Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymddeol

ymddeol

Ond y mae dau anhawster: yn gyntaf, i ddyfynnu Crwys: 'Prin yw'r arian yn god', ac yn ail, beth a wnawn ag ef, wedi ei brynu ar wahân i ymddeol iddo, efallai?

Wedi ymddeol symudodd i fyw i Fulmar Rd, Porthcawl at ei chwaer Mrs Nell Petty a Mrs Margaret Hughes.

Nad anghofiwn chwaith un arall o hogiau'r Penmaen sydd wedi ymddeol yn ddiweddar.

Ond yna, yn y diwedd, wedi bod yn dod i Lŷn at y tŷ a'r cwch am flynyddoedd, ymddeol yn gynnar a dod i Lŷn i fyw yn fewnfudwr.

Harold Wilson yn cyhoeddi'n annisgwyl ei fod am ymddeol fel Prif Weinidog, a James Callaghan yn ei olynu.

Nid oedd obaith mynd allan i doi cwt yr ieir, oherwydd y tywydd, a bodlonais, fel rhywun wedi ymddeol, ar eistedd yn ddigywilydd ganol y bore i edrych ar y teledu.

Ar ol y ffilm caiff Mona'r usherette a Trefor y projectionist wybod gan Eli y rheolwr sydd ar fin ymddeol fod y lle i'w gau - penderfyniad ciang o ddynion di-Gymraeg na fu erioed ar gyfyl y lle.

Dymuniad y pâr oedd i rywun gymryd gofal o'r ty tan y bydden nhw'n ymddeol, ac awgrymodd Myrddin y bydde Aurona a finne'n barod i 'neud--neidio am y cyfle fydde'n agosach at y gwir.

Marwolaeth Trist oedd clywed am farwolaeth sydyn John Lewis a fu ar staff llyfrgell Pencoed am flynyddoedd cyn ymddeol.

Hoffwn fanteisio'n arbennig ar y cyfle hwn i ddiolch i ddau o'n haddysgwyr amlycaf, yr oedd y Gymraeg yn agos iawn at eu calonnau, am eu cyngor cadarn a'u cefnogaeth barod i waith y pwyllgor ar bob achlysur, sef Mr Illtyd Lloyd (Prif Arolygydd Ysgolion Cymru a ymddeolodd yn gynt eleni) a Mr Gareth Lloyd Jones (Ysgrifennydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru a fydd yn ymddeol ddiwedd Awst).

Sgoriodd Vaughan 97 a Hick 101, cyn iddo ymddeol o'r llain.

Yn ddarlithydd prifysgol cyn iddo ymddeol y mae un o'r awduron, Alun Rhys Cownie o Gaerdydd, yn ddysgwr ac yn awr yn byw ym Mhwllheli lle dysgodd Gymraeg.

Oes, mae yna lawer o bethau o blaid bod wedi ymddeol!

Yn ôl gohebydd pêl-droed Radio Cymru, John Hardy, ar y Post Cyntaf, 'Mae Saunders yn teimlo mai dyma'r adeg i ymddeol o chwarae i Gymru, ond mae'n gobeithio cadw cysylltiad a'r tîm cenedlaethol drwy gynorthwyo ar yr ochr hyfforddi.

Dymunwn ddiolch a dymuno yn dda i weithiwr Aberconwy sydd wedi ymddeol ar ol rhoi gwasanaeth gwerthfawr trwy gasglu sbwriel o amgylch yr ardal.

Daeth llawer o Iythyrau o gefnogaeth inni, a chododd ein calonnau wrth eu darllen--un gan Arolygydd Ysgolion wedi ymddeol, rnai gan ardaloedd eraill a oedd yn wynebu'r un broblem a mai gan addysgwyr profiadol.

Roedd Caerdydd yn ffarwelio â hen ffefryn arall neithiwr, Mike Rayer, sy'n ymddeol ar ôl chwarae dros 350 o gemau i'r clwb.

Mae traean o aelodau yn ymddeol bob blwyddyn ond maent yn gallu cael eu hailethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Deellir fod Mr Eirwyn Williams yn ymddeol o'i waith fel gofalwr Plas y Llan.

Ychydig cyn i mi ymddeol y daeth y bysys mini - rhyw fysys bach fel 'prams' a phawb yn gwenu wrth ein gweld yn dod.

Mae'r rhwyfwr Steve Redgrave, enillodd ei bumed medal aur yng Ngemau Olympaidd Sydney, wedi cyhoeddi y bore yma ei fod yn ymddeol o gystadlu.

Ar ddechrau mis Rhagfyr y bu i Mr Allen Jones, Roci Harbour ymddeol o'i swydd yn swyddfa'r chwarel.

Hen ferch unig wedi ymddeol ac yn cael hanner gradd mwy o sylw na phapur newydd sy'n flwydd oed.

Mae cartrefi mewn llawer o'n hardaloedd yn troi yn dai haf ac yn dai i bobl ymddeol; codir stadau mawr mewn llawer pentref ar gyfer pobl o'r tu allan. Mae ieuenctid ein gwlad yn cael eu cyflyrru i dderbyn mai gadael eu bro eu hunain i chwilio am waith yw eu tynged.

