Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymddangosodd

ymddangosodd

Mae'r nofel hon, a ymddangosodd cwta fis ar ôl ei farwolaeth, yn un o weithiau llenyddol mwyaf sylweddol ei gyfnod yn yr iaith Lydaweg.

Yna, fe beidiodd y gwynt ac ymddangosodd yr haul.

Y Democrat Al Gore ymddangosodd gyntaf.

Y gwrthdaro rhwng y grefydd sefydledig a 'zel danbaid' y methodistiaid yw cefndir Merch y Sgweiar Bobi Jones a ymddangosodd yn Barn, gyda'i phortread byw o Theophilus Evans, ac aiff Elwyn L.

Roedd yn anrhydedd mawr pan ymddangosodd pedwar gwleidydd blaenllaw sef Mary Robinson, Mikhail Gorbachev, Eduard Shevardnadze a Lech Walesa mewn rhaglen arbennig, Dathliad Gwag? a gynhyrchwyd ar gyfer BBC Cymru gan y cwmni annibynnol, Quadrant.

Yn y bedwaredd wylfa o'r nos, yn ôl dull y Rhufeiniaid o rannu'r nos, ymddangosodd yr Iesu iddynt, yn cerdded ar y môr ac yn nesa/ u at y cwch fel drychiolaeth (ffantasma).

LLONGYFARCHIADAU i Hugh Williams, Pant yr Afallen ar ei lwyddiant ysgubol gyda'r Hwch Las a'r deg mochyn bach, heb anghofio wrth gwrs yr hwch ei hun a'r tad - er mai y cwbl a ymddangosodd am y creadur hwnnw oedd mai Duroc oedd ei 'fec' - neu ei fecwn hwyrach!

Ymddangosodd milwr arfog dros y gorwel a rhedeg i lawr y llechwedd.

Ie yr ymddangosodd y gân gyntaf?

Ymddangosodd newid sylweddol o ran agwedd tuag at longddrylliadau hynafol gyda gwaith Bass a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol Pennsylvania.

Ymddangosodd pen melyn, yna gwelwn ferch ifanc osgeiddig yn gwenu'n siriol ar Enoc, a ddaethai i'w chyfarfod.

Nos Wener diwethaf ymddangosodd Nigela Lawson ar Have I Got News for You gydag enw Delia ar draws ei dwyfron - ond yn proffesu eu bod yn ffrindiau.

Ond ychydig oriau'n ddiweddarach ymddangosodd y Gweriniaethwr George W Bush ar y teledu, gan wrthod y cynnig.

A'r funud honno, fel tae o'n gneud ati, ymddangosodd Malcym yn chwil o ganol y das wair, yn pesychu, tagu, tishian, rhochian, poeri a mygu am yn ail.

Bu'r wasg yn llawn yr wythnos hon yn condemnio y Daily Mirror am ymyrryd a phreifatrwydd pobol, ond doedd neb yn cwyno am Nia -- ddim hyd yn oed un wylwraig a oedd a llond ceg o sandwich wy pan ymddangosodd Nia fel huddug i botes wrth ei hochor!

Yn ogystal, ymddangosodd ei ffrind, Sarah Jones, ar gyhuddiad o dderbyn y dillad o ddwylo Catherine gan wybod mai wedi eu dwyn yr oeddent.

Yna, lledaenodd yr haint i orllewin yr Unol Daleithiau ac yno, yn ardal Los Angeles yng Nghaliffornia yr ymddangosodd yr haint gyntaf yng ngwledydd y Gorllewin.

Max Boyce Pan ymddangosodd Max Boyce ar ein sgriniau am y tro cyntaf ers deng mlynedd ym 1998 cafodd BBC Cymru y ffigurau gwylio uchaf erioed.

Ymddangosodd aelodau o'r cast yng Ngwyl y Gelli i berfformio golygfeydd o'r ddrama, tra y bur uwch gynhyrchydd David Ian Neville yn cynnal gweithdai awduron i ddilynwyr brwd yr opera sebon.

Yr un mor ddisymwth, ymddangosodd lletwad yn llaw Mini a dyma hi'n dechrau troi'r cynhwysion yn y crochan gan lafarganu% 'Cymysger, cymysger Holl gynnwys y crochan.

Aeth nifer helaeth o'r bonedd ati nid yn unig i ddarllen hanes ond i'w ysgrifennu hefyd, ac yn araf tyfodd diddordeb brwd mewn bywgraffyddiaeth, ac ymddangosodd hwnnw un ai yn astudiaeth o berson gwrthrychol neu yn gronicl o deulu neu ardal arbennig.

Gwynn Jones y gadair genedlaethol ym Mangor â'i awdl enwog "Ymadawiad Arthur", ac yn yr un flwyddyn ymddangosodd erthygl gan John Morris-Jones yn Y Traethodydd, sef datganiad o gyffes ffydd lenyddol yr adfywiad.

Yn y Gorllewin, afiechyd a ymddangosodd gyntaf ymysg dynion cyfunrywiol oedd AIDS.

