Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymchwilio

ymchwilio

Efallai fod ei wybodaeth yn amlycach na'i ddysg, a'i ddamcaniaethu'n drech na'i ysgolheictod ar adegau, ond prin fod neb o'i flaen wedi ymchwilio'n ddycnach i holl agweddau hanes Mon na Henry Rowlands.

Nid oes ar blant ddim angen setiau cemeg drud na chemegolion peryglus er mwyn dechrau ymchwilio i egwyddorion gwyddonol cadarn.

Parodd her y Gnosticiaid i'r arweinwyr Cristionogol ymchwilio'n ddyfnach i arwyddocâd achubiaeth Gristionogol.

Bu'n rhyddhad mawr iddi weld yr heddlu yn dod i ymchwilio i'r mater.

Llongyfarchiadau i Nia Gwyn Roberts, Llannerch, Rhodfa'r Ficerdy, Llandudno ar gael ei phenodi i swydd sydd yn golygu ymchwilio i fywyd a gwaith y delynores enwog, Nansi Richards.

Penodwyd pwyllgor i ymchwilio i'r cyhuddiadau, gyda Sidney Evans yn ysgrifennydd.

Bu'n ddiweddarach yn ymchwilio, dan nawdd y Cyngor Ysgolion, i broblemau dysgu a phrofion gwrando/ llafar.

Mae ymchwilio manwl hefyd yn un o gryfderau'r gyfres awdurdodol, uchel ei pharch, Taro Naw, sef y rhaglen materion cyfoes fwyaf poblogaidd ar S4C.

Cadwch gofnod wrth i chi fynd ymlaen drwy'r lleoliad gan nodi unrhyw bwyntiau y dymunwch ymchwilio ymhellach iddynt.

Parodd hyn i Schneider ac eraill gymharu trylwyredd yr awdurdodau yn hyn o beth â'u hymdrechion i ymchwilio i gefndir cyn-Natsi%aid.

Rhaid oedd ymchwilio iddynt, ond,wrth wneud, ni ddylid peryglu rhyddid dinesig y cynulleidfaoedd.

Gresyn na fyddent wedi ymchwilio i'r mater cyn codi helynt!

Mae ymchwilio manwl hefyd yn un o gryfderaur gyfres awdurdodol, uchel ei pharch, Taro Naw, sef y rhaglen materion cyfoes fwyaf poblogaidd ar S4C. Un o'r pynciau trafod oedd athrawon yn cael eu camgyhuddo o gamymddwyn proffesiynol.

Mae'r llyfr hwn yn cyflwyno cemeg fel y mae'n effeithio ar ein bywyd beunyddiol ac, wrth ddefnyddio'r hyn sydd i'w gael yn hwylus yn y catref mae'n symbylu plant i ymchwilio ac i sylwi o safbwynt gwyddonol.

Ond, dim ond technoleg ifanc yw mynd i'r gofod i edrych ar y sêr, ac yn y degawdau nesaf dylem ddatblygu'r gallu i ymchwilio'r bydysawd mewn manylder nad oedd Galileo hyd yn oed yn gallu breuddwydio amdano.

Os arhoswn ennyd ac ymchwilio ychydig i'w hanes, gwelwn mai testun rhyfeddod yw anguilta anguilla.

Dadleuodd Frank Smith, a sgrifennodd gofiant i Kay-Shuttleworth, fod y gorchymyn i'r Dirprwywyr i ymchwilio i 'foesau'r' Cymry yn dod o ymyrraeth rhywun anhysbys â'r cyfarwyddiadau gwreiddiol yr oedd Kay-Shuttleworth wedi eu paratoi yn ei fraslun.

Codwyd ffens o gwmpas llain o dir ychydig yn nes ymlaen lle bu sefydliad Ecoleg Tir y Cyngor Gwarchod Natur yn ymchwilio i ffordd o fyw ac arferion pori defaid cyntefig, Soay.

Dyma arwydd glir o sut i gymeryd cam cadarnhaol i sicrhau parhad yr iaith Gymraeg - rhoi statws cynllunio i'r iaith Gymraeg, gan wneud hyn yn ffurfiol, ac yna mynd ati i ymchwilio i gyflwr yr iaith Gymraeg ym mhob cymuned.

Mae gwyddonwyr yn Ffrainc ac yn Helsinki yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd.

Ar ôl hir grafu pen ac ymchwilio, yr unig beth y gallem feddwl amdano oedd y drosedd o geisio camarwain a rhwystro Crwner Sir Aberteifi yn ei ddyletswydd.

Ymchwilio i dagiau electronig.

Ymunwch â'r cymeriadau ifanc wrth iddyn nhw ymchwilio i rifau hyd at 100.

Yn y ddadl ar y Gymraeg ar lawr y Cynulliad gwrthodwyd gwelliant i ymchwilio i'r angen am ddeddf iaith newydd.

d) y dylid adolygu polisiau adrannol yn sgil y trafod a'r ymchwilio.

Yn arbennig am fod tuedd yng Nghymru at derfysg, gyda Merched Beca, a'r Siartwyr yng Nghasnewydd, roedd rhaid ymchwilio i gyflwr Cymru, ac fe ddaw'r cyd-destun cymdeithasol yn amlwg ar dudalennau cyntaf yr Adroddiadau.

Yn y llyfr hwn, byddwn yn ymchwilio i rai sylweddau cemegol y gellir eu gweld yn y cartref.

Mae BAFTA Cymru yn ymroddedig i ddod â phobl o bob rhan o'r diwydiant cyfryngau at ei gilydd i drafod, rhwydweitho ac ymchwilio pynciau perthnasol a chyfoes a chynorthwyo i wella safonau drwy hyfforddiant, gweithdai a dangosiadau.