Ond dyna'r peth olaf a fynnai Willie wedi iddo ymddeol.

Hysbyswyd yr aelodau fod Eira Jones wedi ymddeol o'r Ganolfan Gynghori fis Rhagfyr, a bod y Cadeirydd wedi anfon gair o werthfawrogiad y Ganolfan ati am ei dyfalbarhad am yr holl flynyddoedd.

Cofiaf rai blynyddoedd yn ol, mewn cinio ym Mangor, wrando ar y gŵr gwadd sef Richard Lloyd, cyn Organydd Eglwys Gadeiriol Henffordd ac yn ddiweddarach Durham, sydd yn awr wedi ymddeol ac yn byw ym Mhentraeth, Mon, yn cofio ei wyliau pan yn fachgen yn Llangairfechan ac yn mynd i un o ddatganiadau Ffrancon a hefyd yn cofio ei garedigrwydd drwy ganiatau iddo ymarfer ar organ wych Eglwys Crist.

Eraill wedi ymddeol, yn gwario cryn amser yno yn 'rhoi'r byd yn ei le'.

Moscow yn galw Thatcher yn 'Iron Lady' a 'wicked cold war bitch'. Harold Wilson yn cyhoeddi'n annisgwyl ei fod am ymddeol fel Prif Weinidog, a James Callaghan yn ei olynu.

Ymhlith yr aelodau yr oedd: Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor y Llyfrgell; Edward Lewis, Cyhoeddwr, Llandysul (yno fel Cynghorwr); dau athro wedi ymddeol, ond yn Gynghorwyr; dwy wraig o Aberystwyth; Prifathro Ysgol Uwchradd, a Phrifathro Ysgol Gynradd.

Er mai ffermwr diafael ydyw, mae'n ddigon cysurus ei fyd, ac yn gallu fforddio ystyried ymddeol hyd yn oed.

Roberts, sydd hefyd yn byw ym Mhwllheli, yn brifathro ysgol gynradd cyn ymddeol.

Teulu o Drecastell ydynt yn wreiddiol, ac yno bu Tom Davies yn ffermio nes iddo ymddeol.

Roedd un o'r tai wedi'i brynu gan wr a gwraig o'r Rhondda, oedd yn rhedeg busnes yn Llunden ar y pryd, ac yn bwriadu ymddeol i Lan-y-fferi ymhen dwy flynedd.

Doedd gen i ddim awydd trafod fy mywyd ar ganol y rhodfa fel hyn, ond er mwyn heddwch fe grybwyllais yr ymddeol a'r fflat, a dyma hithau'n cydio yn y wybodaeth fel octopws yn ymestyn un o'i freichiau i gydio mewn ysglyfaeth.

Gof oedd o cyn ymddeol, ac mae o'n un siort gynta hefo pethau mecanyddol.

Rhan o'i ddyletswydd beunyddiol cyn iddo ymddeol oedd cerdded ar hyd trac y rheilffordd ar hyd y gangen a arweiniai o lein Aberystwyth i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn pellter o ddeng milltir, i wneud yn siwr fod pob allwedd, os hynny yw'r term sy'n cyfieithu 'key', yn ei lle rhwng y cledrau ac ochr allanol y cwpanau dur a i daliai.

Erbyn hyn mae John wedi'n gadael ac ymddeol fu hanes yr athro hefyd.

Lenin yn ymddeol.

Er enghraifft, y dylid rhoi yr hawl i ffermwyr adeiladu tai ar eu tir ar gyfer ymddeol neu ar gyfer aelodau o'u teuluoedd.

Nodweddion, cymhelliad a sefyllfa bersonol oedolion sy'n llwyddo (hy y cysylltiad rhwng llwyddiant a'r newidiadau mawr ym mywydau unigolion, fel cael plentyn, dychwelyd i Gymru, ymddeol, ysgariad).

Ni thâl siarad fel petai Duw wedi ymddeol.

'Chlywais i erioed mohono fo'n cwyno hefo dim afiechyd, ac mi fuo'n gweithio yn y chwarel nes cyrraedd oed ymddeol heb golli un munud oddi wrth ei waith.

Mae fy nhad wedi ymddeol yn awr, ond arferia weithio yng ngwaith y British Rail yma, cyn iddo gau."

Daw pobl wedi ymddeol ac eraill i gymryd eu lle.

Cafwyd ymateb eithaf sylweddol hefyd gan bobl oedd wedi ymddeol, gweithwyr rhan-amser, gwyr a gwragedd ty, myfyrwyr coleg a'r di-waith.

Pwyswr yng ngwaith glo Tu-draw, Blaenrhondda ydoedd cyn ymddeol, er iddo gael ei brentisio'n deiliwr.

Ond ar y llaw arall gallai fod yn llaith ac yn ddrafftiog yn y gaeaf A dyna ichwi dystiolaeth fod gennyf ffydd nid ychydig yn y Wladwriaeth Les a'i darpariaeth dai, a minnau mor beryglus o agos i'm hoedran ymddeol, heb arlliw o fwthyn uncorn o dŷ haf na dim arall i droi iddo pan fydd raid troi o'r annedd steil ar ben stôl y gwelodd yr Eglwys yng Nghymru neu ddamwain hanes imi drigo ynddi nawr'.