Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymagweddu

ymagweddu

Thema bwysig yn yr adran hon yw cwestiwn ymagweddu.

Ar ôl yr ymladdfa roedd o'n ymagweddu tuag ataf yn wahanol.

O dan yr ymagweddu hwn ceid cronfa o ragrith siofenistaidd a ganiatâi ryddid, os nad penrhyddid, i ddynion, ond a gollfarnai'n chwyrn a diarbed unrhyw ferch, boed honno'n briod neu beidio, a hawliai'r un rhyddid iddi'i hun, neu a syrthiai'n ysglyfaeth i ysfa rywiol dyn.

Yn sicr, mae'r math hwn o ymagweddu'n gymorth i greu'r hinsawdd briodol ar gyfer datblygu'r Gymraeg;

A ellir dychmygu Crist, a wisgodd y teitl gwleidyddol 'Brenin yr Iddewon', yn ymagweddu fel hyn tuag at yr Ymerodraeth Rufeinig?

Ni allai lai nag ymagweddu - yn y lle cyntaf, fodd bynnag - fel nofelydd Victoraidd, llenor a oedd yn drwm dan ddylanwad dulliau ffasiynol nofelydda yn yr oes honno.

Wedi iddo gymryd gwrogaeth gŵyr Cernyw ac ymagweddu'n bennaeth llys, mae gosgordd Arthur yn mentro ei adael.

A'r drasiedi fawr yn hyn i gyd yw nad yr hen bobl yn unig sydd yn ymddwyn fel hyn - mae'r ddau ifanc hefyd yn ymagweddu yn yr un modd, tuag at Daz a thuag at Llwyddan.