Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymchwilydd

ymchwilydd

Nid bod yn wrthrych ymchwil yw'r unig rol i'r athro, ond bod yn ymchwilydd ei hun.

Mae tuedd i ymchwil addysgol yng Nghymru ymwneud mwy a diddordeb yr ymchwilydd nag anghenion yr athrawon.

Yn y flwyddyn o'n blaen gobeithiwn gyflogi ymchwilydd annibynnol i wneud astudiaeth fanwl o anghenion tai CiF.

Felly, y ddau ysgogiad sylfaenol mewn Dyneiddiaeth fodern oedd "Natur" a "Rhyddid" - Natur hunanesboniadol a Rhyddid personoliaeth yr ymchwilydd.

Creu sefyllfaoedd o fewn ysgol/adran, cynnig syniadau a fyddo'n ysgogi athrawon i dreialu dulliau ac ystyriaethau newydd ac a allai arwain at yr athro fel ymchwilydd, felly, yw un o nodau'r Pecyn.

Naturiol ydoedd i Mr (wedyn yr Athro a Syr) Ifor Williams fel ymchwilydd dygn i fywyd Dafydd ap Gwilym a pharatowr golygiad gwyddonol cyntaf ei waith ddod i'r maes ar ôl Gruffydd a Lewis Jones.

Felly, peidiodd yr ymchwilydd gwyddonol â bod yn bechadur ac aethpwyd i fawrygu'r bersonoliaeth sofran a rhydd a allai astudio byd Natur heb gyfeirio at Dduw na dim o'r athrawiaethau nodweddiadol Gristionogol.

Nid yw'r chwiw derwyddol yn amlwg yma, ond yn hytrach, ymchwilydd disgybledig sydd wrthi yn trafod ffynonellau'n ddeallus ac yn eu defnyddio'n fedrus feirniadol yn ddogfennau byw i ddarlunio hanes cymdeithas a'i thiroedd.