Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymddangosai

ymddangosai

A golau cochlyd y wawr yn sgleinio ar ei wyneb ac adlewyrchiad y goleuadau blaen yn disgleirio'n wyn yn ei lygaid ymddangosai fel y diafol ei hun, meddyliodd Gareth.

Ymddangosai'n debyg na fyddai Rod Richards, arweinydd y Ceidwadwyr, yn cael ei big i mewn gan fod ei gwestiynau ymhell i lawr y rhestr a'r gweithgareddau'n mynd rhagddynt yn hamddenol.

Pan ymddangosai'r rhain o flaen y camera, llifai sloganau adnabyddus y chwyldro o'u cegau.

Yn awr, cafodd ennyd o'i weld trwy ei lygaid beirniadol ef, ac ymddangosai mor ddi-raen ag adeilad yn ardal y slymiau.

Ymddangosai pamffledyn Ieuan Gwynedd fel amddiffyniad wedi ei amseru'n berffaith i ateb ymosodiadau'r Dirprwywyr ar gymeriad y Cymry: 'Pe buasai yr Awdur yn gwybod pob gair a gynwysai yn adroddiad y Dirprwywyr', meddai'r Diwygiwr ym mis Ionawr, 'ni ysgrifenasai well ateb i'w cabldraethau ar wlad ei enedigaeth.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Ymddangosai mai'r ateb oedd cael rhediad o bibellau a'u gosod oddi wrth y rhan a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer chwaraeon, mewn cornel o'r iard chwarae.

Er hynny, ni chofiaf erioed i mi ddarllen dim di-werth a ddaeth o'i law; i'r gwrthwyneb, gallai ysgrifennu am yr hyn a ymddangosai'n ddi-werth mewn ffordd mor fyw a deniadol fel na ellid ymatal rhag myfyrio ar ei gyfansoddiadau drosodd a thro, gan droi cylchgrawn dros amser yn drysor parhaol i'w anwylo.

Gan fod y cast mor niferus, ymddangosai'r lle yn eithaf llawn, ac yr oedd hynny yn fy ngwneud yn fwy cysurus.

Nid ymddangosai yr un ohonyn nhw fel pe byddain mwynhaur profiad.

Nid ymddangosai fod unrhyw un yn eistedd arnynt byth.

Ni ymddangosai neb yn hapus ac eithrio fe ei hunan wrth gwrs.

Ymddangosai fod y cwmni helwriaethus wedi eu mwynhau eu hunain yn fawr yn ystod y dydd y llwynog, wedi ei godi ac wedi ei ymlid am filltiroedd lawer, wedi ei ddal.

Ond yn awr, ymddangosai i'r cyhoedd fod Froude eisiau distrywio'r Diwygiad.

Roedd hi tuag ugain oed, yn fychan ac eiddil o gorff, ond ymddangosai'n wydn.

Mor gadarn yr ymddangosai'r holl lethrau a chlogwyni enfawr o'm cwmpas yn awr.

Credai nifer o athrawon nad oedd fawr werth i atgynhyrchu arholiadau a oedd eisoes yn bod, yn enwedig pan ymddangosai'r rheiny'n llai a llai perthnasol i anghenion yr ysgol uwchradd newydd.

Gallwn fod yn bur sicr, pe ymddangosai Christmas Evans yn Llangefni'r wythnos nesaf, y byddai cryn dyrru i weld y dyn, ond go brin y byddai pobl yn dal i dyrru i wrando arno ymhen pythefnos.

Ymddangosai fel pe byddain mynd allan o'i ffordd yr wythnosau cyn y gêm i danseilio hyder Arwel Thomas gan dynnun llwyr y tir oddi tan ei draed trwy gychwyn y gêm hebddo ddydd Sul.

Yn Nghapel Jerusalem [y Methodistiaid], yn hwyr yr un dydd, pan oedd y gynulleidfa yn canu ar derfyn yr oedfa, daeth dyn ieuanc i mewn, ac aeth ar ei union i'r set fawr, ac ar ei liniau, ac ymddangosai fel dyn mewn breuddwyd.

Er bod y profiad yn eithriad i mi, ymddangosai yn un cyffredin iawn iddyn nhw tran disgwyl y gwr adref o'i waith neur plant o'r ysgol.

Ymddangosai fel pe bai'n falch o gael eu dangos imi.

Yn wir, gyda'i lais cyfoethog ymddangosai'n debyg mai ef fyddai enillydd y noson.

Wrth syllu ar ei phlu yn disgleirio yng ngoleuni'r haul, ymddangosai'n wahanol i bob aderyn a welswn erioed:

Ymddangosai yn fachgen eithaf cymedrol, a gwisgai sbectol â gwawr las i'r gwydrau.

I mi nid ymddangosai un amser yn balchi%o yn ei rinweddau ei hun; ond pan welai'r rhinweddau hynny yn disgleirio hyd yn oed mewn graddau llai yn eraill, tywynnai ei wyneb gan ddedwyddwch.

Sylwais fod blwch postio yn ymyl y ciosg a ymddangosai yn wirioneddol hynafol er bod ER wedi ei doddi i'w gyfansoddiad.

Ymddangosai'r hen safonau chwaeth yn gul a hen ffasiwn wedi hynny.

Cyfarfyddai'r teulu ysbardunog wrth y Plas, ac ymddangosai pawb mewn ysbryd uchel a rhagorol, a hynod chwannog i'r helfa.

Anerchodd y gynulleidfa, ac ymddangosai dan argraph hynod.

Ymddangosai Alun Michael yn ddiffuant o ddiolchgar iddi am gyfraniad amserol a rhoddodd sicrwydd fod pob hawl i aelodau'r Cynulliad berthyn i'r Seiri Rhyddion ond na allent ddisgwyl bod uwchlaw arolwg.

Yn y Traethodau i'r Amseroedd dangosodd Newman nad oedd yn hoffi'r gair 'Protestant' ac ymddangosai fel pe bai eisiau diwygio'r Diwygiad.

Cofiaf yn dda fel yr ymddangosai'r llyfrau amryliw tua diwedd y flwyddyn ym mhlith y rhai nas gwelid eto ar ôl gwyliau'r haf, ac fel y cafodd Islwyn a Keats ac Eifion Wyn a Fitzgerald ac Eben Fardd a Milton bawb eu sbel ym mhlith rhigymau llai anfarwol.

Ymddangosai popeth fel petai'n digwydd ar unwaith.

Ar y pryd rhyfeddais at y ddyfais anhygoel ond erbyn hyn ni chredaf fod JH (a dyna fyddai pawb yn ei alw) yn bencampwr ar ei thrin oherwydd ymddangosai'r lluniau â'u hwyneb i waered yn lled aml.

Weithiau, ymddangosai'n ddigon llawen, a byddai'n myngial canu rhyw hen rigymau wrthi'i hun, a'i llais yn cyd-wichian â'r dro%ell, pethau megis:

Ai felly yr ymddangosai i Emyr?

Nid ymddangosai fod Alice yn gwrando.

Canfu'r bardd y dyluniad beiddgar hwn 'yn fap o Gymru a ymddangosai fel petai wedi hoelio at ei gilydd ddarnau o ddefnydd amrywiol, darnau o bren haenog wedi'u peintio neu ddarnau o fwrdd wedi'u gorchuddio gan frethyn.

Os buoch chwi'n ceisio gwerthu buwch sbeitlyd ryw dro, fe gofiwch fel yr ymddangosai fod holl stūr y farchnad yn tarddu o gylch eich cyfeilles.