Danid Rowland a gyhoeddodd fwyaf, ond yn ôl ei gofiannydd diweddaraf, nid oes ar glawr fwy nag un ar ddeg a gyhoeddwyd yn ei ddydd, ac ymddangosodd y ddeuddegfed ymhen rhai blynyddoedd ar ôl ei farwolaeth.

Ar hynny, ymddangosodd wyneb tad Ifan yn y drws.

Dan gochl y ffugenwau 'Cambro Sacerdos' a 'Ordovicis' yr ymddangosodd y llythyrau bustlaidd hyn, ond gwyddai Ieuan Gwynedd mai ficer Aberdâr oedd y 'Jeroboam rhyfygus a chelwyddog hwn'.

Pan ymddangosodd Teflon Monkey ar raglen Iestyn George –Y Sesiwn Hwyr – nôl ym mis Hydref, 'roedd hi'n amlwg bryd hynny fod gan Rhodri Vine dalent aruthrol a bod ei gerddoriaeth yn syml ond eto yn hynod o effeithiol.

(ch)Rheilffordd y Cambrian CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar erthyglau a ymddangosodd yn y wasg yn ddiweddar ynglŷn â bwriad y Rheilffyrdd Prydeinig i gau rhai gorsafoedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian.

Yn y flwyddyn hon hefyd yr ymddangosodd ei gerdd 'Y Tlawd Hwn' yn Y Llenor.

Rhaid wrth fwy nag ewyllys da i'r iaith Gymraeg, ac efallai bod tynged yr iaith yn dibynnu yn llawer iawn fwy nac a ymddangosodd hyd yn hyn ar ein cynrychiolwyr ar y cynghorau.

Beth bynnag, yn ôl a gofiaf, pan fu rhaid iddo ddangos y 'cerdyn' hollbwysig yn y diwedd, fe ddywedwyd yn garedig wrtho fod Pantycabal wedi bod yn gyfan gwbl yn yr iawn, er ychydig yn ddihiwmor o bosib, a'i fod ef, Waldo, wedi troseddu wrth beidio â dangos y cerdyn, ond y câi ef ei esgusodi'n llwyr pe bai ef yn sgrifennu ychydig o'r hanes ar gân i'r Pembrokeshire Police Gazette; ac yno, onid wyf yn camgymryd, yr ymddangosodd y gerdd am y tro cyntaf.

Ymddangosodd crochan gweddol o faint wrth droed fy ngwely, a'r un mor ddisymwth dyma bob math o bethau yn hedfan i mewn iddo!

Yn wynt ac yn goch i gyd ymddangosodd rhes o redwyr chwyslyd a oedd yn amlwg wedi bod yn ymlid râs hir iawn.

Ni lwyddais i ail- greu yn fanwl holl hanes sefydlu'r papur, ond yn amlwg, roedd Prosser Rhys yn ffigwr allweddol, er nad ymddangosodd ei enw erioed yn y papur.

Ymddangosodd pedwar o'r Ffindir ar lwyfan y noson derfynol o'i gymharu â thri o Canada, Yr Almaen, Yr Unol Daleithau a Chymru.

Wedi'r egwyl ymddangosodd Stephanie Novacek, mezzo hyderus o'r Unol Daleithau.

Ymddangosodd aelodau o'r cast yng Ngwyl y Gelli i berfformio golygfeydd o'r ddrama, tra y bu'r uwch gynhyrchydd David Ian Neville yn cynnal gweithdai awduron i ddilynwyr brwd yr opera sebon.

Ond tybed ai dyma'r unig fwynhad a gâi'r darllenwyr wrth flasu'r stori hon (a ymddangosodd gyntaf yn Seren Gomer) am ddrychiolaeth go gnawdol ei dueddiadau:

Cyn pen yr awr ymddangosodd modur ar frig y banc i'r gogledd.

Y mae'n ddigon tebyg mai yn y Traethodydd yr ymddangosodd y gân, oherwydd yno y gyrrai Islwyn y darnau y byddai falchaf ohonynt.

Yn 1997 yr ymddangosodd Haydn yng Nghwmderi gynta a daeth yn rhan o fywyd y pentre pan ddechreuodd fynd allan gyda Kath.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe ymddangosodd Beibl Saesneg arall sy'n honni ar ei wynebddalen ei fod wedi ei gyfieithu gan 'Thomas Mathew'.

Ychydig yn ddiweddarach na phapur yr Athro W J Gruffydd fe ymddangosodd papur gan yr Athro Lewis Jones, 'The Literary Relationships of Dafydd ap Gwilym', lle pwysleisir drachefn ddylanwad y Trwbadwriaid ar Ddafydd ap Gwilym ond yma pwysleisir ef ochr yn ochr â dylanwad barddoniaeth Ladin Glasurol a barddoniaeth Ladin yr Ysgolheigion Crwydrad.

Ond o'i chlywed, holais yn fanwl, fel y doethion gynt, am y lle a'r amser yr ymddangosodd y fath broffwydo.

Yn 1999 yr ymddangosodd Madog am y tro cynta.

Ond ymddangosodd sefydliadau eraill hefyd.