodi.

yng nghanol ei drafferthion, clywodd y comisiynwyr yn ei gyfarch, cyn ymadael, tres bien, monsieur hughes tres bien.

Mae hi'n treulio blwyddyn yno% Gan ei fod yn gwybod iddo'i brifo ni cheisiodd ei chusanu wrth ymadael ac ni sgwennodd ati am amser hir.

Gyrrwyd swyddog o'r fyddin yn ei gar swyddogol i fyny'r cymoedd fesul un, i hysbysu'r naill deulu ar ôl y llall fod rhaid iddynt ymadael â'u cartref, er mwyn i'r fyddin symud i mewn.