Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymddiheuro

ymddiheuro

Galwn ar i'r Cynulliad Cenedlaethol i ymddiheuro ac i ddatgysylltu ei hun yn llwyr oddi wrth y geiriau uchod gan wneud yn siwr na fyddant yn ymddangos yn y fersiwn derfynol o'r ddogfen a anfonir i Ewrop.

Ynteu ai 'mhen ddaru ymddiheuro i Vatilan...

'Rhaid i mi ymddiheuro am darfu arnoch chi ar y Sul,' meddai Rhian.

A chwarae teg iddo fo, mi anfonodd gardyn o'r carchar yn ymddiheuro i'r cawg.

Unwaith y sylweddolodd na fyddai'n gallu dychwelyd i'w gwaith ar y dyddiad a drefnwyd, cysylltodd â chynifer o'i chyflogwyr ag y gallai i ymddiheuro, ac i gwyno am ei merch or-ofalus.

O ran hynny mi wnaeth y cawg anfon cardyn i minnau yn ymddiheuro am y pen.

Wrth i'r cast ddod at ei gilydd i ymarfer "A Ddioddefws a Orfu%, doedd neb yn ymddiheuro.

Cyn it i gael amser i ymddiheuro, i esbonio nac i raffu celwyddau, cwyd yr hen ŵr ei fraich â'i law agored tuag atat.

Dydw i ddim yn disgwyl i chi ymddiheuro am eich ymddygiad haerllug ond, o leia, fe fedrech chi egluro." "O," ochneidiodd yntau, a dechrau siarad fel petai'n siarad â phlentyn.

(Rwy'n ymddiheuro am fod ei deitl yn un trwsgl, ond does i'r gwreiddiol Saesneg, sef 'Custody Officer', fawr o geinder chwaith.) Fel yr awgrymir gan ei deitl, priod waith y Swyddog Cadwraeth yw cadw.

Rydw i'n ymddiheuro." Am eiliad, caledodd ei lygaid.

Yn hytrach nag ymddiheuro, fodd bynnag, cerddodd yn dalsyth rhwng y peiriannau, gan egluro bob cam o'r gwaith hyd y gallai.

Ynddo roedd nodyn yn ymddiheuro am "fenthyca'r car" ac unrhyw drafferth a achoswyd o ganlyniad, ond roedd cariad y gūr a sgrifennodd y nodyn wedi ei tharo'n wael ac yntau wedi gorfod ei rhuthro i'r ysbyty yn y car agosaf.

Wnaeth hi ddim petruso o gwbl ac am fod ganddi gar gofynnais iddi alw am Mrs West a Mrs Dixon hefyd Ffonio Mrs Dixon i adael iddi wybod am y trefniadau a hithau; chwarae teg iddi, yn ymddiheuro am y tro anffodus wythnos i heddiw.

Fedrwn ni ond gobeithio y bydd cerddoriaeth o'r fath yn cyrraedd y siopau'n eithaf buan ond, yn y cyfamser, fe fydd Gang Bangor yn ei chwarae byth a beunydd, a does gennym ni ddim bwriad ymddiheuro am hynny.

Nid oedd dim amdani ond ymddiheuro, â'i gynffon yn ei afl, a gollwng y bechgyn yn rhydd gyda rhybudd.

Er hynny, fe'i gorfodwyd gan y gwahaniaeth poenus rhwng ei dull hi o waith a'i ffordd yntau i ymdrechu'n anfodlon i ymddiheuro.

Dechreuasant ymddiheuro ond torrais ar eu traws a cherdded tuag atynt.

Dyma fo'n fy ngweld i ac yn dod ataf i ymddiheuro'n arw gan ddweud: "I've been on this f...ing street all f...ing afternoon and I've had enough" ac wedi dod am beint.

Petai Carol ond wedi gadael i Emyr ei ffonio hi neithiwr, ni fyddai'r un ffrae wedi bod ac ni fyddai hithau'n sefyll yn yr hen le annifyr yma'n disgwyl ei thro i gael ymddiheuro i'w gŵr.

Tra medrwn ni greu cystal ffilmiau â Hedd Wyn, does dim angen i ni ymddiheuro am natur 'lenyddol' ein meddylfryd ffilmaidd.

Y cwbl yr oedd arni eisiau ei wneud oedd ffonio Emyr i ymddiheuro am y ffrae.