Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymddiddorai

ymddiddorai

Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd yn arfer gan foneddigion a ymddiddorai mewn ysgolheictod a dysg estyn croeso i wyr galluog i'w tai.

Ymddiddorai mewn pel droed a chriced, mewn drama ac opera, a hwyl o bob math.

Etholwyd ef yn ddiacon yn Eglwys Annibynnol Pendref, ac ymddiddorai yn holl weithgareddau'r capel.

Ymddiddorai yng ngeiriau olaf cleifion ar eu gwely angau a chofnodai feddargraffiadau yn awchus.

Ymddiddorai'n fawr ym mechgyn darllengar y chwarel a helpodd lawer arnynt ar hyd ei oes.

Dywedir iddo gael ei addysgu'n breifat ac nid oes son iddo fod mewn prifysgol, ond y mae ehangder ei ddiddordebau'n ei osod yn enghraifft nodweddiadol o ddiwylliant gwyddonol yr ail ganrif ar bymtheg, oblegid yr oedd yn hanesyddol, yn archaeolegydd ac yn ieithegydd a ymddiddorai'n fyw iawn mewn dacareg ac amaethyddiaeth ac a wyddai gryn dipyn am wyddoniaeth ddiweddaraf ei ddydd.